Hyrwyddwyr – Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin ynghylch cau rhaglen Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru.

1. Rwyf wedi ysgrifennu blog ar gyfer Amser i Newid Cymru ac mae wedi'i restru yn adran Storïau Personol y wefan. Beth fydd yn digwydd iddo pan fydd y rhaglen yn cau? 

Bydd adran Straeon Personol y wefan yn cael ei datgomisiynu ar 31 o Fawrth 2025. Mae hyn oherwydd rhesymau diogelu data a llywodraethu data nad ydynt yn caniatáu i ni gadw gwybodaeth gan gynnwys manylion personol yn hwyrach na chyfnod ariannu’r rhaglen. Rydym yn sylweddoli y bydd hyn yn siomedig i lawer ohonoch gan ein bod yn cydnabod bod llawer o amser ac ymdrech wedi mynd i mewn i ysgrifennu'r blogiau hyn. Os dymunwch lawrlwytho eich blog a'i ail-bwrpasu yn rhywle arall, gwnewch hynny cyn 31 Mawrth. 

2. Dwi wedi recordio podlediad gydag Amser i Newid Cymru sydd wedi ei gyhoeddi. Beth fydd yn digwydd i'r podlediad hwn unwaith y daw'r rhaglen i ben? 

Byddwn yn parhau i gynnal y penodau podlediadau am 12 mis ar ôl i'r rhaglen ddod i ben. Os ydych wedi recordio episod gyda ni byddwn yn cysylltu â chi yn uniongyrchol i ofyn am eich caniatâd i barhau i gynnal eich episod am 12 mis arall. Ar ôl 12 mis bydd y podlediad yn cael ei ddileu.

3. Beth fydd yn digwydd i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Amser i Newid Cymru? 

Byddwn yn cau ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar 31 Mawrth 2025. Mae hyn oherwydd nad yw'r sianeli bellach yn cyflawni eu dibenion gwreiddiol. Bydd ein sefydliadau cynnal yn parhau â'r ddeialog am waith gwrth-stigma ar eu sianeli nhw. Mae manylion a dolenni y sianeli i'w gweld isod. 

4. Pa gyfleoedd eraill sydd ar gael i mi ddefnyddio fy mhrofiad byw?  

Byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi rannu eich profiad byw ar draws Adferiad a Mind Cymru. Oherwydd rhesymau diogelu data a throsglwyddo data, ni allwn drosglwyddo eich manylion i'r naill sefydliad na'r llall ar eich rhan. Bydd angen i chi optio i mewn i unrhyw gyfleoedd a rennir gyda chi gan ddefnyddio'r dolenni a'r manylion a ddarperir ar gyfer pob cyfle. Gallwch barhau i gefnogi diwrnodau ymwybyddiaeth iechyd meddwl fel Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a Diwrnod Amser i Siarad. 

5. Ydy diwedd Amser i Newid Cymru yn golygu diwedd Diwrnod Amser i Siarad?  

Na, nid yw diwedd Amser i Newid Cymru yn golygu diwedd Diwrnod Amser i Siarad yn awtomatig. Mae Diwrnod Amser i Siarad yn cael ei redeg ar wahân gan bartneriaid cenedlaethol eraill, nid Amser i Newid Cymru yn unig. Gallwch barhau i'w gefnogi, ynghyd â diwrnodau ymwybyddiaeth iechyd meddwl eraill fel Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. 

6. Beth fydd yn digwydd i fy manylion personol a arbedwyd gan dîm Amser i Newid Cymru?  

Bydd yr holl ddata personol sy'n ymwneud â Hyrwyddwyr yn cael ei ddinistrio a'i ddileu ar 31 o Fawrth. Mae hyn oherwydd cyfraith Diogelu Data nad yw’n caniatáu i ni gadw na throsglwyddo eich data i’n sefydliadau cynnal. Byddwn yn darparu rhestr o gyfleoedd y gallwch optio i mewn iddynt a rhannu eich manylion personol gydag Adferiad a/neu Mind Cymru os dymunwch. 

7. Beth sy'n digwydd i unrhyw gredydau amser Temp nad wyf yn eu hawlio eto?

Bydd holl oriau gwirfoddolwyr a gofnodwyd hyd at gau yn cael eu cydnabod. Byddem yn eich annog i ddefnyddio unrhyw gredydau cyn 31 o Fawrth.  Byddwch yn gallu cael mynediad i'ch cyfrif ar ôl y 31 o Fawrth ond ni fydd unrhyw gredydau newydd yn cael eu hychwanegu gan Amser i Newid Cymru ar ôl y dyddiad hwn.

8. A fydd unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli gyda'ch sefydliadau yn y dyfodol? 

Tra bod rhaglen bresennol Amser i Newid Cymru yn dod i ben, byddwn yn anfon gwybodaeth at yr holl Hyrwyddwyr am gyfleoedd i gymryd rhan yng ngwaith Adferiad a Mind Cymru. Dilynwch hefyd gyfrifon Adferiad a Mind/Mind Cymru ar gyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

9. A allaf gael geirda neu argymhelliad ar gyfer fy ngwaith gwirfoddol? 

Gallwch, byddem yn hapus i wneud hyn ar gyfer unrhyw un o'n Hyrwyddwyr. Gallwn ddarparu geirda cymeriad neu lythyrau argymhelliad ar gyfer eich amser a dreuliwyd gyda ni. Cysylltwch â ni cyn 31 o Fawrth i ofyn am hyn.

10. Sut y gallaf barhau i ymwneud â'ch sefydliadau cynnal ar ôl i'r rhaglen ddod i ben? 

Byddwn yn rhoi gwybodaeth benodol i Hyrwyddwyr am ffyrdd eraill y gallwch barhau i gymryd rhan a defnyddio eich profiad byw. Cadwch mewn cysylltiad hefyd â gwefan ein sefydliadau cynnal a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Adferiad - FacebookX (formerly Twitter)InstagramLinkedIn

Mind Cymru - FacebookInstagramLinkedIn 

Mind Facebook, InstagramLinkedInBlueSky

11. A fydd unrhyw arolygon dilynol neu gyfle i gasglu adborth Hyrwyddwyr ar y rhaglen? 

Bydd, rydym yn gwerthfawrogi eich mewnbwn ac rydym yn bwriadu creu cyfleoedd i Hyrwyddwyr adrodd yn ôl ar eu profiadau gydag ymgyrch Amser i Newid Cymru cyn diwedd mis Mawrth.  Bydd y data dienw hwn yn cael ei ddefnyddio fel gwersi a ddysgwyd gan ein sefydliadau cynnal i’w hystyried ar gyfer unrhyw waith gwrth-stigma yn y dyfodol. Byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth gyda hyn yn fawr. 

Am ragor o gefnogaeth neu unrhyw gwestiynau eraill nad ydynt wedi'u rhestru yma, cysylltwch â:

Lowri Wyn Jones, Rheolwarig Rhaglen Amser i Newid Cymru - l.wynjones@timetochangewales.org.uk

Rachelle Bright, Arweinydd Ymgysylltiad Cyflogwyr a’r Gymuned - r.bright@timetochangewales.org.uk

Amanda Pearce, Swyddog Ymgysylltiad Cyflogwyr a’r Gymuned - a.pearce@timetochangewales.org.uk