Nid yw 50,000 o bobl yng Nghymru a gafodd broblemau â'u hiechyd meddwl am y tro cyntaf yn ystod y pandemig wedi siarad â neb am y peth

3rd February 2022, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Nid yw bron i 1 o bob 3 ymatebydd (31[i] y cant) i arolwg o 1,000 o unigolion dros 16 oed yng Nghymru y gwnaeth eu hiechyd meddwl waethygu am y tro cyntaf yn ystod y pandemig wedi cael sgwrs am y peth eto – sy'n cyfateb i ryw  50,000  o bobl yng Nghymru[ii] – yn ôl gwaith ymchwil sydd wedi'i gyhoeddi heddiw. 

Nododd ffigurau newydd sydd wedi'u cyhoeddi ar Ddiwrnod Amser i Siarad hefyd fod dros 1 o bob 3 ymatebydd yng Nghymru (35 y cant) yn dweud bod eu cylch ffrindiau a theulu wedi lleihau. 

Cafodd yr arolwg ei gynnal ar ran yr ymgyrch yn erbyn stigma iechyd meddwl Amser i Newid Cymru, wedi'i gefnogi gan Co-op, fel rhan o Ddiwrnod Amser i Siarad, sef diwrnod cenedlaethol i annog sgyrsiau am iechyd meddwl. Y nod yw ysgogi sgyrsiau am iechyd meddwl yng Nghymru drwy gymunedau, ysgolion, cartrefi, gweithleoedd ac ar-lein.

Yn bryderus, mae'r arolwg hefyd wedi nodi mai'r rheswm pam nad yw 33% o'r rheini y mae eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y pandemig wedi siarad â neb yw oherwydd bod pawb yn ei chael hi'n anodd, ac nad ydyn nhw'n ddim gwahanol. Mae'r canfyddiadau yn atgyfnerthu neges Amser i Newid Cymru am bwysigrwydd siarad yn agored am iechyd meddwl heb gael eich barnu a heb deimlo eich bod yn faich.  

Mae Dione Preece, 29, Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru o Ben-y-bont ar Ogwr, yn esbonio pa mor anodd oedd colli cysylltiad â ffrindiau agos a theulu ar ddechrau'r pandemig: “Roeddwn i'n fam sengl, ac ar ddechrau'r pandemig, roeddwn i newydd gael fy mab, felly fel llawer o bobl eraill, roedd hi'n anodd iawn ymdopi â bod yn fam am y tro cyntaf a gweithio'n llawn amser. Fe gafodd yr holl bwysau effaith fawr ar fy iechyd meddwl

“Roedd colli cysylltiad â ffrindiau agos a theulu yn anodd iawn i mi, oherwydd cyn y pandemig, bydden ni'n aml yn ffonio ein gilydd ac yn cwrdd, ond pan ddaeth cyfyngiadau COVID-19 i rym, gwnaethon ni golli cysylltiad wyneb-yn-wyneb ac o ganlyniad, doedden ni ddim yn cysylltu â'n gilydd ar-lein mwyach chwaith. Doeddwn i ddim am estyn allan at neb gan nad oeddwn i am deimlo fy mod yn faich, a hyd yn oed pan wnaeth cyfyngiadau'r pandemig ddechrau llacio, roedd yn rhaid i mi hunanynysu'n amlach a rheoli fy nghylch cymdeithasol yn gaeth gan fy mod i'n gweithio ar y rheng flaen fel Cydgysylltydd Gweithgareddau i blant yn fy ysbyty lleol. Roeddwn i hefyd yn poeni am fy mab gan nad oedd e'n dod i gysylltiad â chymaint o aelodau'r teulu ac y bydden i wedi'i hoffi ond roedd e'n gallu gweld ei dad, a'i fam-gu a'i ddad-cu ar y ddwy ochr o hyd. Roeddwn i'n poeni fwyaf na fyddai e'n gallu bod yng nghwmni plant eraill ac na fyddai e'n gallu gwneud ffrindiau yn ystod y cyfnod ansicr yma. 

“Pan wnaeth fy iechyd meddwl ddechrau gwaethygu, doeddwn i ddim am gysylltu â neb, i'r fath raddau yr oedd meddwl am ysgrifennu neges destun yn fy llethu'n feddyliol, ac wrth i amser fynd heibio, roeddwn i'n treulio llawer mwy o amser gyda phlant. Roeddwn i'n fwy cyfforddus yn yr amgylchedd yna nac yng nghwmni oedolion.” 

Eleni, mae Diwrnod Amser i Siarad yn rhoi pwyslais ar wrando yn ogystal â siarad. Yn aml mae pobl yn teimlo nad oes ganddyn nhw neb i droi ato, felly mae Amser i Newid Cymru yn annog ein gilydd i fod yn glust i wrando i rywun sydd ei hangen.

