Addewid gan Admiral i roi diwedd ar stigma iechyd meddwl

Admiral, cyflogwr blaenllaw o Gymru, yw'r sefydliad diweddaraf i lofnodi addewid Amser i Newid Cymru i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

29th April 2014, 11.12am | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Addewid gan Admiral i roi diwedd ar stigma iechyd meddwl

Admiral, cyflogwr blaenllaw o Gymru, yw'r sefydliad diweddaraf i lofnodi addewid Amser i Newid Cymru i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Llofnodwyd yr addewid gan Reolwr Gwasanaethau Grŵp Pobl Admiral, Ceri Assiratti a Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, Ant Metcalfe, yng ngwydd staff Admiral mewn seremoni ym mhencadlys y grŵp yng Nghaerdydd. Roedd y digwyddiad bywiog yn cynnwys perfformiad gan gôr 'Inspire Choir' Admiral sy'n cynnwys aelodau o staff cerddorol a chyn hynny cafwyd sesiwn holi at ateb ble gallai cyflogeion Admiral holi Ant Metcalfe am yr ymgyrch, yr addewid a'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Dywedodd Ceri Assiratti

"Mae'n bleser gennyf lofnodi Addewid Amser i Newid Cymru heddiw a gweithio gyda thîm Amser i Newid Cymru.

Mae pobl wedi bod yn ofni siarad am eu problemau iechyd meddwl ers gormod o amser a nod yr ymgyrch hon yw rhoi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ei wynebu. Bydd gweithio gydag Amser i Newid Cymru yn ein helpu i fanteisio ar gyfoeth o wybodaeth a dealltwriaeth am sut i ymdrin â'n cyflogeion.

Fel cyflogwr rydym yn ymrwymedig i sicrhau lles ein staff ac mae llofnodi'r addewid hwn heddiw yn ddatganiad cyhoeddus i'r perwyl hwnnw."

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, Ant Metcalfe:

"Rydym wrth ein bodd bod un o gyflogwyr mwyaf Cymru wedi gwneud yr ymrwymiad hwn i roi diwedd ar stigma iechyd meddwl. Gwyddom o'n data arolwg ein hunain na fyddai nifer fawr iawn o weithwyr yng Nghymru yn gyfforddus yn siarad â'u rheolwr am broblemau iechyd meddwl a gall iechyd meddwl fod yn bwnc tabŵ yn y gweithle.

Rydym nawr yn edrych ymlaen at weithio gydag Admiral i ddatblygu cynllun gweithredu, sicrhau bod cyflogeion yn cael cyfle i siarad am iechyd meddwl a'u helpu i ofalu am eu lles eu hunain."

 

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy