"Yr unig beth roeddwn i eisiau oedd i rywun ddweud 'sut wyt ti?’" Mark yn rhannu ei brofiadau i nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd

Heddiw yw Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd (Dydd Iau 10 Medi), sef y diwrnod a nodir bob blwyddyn i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad a ffyrdd o'i atal.

10th September 2020, 9.00pm | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Mae Mark, un o Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru, yn edrych yn ôl ac yn sôn sut y bu bron iddo ladd ei hun o ganlyniad i'w rywioldeb a'i fywyd cartref. 

Cafodd Mark, sy'n 49 oed ac yn byw yng Nghaerfyrddin, ei fagu yn y blynyddoedd cynnar yn Ne Swydd Efrog, lle roedd angen iddo jyglo gweithio fel nyrs dan hyfforddiant, gofalu am ei chwaer fach ar ôl i'w dad adael y cartref, a chuddio ei rywioldeb oddi wrth ei ffrindiau a'i deulu gan fod ofn stigma a cham-drin arno. Mae'n esbonio, “Pan oeddwn i'n nyrs dan hyfforddiant, roeddwn i'n arfer mynd allan gyda merched, er fy mod yn ddyn hoyw, dim ond er mwyn bod fel pawb arall. Mae'n rhaid i chi ddeall, gan fy mod i’n byw yn Ne Swydd Efrog yn y 70au a’r 80au, byddai fy nheulu wedi fy ngwrthod yn llwyr, felly dilynais ‘norm’ fy mherthnasau a'm ffrindiau a oedd yn ddynion. 

Yn ystod y 90au hwyr, cwrddais â’r ferch sydd bellach yn gyn-wraig i mi, cawsom ddwy ferch hyfryd, ond yna gwnaethom ysgaru yn ystod haf 2005. Erbyn hynny, roeddwn i wir yn cael trafferth gyda phwy oeddwn i go iawn a'm hiechyd meddwl.”

Ond erbyn mis Ebrill 2016, roedd iechyd meddwl Mark wedi mynd i gyfeiriad tywyll. Dywedodd, “Roedd fy merch hynaf wedi gadael gartref y Nadolig blaenorol – dydd San Steffan am 9.30am i fod yn fanwl gywir – ar ôl cael gwybod yn eithaf swrth bod ei thad yn ddyn hoyw. Dwi ddim wedi bod mewn cysylltiad â hi ers y diwrnod hwnnw. 

Yr oedd ychydig fisoedd yn ddiweddarach ar ôl ymgais i gyflawni hunanladdiad, fe'm bwndelwyd gan bedwar heddlu i gerbyd tîm argyfwng iechyd meddwl. Yna, fe'm cymerwyd i ysbyty lleol lle cefais ddiagnosis o iselder clinigol gan seicolegydd clinigol hyfryd iawn. Alla i ddim dechrau dweud wrthych pa mor falch oeddwn i'n teimlo nad oeddwn yn "mynd yn wirion" fel y byddai fy mam-gu hwyr yn ei ddweud.

Ers hynny, rwyf wedi ceisio lladd fy hun ddwywaith eto, a'r diweddaraf ar 2 Gorffennaf 2019. Dyw pobl sy'n meddwl am ladd eu hunain byth yn anghofio dyddiad yr ymgais. Mae meddwl am hunanladdiad fel bod mewn cwch rhwyfo bach iawn yng nghanol cefnfor. Pan oeddwn i'n teimlo ar fy mhen fy hun ac yn meddwl am ladd fy hun, yr unig beth roeddwn i eisiau oedd i rywun ddweud 'sut wyt ti?’. Dyna'r unig beth mae'n ei gymryd – 3 gair syml.” 

Yn ôl adroddiad gan y Samariaid, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw yng Nghymru drwy ladd eu hunain bob blwyddyn, tua theirgwaith nifer y bobl a gaiff eu lladd mewn damweiniau ffordd. Hunanladdiad yw'r achos marwolaeth mwyaf cyffredin i ddynion rhwng 20 a 49 oed, a'r prif achos marwolaeth i bobl o dan 35 oed. 

Gall atal hunanladdiad gynnwys siarad yn agored am eich iechyd meddwl a cheisio cael help os byddwch yn meddwl am hunanladdiad. Rôl Amser i Newid Cymru yw dileu'r stigma a'r gwahaniaethu sy’n ymwneud ag iechyd meddwl. 

Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru: "Mae stori rymus Mark yn dangos y gwir angen am ymyriad cynnar er mwyn atal hunanladdiad. Nid problem iechyd meddwl yw hunanladdiad ei hun, ond mae'n gysylltiedig â thrallod meddwl. Gall rhywbeth syml fel galw i weld rhywun a gofyn, ‘sut wyt ti?’ fod yn gam cyntaf tuag at achub bywyd. 

Mae angen i aelodau o gymdeithas, yn cynnwys teulu, ffrindiau, cydweithwyr ac aelodau o'r gymuned ddod at ei gilydd a chefnogi ei gilydd yn ystod cyfnodau o argyfwng. Mae'n amser i newid ein hagwedd a'n hymddygiad tuag at iechyd meddwl mewn cymdeithas, ac achub mwy o bobl rhag marw drwy ladd eu hunain.”

Gall y stigma a'r gwahaniaethu sy’n ymwneud â chyflyrau iechyd meddwl wneud i bobl deimlo cywilydd, a’u hatal rhag siarad yn onest am eu teimladau ac, o ganlyniad i hynny, eu hatal rhag ceisio cael yr help sydd ei angen arnynt. Peidiwch â dioddef yn dawel – mae'n iawn i siarad. 

Angen help? Os ydych chi'n cael problemau iechyd meddwl neu os oes angen cymorth brys arnoch, cliciwch yma

Mae gwefan Amser i Newid Cymru yn llawn gwybodaeth a chyngor ar iechyd meddwl. Ewch i amserinewidcymru.org.uk a dilynwch yr ymgyrch ar TwitterFacebook ac Instagram.

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy