Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Mae data newydd a ryddhawyd ar Ddiwrnod Amser i Siarad (1 Chwefror) yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl, yn syfrdanol yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd. Yn ogystal â hynny, mae 48% o bobl yng Nghymru yn dal i gredu bod iechyd meddwl yn destun tabŵ. Mae’r amharodrwydd i siarad am sut rydym yn teimlo go iawn yn arwain at lawer o bobl yn teimlo’n ynysig, yn encilgar a chydag iechyd meddwl yn gwaethygu.

Mae canfyddiadau arolwg barn cenedlaethol yn awgrymu bod 54% o ddynion yn teimlo’n fwy hyderus wrth drafod eu hiechyd meddwl, o gymharu â 46% o fenywod. Mae'r datguddiad hwn yn herio syniadau cyffredinol am y stigma sy'n ymwneud ag iechyd meddwl dynion, gan ddarparu mewnwelediad syfrdanol i'r profiadau esblygol a chynnig golwg wahanol ar dueddiadau cymdeithasol yn y DU.

Cafodd Somaia, 31 oed o Gaerdydd, ddiagnosis o iselder ôl-enedigol yn 2019 ar ôl genedigaeth ei mab. Dywedodd: “Pan gyrhaeddodd fy mabi, roedd bondio’n teimlo’n anodd, ac fe aeth â mi i le tywyll yn feddyliol. Roeddwn yn aml yn teimlo edifeirwch, dicter, a thristwch o fod wedi cael fy mab. Fe wnaeth yr iselder ddwyn amseroedd gwerthfawr yn ystod yr hyn a ddylai fod wedi bod yn gyfnod gwirioneddol arbennig yn fy mywyd. O fewn fy nghymuned a theulu clos o Yemen, mae problemau iechyd meddwl yn parhau i fod yn destun tabŵ; rydym yn cuddio ein brwydrau a chario ymlaen. Eto i gyd, roedd cuddio fy mhoen yn dyfnhau fy nychdod i iselder ysbryd.

Rhagnododd fy meddyg teulu feddyginiaeth i mi nad oedd yn cynnig unrhyw ryddhad. Roeddwn i’n teimlo wedi blino’n lân ac yn gwybod na allwn i barhau i deimlo fel hyn, felly des o hyd i gefnogaeth mewn grwpiau hunangymorth ar-lein. Roedd cysylltu â menywod sy’n wynebu heriau tebyg ond a oedd yn dal yn optimistaidd ar gyfer y dyfodol yn fy ngalluogi i agor fyny yn raddol, gan ddarganfod pŵer trawsnewidiol meddylfryd cadarnhaol. Yna roeddwn yn gallu rhannu fy mrwydrau gyda fy ngŵr, a oedd mor gefnogol a llawn cydymdeimlad.

Heddiw, wedi fy ngrymuso gan fy nhaith, rwy'n rhannu fy stori i estyn allan at famau sy'n llywio heriau tebyg. Ar y Diwrnod Amser i Siarad hwn, mae fy neges yn syml: amgylchynwch eich hun â dealltwriaeth a phositifrwydd. Gall newid eich persbectif eich arwain at lwybr adferiad.”

Roedd Andrew, 45 oed o Donysguboriau, Rhondda Cynon Taf, yn wynebu profiad dirdynnol a gafodd ddylanwad mawr ar ei iechyd meddwl a'i bersbectif ar fywyd. Wrth fyfyrio ar y foment drawsnewidiol honno, dywedodd: “Bedair blynedd ar hugain yn ôl, bu bron i ddamwain ffordd ddifrifol hawlio fy mywyd, gan adael creithiau corfforol gweladwy wrth guddio’r doll feddyliol barhaus a barhaodd am ddegawdau. Ar y pryd, roeddwn i mewn coma am bron i bum wythnos. Dywedwyd wrth fy rhieni na fyddwn byth yn cerdded eto. Cefais niwed i'r ymennydd, a bod siawns na fyddwn yn deffro o'm coma. Am ugain mlynedd, fe wnes i gadw fy mrwydrau iechyd meddwl yn dawel hyd nes i mi gwrdd â fy mhartner anhygoel Kelly, a ddangosodd y cryfder i mi wrth groesawu bregusrwydd. Roedd yn anodd agor i fyny i fy nheulu, ond roedd agor i fyny yn haws nag yr oeddwn wedi meddwl. Mae hyn oherwydd fy mod yn dod o deulu traddodiadol, hen ffasiwn lle byddai dangos emosiwn fel arfer yn cael ei ystyried yn wendid, a bod ‘dynion go iawn’ ddim yn dangos emosiwn, siarad nac agor i fyny. Gwnaeth fy mhartner Kelly hefyd i mi sylweddoli nad yw agor i fyny yn fy ngwneud yn wan nac yn ddim llai o ddyn.

