Mae 54% o bobl yn dweud bod y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y cyfyngiadau symud yng Nghymru

Mae canfyddiadau newydd o arolwg stigma Amser i Newid Cymru yn datgelu bod cynnydd mewn hunan-stigma ymhlith y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl ers i'r llywodraeth gyflwyno cyfyngiadau symud yn…

14th August 2020, 9.00pm | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Mae canfyddiadau newydd o arolwg stigma Amser i Newid Cymru yn datgelu bod cynnydd mewn hunan-stigma ymhlith y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl ers i'r llywodraeth gyflwyno cyfyngiadau symud yn sgil pandemig y coronafeirws.

Ym mis Mai 2020, gwnaeth Amser i Newid Cymru arolygu dros 100 o unigolion o bob rhan o Gymru a oedd â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl. Nododd ein harolwg fod hunan-stigma yn cyflwyno her sylweddol i bobl sy'n wynebu problem iechyd meddwl, a dywedodd 54% o ymatebwyr ei fod wedi gwaethygu ers i'r cyfyngiadau symud ddechrau. 

Mae Gavin, 49 oed o Bontyclun, yn dioddef o iselder, ac yn ddiweddar sylweddolodd ei fod yn profi hunan-stigma yn ystod y cyfyngiadau symud. Dywedodd: “Rydw i wedi siarad am fy iselder ac wedi ysgrifennu llawer amdano yn fy mlog, ond gwnes i roi'r gorau i hynny rai blynyddoedd yn ôl. Roeddwn i'n teimlo, wrth i fwy a mwy o bobl enwog drafod eu trafferthion eu hunain gydag iechyd meddwl, nad oedd llais dyn ‘normal’ fel fi yn berthnasol mwyach. Roeddwn i'n teimlo nad oedd gan neb ddiddordeb ym mywydau bob dydd y rheini ohonon ni sy'n byw gyda salwch meddwl difrifol ac yn ei reoli. Nawr, ar ôl meddwl amdano dros y dyddiau diwethaf, rydw i wedi sylweddoli bod hyn yn enghraifft berffaith o hunan-stigma.

Roedd yr hunan-stigma, ynghyd â'r gorbryder sy'n dod yn naturiol gyda chyfyngiadau symud COVID-19, wedi gwneud i mi frwydro'n galetach nag arfer ar sawl diwrnod, yn bennaf er mwyn ceisio cadw pethau at ei gilydd ar gyfer fy nheulu.”

Mae Jessica, 24 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, sydd ag anhwylder personoliaeth ffiniol, anhwylder obsesiynol cymhellol, bwlimia ac iselder, wedi sôn am y ffordd y mae'r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar ei chynllun gofal iechyd iechyd meddwl: “Roedd y cyfyngiadau symud wedi effeithio ar fy ngallu i wneud pethau yn y cartref ac yn y gwaith ac wedi dwyn fy nghynllun gofal. Cafodd popeth yr oedd angen i mi ei wneud neu gael gafael arno er mwyn aros yn sefydlog yn feddyliol ac osgoi cael fy anfon i'r ysbyty, ei gymryd oddi arna i. Doeddwn i ddim yn gallu cysylltu â'm Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol am 6 i 8 wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud a oedd yn anodd oherwydd roedd angen cymorth proffesiynol cyson arna i er mwyn fy helpu i aros yn iach. Roeddwn i'n teimlo fel petai pawb wedi anghofio amdana i.”

Gwnaeth yr arolwg hefyd ddangos bod 1 o bob 5 person wedi wynebu stigma iechyd meddwl gan aelod o'i deulu, partner neu rhywun yn ei gartref yn ystod y cyfyngiadau symud. Aeth Jessica ymlaen i ddweud: “Roeddwn i am roi'r argraff fy mod i'n ddewr i fy nheulu oherwydd roedden nhw'n poeni digon am bethau eraill heb orfod poeni am fy iechyd meddwl i yn gwaethygu. Roeddwn i'n teimlo fel petai fy llais yn cael ei fygu. Dywedodd y rhai oedd yn agos ata i mai'r peth olaf roedden nhw ei eisiau oedd i mi fynd yn sâl. Mae fy nheulu yn wych, ond dydyn nhw ddim yn deall fy salwch meddwl, felly rwy'n teimlo bod yn rhaid i fi guddio fy niwrnodau gwael.”

Roedd Bethan, 32 oed o Gaerffili, sydd ag anhwylder personoliaeth ffiniol, wedi wynebu stigma iechyd meddwl wrth ofyn am gymorth yn ystod y cyfyngiadau symud: “Fel cymaint o bobl eraill rydw i wedi bod yn gaeth i ddiwylliant deiet, yn ceisio colli pwysau mewn unrhyw ffordd bosibl. Fel rhan o fy anhwylder personoliaeth ffiniol, mae pethau yn mynd yn obsesiwn, a dros y ddwy flynedd ddiwethaf, fy mhwysau a'r ffordd rwy'n edrych sydd wedi cael fy sylw. Pan oeddwn i'n teimlo'n isel am y ffordd roeddwn i'n edrych, byddwn i'n gorfwyta ac wedyn yn teimlo hyd yn oed yn waeth. Byddwn i'n defnyddio dulliau afiach er mwyn cael gwared ar fwyd a byddai hynny yn gwneud i mi deimlo'n well. Ond ymhen dim, byddwn i'n teimlo'n isel, yn gorfwyta a byddai'r cylch dieflig yn parhau.

Oherwydd y gorfwyta cefais fy atgyfeirio at Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol a chefais fy asesu dros y ffôn. Roeddwn i ar y ffôn am tua 40 munud ac roeddwn i'n teimlo'n obeithiol y byddwn i'n cael help ar ôl hynny. Aeth yr wythnosau heibio, doedd neb wedi fy ffonio yn ôl o hyd, felly penderfynais ffonio'r tîm fy hun. Roedd y person a atebodd y ffôn yn anghwrtais ac yn ddiamynedd, a phan ofynnais i am ganlyniad yr asesiad, dywedodd wrtha i ‘Mae dy bwysau di'n iach, dwyt ti ddim yn llwgu dy hun a dwyt ti ddim yn peryglu dy fywyd, felly dwyt ti ddim yn gymwys i gael gofal pellach.’ Roeddwn i'n teimlo'n wirion yn gofyn am help yn y lle cyntaf ac roeddwn yn teimlo'n waeth am nad oedd neb yn credu bod fy mhroblem yn ddigon difrifol i gynnig help i mi. Roedd cyfaddef yr hyn roeddwn i'n ei wneud mor anodd ar y dechrau a nawr roeddwn i'n teimlo bod y rhai a oedd yn gallu fy helpu yn gwrthod gwneud hynny. Sylweddolais yn fuan bod hwn yn achos gwael iawn o stigma iechyd meddwl.”

Nododd yr arolwg fod 22% o'r ymatebwyr wedi wynebu stigma mewn perthynas â'u hiechyd meddwl yn eu swyddi yn ystod pandemig COVID-19. Wrth ystyried hyn ochr yn ochr â'r hinsawdd economaidd anodd a ragwelir o ganlyniad i COVID-19, mae angen gwneud mwy i wella amgylchiadau gweithleoedd a chefnogi llesiant staff wrth i fusnesau baratoi eu staff i ddychwelyd i'r gweithle.

Rydym yn clywed yn aml mai'r gweithlu yw un o'r meysydd allweddol lle y wynebir stigma amlaf a lle y mae'n cael yr effaith fwyaf niweidiol. Dywedodd un ymatebydd dienw: “Mae'r llwyth gwaith wedi cynyddu ac mae llai o gyfle i gwrdd ag eraill.” Mae hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl yn ei chael hi'n anodd ymdopi efallai ond nad oes fawr ddim cyfle i siarad amdano. 

Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru: “Nid yw'n debygol y bydd stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl yn diflannu wrth i Gymru wella o'r pandemig. Mewn gwirionedd, gall y pandemig waethygu stigma a hunan-stigma felly mae'n bwysicach nag erioed bod Amser i Newid Cymru yn parhau i gefnogi Hyrwyddwyr, cymunedau a chyflogwyr i herio stigma a chreu diwylliant o newid er mwyn sicrhau y gall pobl gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.”

Mae gwefan Amser i Newid Cymru yn llawn gwybodaeth, tystiolaeth a chyngor ar fynd i'r afael â stigma. Ewch i amserinewidcymru.org.uk a dilynwch yr ymgyrch ar TwitterFacebook ac Instagram.

Efallai hoffech

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024: Mynd i’r Afael â Stigma Iechyd Meddwl yn y Gwaith

Mae Rheolwr Rhaglen AiNC, Lowri Wyn Jones, yn archwilio rôl hollbwysig mynd i’r afael â stigma yn y gweithle ac yn amlygu’r manteision parhaol y gall hyn eu cynnig i fusnesau.

9th October 2024, 5.00pm | Ysgrifenwyd gan Lowri Wyn Jones

Darganfyddwch fwy