Credwn na ddylai neb fyw mewn ofn barn oherwydd bod ganddynt broblem iechyd meddwl. Dewch i'n stondin ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth yr Eisteddfod hon i ddarganfod sut y gallwch chi helpu i wireddu hyn.
Credwn na ddylai neb fyw mewn ofn barn oherwydd bod ganddynt broblem iechyd meddwl. Dewch i'n stondin ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth yr Eisteddfod hon i ddarganfod sut y gallwch chi helpu i wireddu hyn.
Mae Amser i Newid Cymru yn ymgyrchu i ddileu'r stigma o gwmpas iechyd meddwl yng Nghymru yn Eisteddfod Genedlaethol 2018.
P'un a ydych chi'n chwilio am wybodaeth, eisiau cymryd rhan neu ond eisiau cael sgwrs - dowch o hyd i dîm Amser i Newid Cymru yn ein stondin yn y Pafiliwn Gwyddoniaeth. Mae'r map isod yn dangos sut i gyrraedd yno!
Bydd yna gemau, awgrymiadau siarad a thaflenni gwybodaeth ar sut i ddechrau sgwrsio am iechyd meddwl a ble i gael hyd o gefnogaeth.
Fe welwn ni chi yno!
Peidiwch ag anghofio dilyn ein tudalen Trydar a rhannu eich lluniau trwy ddefnyddio'r hashtag #TTCW. I dderbyn newyddion diweddaraf yr ymgyrch gwnewch yn siŵr eich bod yn ein 'hoffi' ni ar Facebook.