Nawr, fel Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru, fy nghenhadaeth yw ysbrydoli eraill i ymdopi â thrawma neu heriau iechyd meddwl. Rwy’n eiriol dros feithrin mannau cefnogol a chynhwysol, gan annog anwyliaid, cydweithwyr, cymdogion, neu hyd yn oed ddieithriaid i rannu eu profiadau iechyd meddwl fel eu bod yn cydnabod pwysigrwydd ceisio’r gefnogaeth gywir ar gyfer eu hiechyd meddwl.”

Cynhaliodd Censuswide arolwg o fwy na 5,000 o bobl, sy’n cynnwys 1,000 o ymatebwyr yng Nghymru, fel rhan o Ddiwrnod Amser i Siarad, sgwrs fwyaf y wlad am iechyd meddwl. Mae Diwrnod Amser i Siarad yng Nghymru yn cael ei redeg ar y cyd gan Amser i Newid Cymru, Adferiad, a Mind Cymru. Yn ogystal, mewn partneriaeth â Co-op, mae Diwrnod Amser i Siarad yn cael ei gynnal ledled y DU gan SAMH (Scottish Association for Mental Health) a See Me yn yr Alban, yn ogystal ag Inspire yng Ngogledd Iwerddon a Mind and Rethink Mental Illness yn Lloegr. Mae’r partneriaid yn cefnogi cymunedau ledled y DU i annog sgyrsiau iechyd meddwl drwy ddarparu adnoddau rhad ac am ddim, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i gael y sgwrs, a chynnal ymgyrch ymwybyddiaeth ledled y DU. Bydd eleni yn nodi 10 mlynedd o Ddiwrnod Amser i Siarad.

Bu gwelliant hefyd ers sefydlu Diwrnod Amser i Siarad yn 2014 – dywedodd 69% o bobl yng Nghymru eu bod yn credu bod iechyd meddwl yn dabŵ ddegawd yn ôl, a dim ond 26% fyddai wedi bod yn ddigon cyfforddus i godi llais, gan ddangos a gwelliant amlwg yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Mae canfyddiadau cenedlaethol ychwanegol o’r arolwg pleidleisio yn awgrymu:

  • Mae’r dacteg o gelu teimladau ar ei huchaf ymhlith pobl ifanc – mae 73% o bobl 16-34 oed a 78% o bobl 35-44 oed yn dweud eu bod yn rhoi wyneb dewr ymlaen o gymharu â 21% o’r rhai dros 75 oed.
  • Dywed 47% o bobl fod pwysau’r blynyddoedd diwethaf, er enghraifft, y pandemig a’r argyfwng costau byw, wedi eu gwneud yn llai tebygol o siarad yn agored er mwyn osgoi poeni eraill mewn cyfnod anodd.
  • Dywed mwy na hanner (55%) fod yr argyfwng costau byw wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl, cyn y cylch newyddion a materion y byd (24%) a’r pandemig (22%).
  • Mae gwaith hefyd yn cael effaith (32%), yn ogystal â pherthnasoedd (26%), sy'n awgrymu bod pethau sydd agosaf atynt yn effeithio ar lawer o bobl ar hyn o bryd.

Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru: “Mae’r data a ryddhawyd heddiw yn ddigalon. Yng Nghymru, mae’r darlun hyd yn oed yn fwy llwm gan fod llai o bobl yn teimlo y gallant siarad yn agored am eu hiechyd meddwl. Mae’r argyfwng costau byw yn ffactor mawr sy’n achosi effaith andwyol ar iechyd meddwl ledled Cymru. Nid yw hyn yn syndod o ystyried bod llawer o rannau o Gymru wedi ac yn parhau i gael eu taro galetaf gan yr argyfwng gan arwain at lai o fynediad at gymorth iechyd meddwl ac at y pethau sy’n ein cadw’n iach. Ni fu erioed fwy o angen i gymunedau ddod at ei gilydd i greu mannau diogel ac agored i siarad am iechyd meddwl. Y Diwrnod Amser i Siarad hwn, rydyn ni’n galw ar Gymru gyfan i flaenoriaethu gofyn i’n gilydd a’r rhai o’n cwmpas sut ydyn ni go iawn, oherwydd dim ond trwy fod yn onest gyda ni ein hunain ac ag eraill y gallwn ddechrau gweld newid cadarnhaol.”

Dywedodd Dr Sarah Hughes, Prif Weithredwr Mind: “Mae ein harolwg yn amlygu ein bod yn gwisgo wyneb dewr yn rhy aml ac yn dweud wrth bobl ein bod yn iawn pan nad ydym oherwydd ein bod yn poeni am fod yn faich ar adegau anodd. Ond mae calu teimladau ond yn gwneud pethau'n waeth. Gall siarad am ein hiechyd meddwl ein helpu i deimlo’n llai unig, yn fwy abl i ymdopi, ac yn cael ein hannog i geisio cymorth os oes angen. Gwnewch ymdrech i gael sgwrs y Diwrnod Amser i Siarad hwn.”

Dywedodd Rebecca Birkbeck, Cyfarwyddwr Cyfranogiad Cymunedol ac Aelodau, Co-op: “Mae’r ymchwil yn dangos mai dim ond traean o bobl ifanc 16 i 24 oed sy’n gyfforddus yn siarad am eu lles meddyliol. Mae perchnogion ein haelodau Co-op eisiau helpu i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn teimlo'n barod i siarad yn agored. Dyna pam rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Mind, SAMH, Inspire ac eraill i ddod â chymunedau at ei gilydd i roi hwb i sgyrsiau y Diwrnod Amser i Siarad hwn i ddod â gobaith ar gyfer y dyfodol.”

I gael gwybodaeth am Ddiwrnod Amser i Siarad, gan gynnwys awgrymiadau ar ddechrau’r sgwrs, ewch i: https://www.timetochangewales.org.uk/cy/ymgyrchoedd/diwrnod-amser-siarad-2024/adnoddau2024/

Ymunwch â’r sgwrs ar-lein gan ddefnyddio’r hashnod #AmserISiarad ar ein tudalennau FacebookTwitter ac Instagram.

-DIWEDD-

 

Nodiadau i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth, ystadegau cefndir a chyfweliadau ag unrhyw un sy'n ymddangos yn y datganiad i'r wasg hwn neu'r astudiaethau achos, cysylltwch â Hanna Yusuf ar h.yusuf@timetochangewales.org.uk  

Am yr ymchwil

Cynhaliwyd arolwg gan Censuswide ar ran Mind gyda sampl o 5012 o Ymatebwyr Cyffredinol rhwng 24.11.2023 - 08.12.2023. Yna pwyswyd y data i gyfateb i gynrychiolaeth genedlaethol ar draws oedran, rhyw a rhanbarth. Mae Censuswide yn cadw at ac yn cyflogi aelodau o'r Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad sy'n seiliedig ar egwyddorion ESOMAR.

Defnyddio delweddau

Mae yna gasgliad o ddelweddau ar Unsplash a Getty Images y gellir eu defnyddio i gyd-fynd â straeon newyddion iechyd meddwl. Cynghorir newyddiadurwyr i gyfeirio at ganllawiau Unsplash a Getty Images a thelerau defnydd wrth lawrlwytho/prynu delweddau. Mae Getty Images yn wasanaeth y telir amdano, fodd bynnag gellir hefyd lawrlwytho delweddau am ddim ar Unsplash.

Am Ddiwrnod Amser i Siarad

Mae Diwrnod Amser i Siarad 2024 yn cael ei redeg gan Mind and Rethink Mental Illness ac yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Co-op. Ledled y DU, fe’i cyflwynir gan See Me with SAMH (Scottish Action for Mental Health) yn yr Alban, Inspire yng Ngogledd Iwerddon ac Amser i Newid Cymru. Diwrnod Amser i Siarad yw sgwrs iechyd meddwl fwyaf y genedl. Yn digwydd bob blwyddyn ers 2014, mae’n ddiwrnod i ffrindiau, teuluoedd, cymunedau, a gweithleoedd ddod at ei gilydd i siarad, gwrando a newid bywydau.