Gwnaeth gwaith ymchwil blaenorol gan Co-op, Mind, SAMH ac Inspire ddangos rôl hanfodol y gymuned o ran lles meddyliol. Dywedodd un o bob pedwar ymatebydd (28 y cant) i arolwg Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd[iii] y byddai cael mannau yn y gymuned lle na fydden nhw'n cael eu barnu lle y gallen nhw siarad a gwrando ar eraill yn cefnogi eu lles.  Yn ogystal â chynnal Diwrnod Amser i Siarad 2022, mae cydweithwyr, aelodau a chwsmeriaid Co-op yn codi £8m i Mind, SAMH ac Inspire, a fydd yn ariannu mwy na 50 o wasanaethau lles meddyliol mewn cymunedau ledled y DU, gan helpu dros 10,000 o bobl i wella eu lles meddyliol. 

Mae Dione yn rhedeg campfa deuluol gyda'i thad ac yn rhannu sut mae'n defnyddio'r lle i annog ei chymuned i siarad yn fwy agored am iechyd meddwl: “Mae fy nhad yn cefnogi Caerau Men Shed a gafodd ei agor gan ei ffrind Christopher yn y gampfa, sy'n fan diogel i ddynion allu dod at ei gilydd i drafod eu teimladau heb gael eu barnu. Rydyn ni hefyd yn eu gwahodd nhw i gymryd rhan mewn sesiynau bocsio sy'n cael eu cynnal gan fy nhad, er mwyn iddyn nhw gael cymorth emosiynol a chorfforol drwy ein gweithgareddau lles. 

“Rydyn ni hefyd yn cynnal dosbarthiadau rhieni a phlant bach ddwywaith yr wythnos sy'n annog rhieni i adael y tŷ, bondio â'u plentyn bach a dod i adnabod rhieni eraill sydd o bosibl yn wynebu anawsterau tebyg. 

“Mae'n bwysicach nag erioed nawr i gymunedau gynnal gweithgareddau cymdeithasol neu gorfforol os yw'r cyfyngiadau'n caniatáu hynny, er mwyn annog pobl i adael eu cartrefi a theimlo'n rhan o'r gymuned unwaith eto. Yn ystod y cyfnod yma, fe wnes i lwyddo i ailfeithrin cydberthnasau a oedd wedi'u colli ac erbyn hyn, mae gen i system gymorth ardderchog sy'n cynnwys fy nghariad a'i ffrindiau a'i deulu.” 

Yn galonogol, o blith y rheini sydd wedi siarad â rhywun, mae gwaith ymchwil yn dangos bod mwy na dwy ran o dair (69%) yn nodi eu bod wedi cael o leiaf un sgwrs gadarnhaol, gan nodi mai'r prif resymau pam ei bod yn gadarnhaol oedd eu bod yn teimlo eu bod wedi cael cefnogaeth (51%) a bod rhywun wedi gwrando arnynt (52%). Roedd bron i ddwy ran o dair o bawb a ymatebodd i'r arolwg (64%) yn cytuno, ar y cyfan, ei bod hi'n dod yn haws siarad am iechyd meddwl[iv].  

Dywedodd June Jones, Rheolwr Rhaglen Interim Amser i Newid Cymru: “Mae Dione a'i thad yn gosod esiampl ardderchog o sut mae mentrau cymunedol yn bwysig wrth ailgysylltu wynebau cyfarwydd a darparu mannau diogel i drafod ein hiechyd meddwl mewn ffordd agored. Ond, yn anffodus, mae stigma yn broblem o hyd ac mae rhai pobl yn teimlo'n anghyfforddus yn sôn wrth eraill am eu problemau iechyd meddwl;  gan deimlo cywilydd hyd yn oed a phryderu y byddan nhw'n cael eu barnu. Ond serch hynny, mae llawer o bobl yn dweud bod siarad am eu hiechyd meddwl yn brofiad cadarnhaol sy'n eu helpu gan eu bod yn teimlo mwy o gefnogaeth ac yn llai unig. Dyna pam ein bod ni'n annog pawb i ddefnyddio Diwrnod Amser i Siarad fel cyfle i ddymchwel rhwystrau a chael sgyrsiau go iawn ac ystyrlon am iechyd meddwl.” 

Dywedodd Rebecca Birkbeck, Cyfarwyddwr Cymunedau a Gwerthoedd a Rennir yn y Co-op: “Dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach i ni allu trafod ein teimladau, ond gall fod yn anodd o hyd i ni sôn am ein lles meddyliol. Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos y rhan hanfodol sy'n cael ei chwarae gan ein cymunedau wrth ysgogi'r sgyrsiau hyn, gan roi'r cyfle i ni drafod wrth fynd hwnt ac acw. Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn aros o hyd am yr adeg iawn i wneud hynny, felly rydyn ni'n annog pawb i roi cynnig arni ar Ddiwrnod Amser i Siarad.”  

