Gwnewch rhywbeth arbennig yn yr Eisteddfod eleni: rhown ddiwedd ar stigma iechyd meddwl!
Does dim rhaid bod yn wyddonydd o fri, yn archarwr neu yn dofwr llewod i fod yn arbennig – os fyddwch chi yn ymwled a’r Eisteddfod yn Sir Gâr dros yr wythnos nesaf mi allwch wneud gwahaniaeth mawr trwy ymweld a’n stondyn (517/518) a dechrau eich sgwrs chi am iechyd meddwl!
Os ydych chi’n teimlo fel ychydig o hwyl a sbri, mi allwch gamu mewn i esgudiau un o’n cymeriadau ‘arbennig’, ond mi fydd croeso mawr os oes well gennych galw heibio am baned a darganfod mwy am y pethau bach all wneud gwahaniaeth mawr i ffrindiau, teulu neu gydweithwyr pan fod ganddynt broblem iechyd meddwl.
Dyma beth sy’n digwydd ar y stondyn:
- Ydych chi wedi darllen ein blogiau? Dewch i gwrdd a rhai o’n Eiriolwyr gwych sydd yn rhannu eu straeon i helpu i bobl ddeall mwy am fyw gyda salwch meddwl.
- Byddwch yn arbennig! Mi fydd rhai o’r cymeriadau o’n ymgyrch Bydd yn Arbennig ar y stondyn ac mi allwch hyd yn oed rhoi tro ar fod yn ninja, gofodwr neu tylwythen teg!
- Dewch i gwrdd a tîm Amser i Newid Cymru i ddarganfod sut i ddod a’r ymgyrch i eich gweithle neu grwp.
- Galwch heibio am baned ac i glywed rhagor am y pethe bach y gallwch chi wneud i helpu rhywun yr ydych chi yn nabod sydd a problem iechyd meddwl.
Mi fyddwn ni yma drwy’r wythnos felly dewch i gwrdd a ni ar stondyn 517/518. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yna!