Am y partneriaid

Mae Mind yn darparu cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl, yn ymgyrchu i wella gwasanaethau, yn codi ymwybyddiaeth ac yn hybu dealltwriaeth. Darganfyddwch fwy yma: www.mind.org.uk

Rethink Mental Illness yw’r elusen ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio’n ddifrifol gan salwch meddwl. Rydym yn darparu gwybodaeth a gwasanaethau arbenigol, ac yn ymgyrchu i wella bywydau pobl sy'n byw gyda salwch meddwl, eu teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr. Dysgwch fwy yn www.rethink.org

Co-op yw un o gwmnïau cydweithredol defnyddwyr mwyaf y byd gyda diddordebau ar draws gwasanaethau bwyd, angladdau, yswiriant a chyfreithiol. Yn eiddo i filiynau o ddefnyddwyr yn y DU, mae’r Co-op yn gweithredu dros 2,400 o siopau bwyd, dros 800 o gartrefi angladd ac yn darparu cynnyrch i dros 5,000 o siopau eraill, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu rhedeg gan gymdeithasau cydweithredol annibynnol a thrwy ei busnes cyfanwerthu, Nisa Retail Limited.

Gan gyflogi bron i 60,000 o bobl, mae gan y Co-op drosiant blynyddol o dros £11 biliwn ac mae’n arweinydd cydnabyddedig ar gyfer ei nodau cymdeithasol a’i rhaglenni a arweinir gan y gymuned. Mae’r Co-op yn bodoli i ddiwallu anghenion aelodau a sefyll dros y pethau maen nhw’n credu ynddynt.

Yn ogystal â chefnogi Diwrnod Amser i Siarad 2024, cododd cydweithwyr, aelodau a chwsmeriaid y Co-op dros £8m ar gyfer Mind, Scottish Action for Mental Health ac Inspire i ddod â chymunedau ynghyd i wella lles meddwl.

See Me yw rhaglen genedlaethol yr Alban i roi diwedd ar stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl, gan alluogi pobl sy’n profi problemau iechyd meddwl i fyw bywydau bodlon. Darganfyddwch fwy yn www.seemescotland.org

Amser i Newid Cymru yw’r ymgyrch genedlaethol gyntaf sy’n canolbwyntio ar leihau’r stigma a’r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae Amser i Newid Cymru yn cael ei arwain gan ddwy o brif elusennau iechyd meddwl Cymru, Adferiad a Mind Cymru, a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mwy o wybodaeth yn https://www.timetochangewales.org.uk/cy/

Elusen holl-ynys a menter gymdeithasol yw Inspire a’n nod yw lles i bawb. Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n byw gyda salwch meddwl, anabledd deallusol, awtistiaeth a dibyniaeth, gan sicrhau eu bod yn byw gydag urddas ac yn gwireddu eu llawn botensial. Rydym yn ymgyrchu i greu cymdeithas sy'n rhydd o stigma a gwahaniaethu, gyda diwylliant o dosturi sy'n canolbwyntio ar bobl a'u galluoedd. Dysgwch fwy am Inspire yn www.inspirewellbeing.org

Change Your Mind yw ymgyrch ranbarthol Gogledd Iwerddon i fynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu ynghylch iechyd meddwl. Fe'i hariennir gan Comic Relief ac mae'n rhaglen ar y cyd sy'n cael ei rhedeg gan Inspire ac Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd. I gael rhagor o wybodaeth am waith, ymgyrchoedd a chefnogaeth Newid Eich Meddwl, ewch I www.changeyourmindni.org

Efallai hoffech

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024: Mynd i’r Afael â Stigma Iechyd Meddwl yn y Gwaith

Mae Rheolwr Rhaglen AiNC, Lowri Wyn Jones, yn archwilio rôl hollbwysig mynd i’r afael â stigma yn y gweithle ac yn amlygu’r manteision parhaol y gall hyn eu cynnig i fusnesau.

9th October 2024, 5.00pm | Ysgrifenwyd gan Lowri Wyn Jones

Darganfyddwch fwy