Mae Diwrnod Amser i Siarad 2022 yn cael ei redeg gan Amser i Newid Cymru, Mind a Rethink Mental Illness yn Lloegr, See Me gyda SAMH (Cymdeithas Iechyd Meddwl yr Alban) yn yr Alban ac Inspire a Change Your Mind yng Ngogledd Iwerddon. Mae hefyd yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Co-op. Mae'r partneriaid yn helpu cymunedau ledled y DU i annog sgyrsiau iechyd meddwl drwy ddarparu adnoddau am ddim, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i gael y sgwrs am iechyd meddwl a thrwy gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth i'r DU gyfan. 

Ddydd Iau 3 Chwefror, bydd gweithleoedd ac unigolion yng Nghymru yn cymryd rhan yn Niwrnod Amser i Siarad. Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar ein bywydau, bydd llawer o weithgareddau Diwrnod Amser i Siarad yn cael eu cynnal yn rhithwir eleni. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn Niwrnod Amser i Siarad, ewch i:https://www.timetochangewales.org.uk/cy/ymgyrchoedd/diwrnod-amser-siarad-2021/

Ymunwch â'r sgwrs ar-lein drwy ddefnyddio'r hashnod #amserisiarad ar: 

Twitter: www.twitter.com/AINCymru

Facebook: www.facebook.com/AINCymru

Instagram: www.instagram.com/timetochangewales

 

-DIWEDD-

 

Gwahoddir newyddiadurwyr i gysylltu â Hanna Yusuf, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu (h.yusuf@timetochangewales.org.uk) i drefnu cyfweliadau ymlaen llaw neu ar y diwrnod. Mae lluniau ar gael. Cysylltwch os hoffech gynnal cyfweliad â'r canlynol: 

  • Dione Preece, Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru 
  • June Jones, Rheolwr Rhaglen Interim Amser i Newid Cymru 
  • Susan O'Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru, Cadeirydd bwrdd Amser i Newid Cymru 
  • Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad Recovery, aelod o fwrdd Amser i Newid Cymru

 

Methodoleg arolygu

Cynhaliwyd yr arolwg gan Censuswide ar ran Amser i Newid Cymru gyda sampl o 1,003 o ymatebwyr cyffredinol yng Nghymru rhwng 30.12.2021 a 05.01.2022. Mae Censuswide yn dilyn canllawiau'r Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad sy'n seiliedig ar egwyddorion ESOMAR, ac yn cyflogi aelodau ohoni. 

Nodiadau i Olygyddion 

  • Amser i Newid Cymru yw'r ymgyrch genedlaethol gyntaf sy'n canolbwyntio ar leihau'r stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru. 
  • Caiff Amser i Newid Cymru ei harwain gan ddwy o elusennau iechyd meddwl mwyaf blaenllaw Cymru: Adferiad Recovery  a Mind Cymru.
  • Caiff ymgyrch Amser i Newid Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. 
  • Mae'r Co-op yn un o gwmnïau cydweithredol mwyaf y byd i ddefnyddwyr. Pan fydd Aelodau'r Co-op yn prynu cynhyrchion a gwasanaethau brand Co-op penodedig, caiff 2c am bob punt a gaiff ei gwario ei rhannu'n gyfartal rhwng y Gronfa Gymunedol Leol ar gyfer achosion lleol a'r Gronfa Partneriaethau Cymunedol er mwyn cefnogi cymunedau drwy elusennau a sefydliadau cenedlaethol â nodau tebyg.

 


[i] C5 x C1: pob un o'r rheini nad oeddent wedi cael problemau iechyd meddwl cyn y pandemig ac nad oeddent wedi siarad â neb, ac a ddywedodd fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y pandemig (C2) – Sampl o 67 o ymatebwyr nad oedden nhw erioed wedi cael unrhyw broblemau iechyd meddwl cyn y pandemig, ac y mae eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu ers dechrau'r pandemig yng Nghymru

[ii] doedd 1.96 y cant o'r holl ymatebwyr ddim wedi cael problemau iechyd meddwl cyn y pandemig, gwnaethon nhw ddweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y pandemig, ac nad ydyn nhw wedi siarad â neb. 2,589,044 (poblogaeth 16+ canol blwyddyn SYG 2019) x 1.96% (19 o ymatebwyr allan o 1,003 o ymatebwyr yng Nghymru – Cynrychiolaeth Genedlaethol (16+), Wedi'i Phwysoli yn ôl Rhywedd ac Oedran) = 50,745. 

[iv] Gan gyfuno'r rheini a ddewisodd ‘cytuno'n gryf’ neu ‘gytuno’ o ran y canlynol: ‘Ar y cyfan, mae'n dod yn haws siarad am iechyd meddwl’ (C16) 

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy