Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

I'r rhai ohonoch chi sydd wedi gweld Madagascar, byddwch chi'n gyfarwydd â'r criw cyfeillgar o bengwiniaid a'u hymadrodd eiconig, “Smile and wave, boys, smile and wave”.

Pan fydd rhywun yn gofyn y cwestiwn dychrynllyd hwnnw “Sut wyt ti?” neu'n dangos ei fod yn poeni am fy lles meddwl, dyma'r ymadrodd y bydd fy meddwl yn troi ato bob tro (heb y pengwiniaid cartŵn eiconig).

Gwena a chwyd dy law. Symud yn ôl yn araf. Dwed dy fod yn iawn a bydd popeth yn iawn.

Dyma oedd fy mantra am flynyddoedd.

‘Sut wyt ti?’, ‘Dwi'n iawn’. ‘Sut mae dy iechyd meddwl?’, ‘Mae popeth yn iawn’. ‘Beth sy’n bod?’ ‘O, dim byd, wir’. Gwena. Cwyd dy law. Ceisia newid y pwnc. Ceisia osgoi. Daeth yn reddf naturiol a oedd, yn fy marn i, yn fy niogelu i a'r rhai sydd agosaf ata i. 

Mewn gwirionedd, y peth olaf roeddwn i am ei wneud oedd gwenu. Roeddwn i wedi bod yn dioddef o iselder ers oedran ifanc, ac rydych chi'n cyrraedd pwynt pan rydych chi'n rhoi'r gorau i ymateb yn onest i'r cwestiynau “sut wyt ti”. Ddeg mlynedd yn ddiweddarach, rwyf wedi defnyddio pob gair posibl i ddisgrifio sut rwy'n teimlo. Ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau, roedd fy ateb yr un peth – teimlad sylfaenol a oedd yn gwrthod cael ei ysgwyd fel cwmwl tywyll dros fy mhen – ond ar ôl dweud yr un hen ateb dro ar ôl tro, rydych chi'n dechrau teimlo fel tiwn gron. Baich. Methiant am beidio â theimlo'n wahanol. Weithiau, doeddwn i ddim hyd yn oed yn siŵr sut roeddwn i'n teimlo na pham, heb sôn am geisio ei roi mewn geiriau.

Mae'n drueni mawr na wnaeth rhywun ddweud wrtha i pa mor ddilys oedd y teimladau hynny ar yr adegau hynny. Dyw teimladau ddim yn drefnus. Dydyn nhw ddim yn ciwio'n daclus wrth y drws ac yn dod i mewn un ar y tro wrth gael eu gwahodd. Maen nhw'n ddryslyd ac yn annisgwyl, ac yn cymryd amser i'w deall a'u prosesu, a gall hynny gymryd blynyddoedd weithiau. Ac yn fwyaf pwysig, does dim rhaid iddyn nhw gydymffurfio â'r hyn y mae eraill yn disgwyl i ni ei deimlo.

Rwy'n cofio y tro cyntaf i mi eistedd i lawr gyda ffrind a bod yn onest am sut roeddwn i'n teimlo. Roedd wedi gofyn i mi sut oeddwn i, ac er bod fy ymennydd wedi troi ar unwaith at yr opsiwn “gwena a chwyd dy law”, cymerais anadl a phenderfynu bod yn agored â hi. Esboniais fy hanes o iselder a bod y cwestiwn “Sut wyt ti” yn un anodd iawn ei ateb gyda'r sbardunau yr oedd yn eu codi i mi. Eisteddodd i lawr. Gwrandawodd, a phan oeddwn i wedi gorffen siarad, gofynnodd, “Sut hoffet ti i mi wneud yn siŵr dy fod yn iawn?”

Roeddwn i'n teimlo fel bod mwgwd wedi cael ei dynnu. Dyma'r tro cyntaf i mi eistedd gyda fy nheimladau a'u derbyn am beth oedden nhw. Wnes i ddim eu bychanu. Wnes i ddim ceisio ffoi oddi wrthyn nhw. Gwnes i eu dal a chydnabod mai fy nheimladau I oedden nhw a'u bod yn ddilys.

Dyna'r neges rwyf am ei rhannu â chi – beth bynnag oedd eich teimladau, beth bynnag oedd eich ateb i'r cwestiwn “sut wyt ti” – mae eich teimladau'n ddilys, maen nhw'n haeddu cael eu clywed, a'ch rhai chi ydyn nhw i'w teimlo. Dim ond am fod eich teimladau, eich anghenion neu eich ffiniau yn wahanol i rai pobl eraill, nid yw'n golygu eu bod yn haeddu cael llai o barch a gofal.

Beth am normaleiddio'r cwestiwn, “Sut hoffet ti i mi wneud yn siŵr dy fod yn iawn?” a chreu amgylchedd lle mae'r rhai rydyn ni'n siarad â nhw yn gwybod eu bod hi'n ddiogel iddyn nhw fod yn fregus yn y ffordd sydd fwyaf cyfforddus iddyn nhw. P'un a yw hynny'n golygu defnyddio ‘memes’ neu ‘GIFs’, rhoi sgôr o 1-10 i fesur sut maen nhw'n teimlo, eu hannog i fynegi eu hunain a'u teimladau drwy gelf a ffyrdd creadigol eraill, neu ofyn cwestiynau mwy penodol am eu statws iechyd meddwl drwy gydol yr wythnos yn lle'r cwestiwn cyffredinol “Sut wyt ti?”. Gyda'n gilydd, gallwn ni chwalu'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl un sgwrs ar y tro.

Efallai hoffech

Ymarfer ar gyfer fy Iechyd Meddwl

Mae Natalie yn rhannu ei pherthynas ag ymarfer corff gyda ni a sut mae wedi effeithio ar ei hiechyd corfforol a meddyliol.

10th May 2024, 5.00pm | Ysgrifenwyd gan Natalie

Darganfyddwch fwy

Fy Nerth Meddyliol

Mae Karen yn rhannu sut mae cymryd rhan mewn hyfforddiant pwysau wedi’i lywio gan drawma wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar ei lles meddyliol.

10th May 2024, 5.00pm | Ysgrifenwyd gan Karen

Darganfyddwch fwy