Astudiaeth Achos: Comisiynydd Plant Cymru

"Y mentrau llesiant mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n cael eu perchenogi a'u llywio o'r gwaelod i fyny."

18th May 2020, 4.05pm | Ysgrifenwyd gan Amanda

"Y mentrau llesiant mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n cael eu perchenogi a'u llywio o'r gwaelod i fyny."

Rydw i'n gweithio yn swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yn Abertawe. Rydyn ni'n dîm bach o unigolion ymroddedig sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru.

Er bod Llesiant y Tîm yn rhan o fy mhortffolio gwaith fel Rheolwr Adnoddau Dynol, does gen i ddim syniad beth fyddwn i'n ei wneud heb fy nghriw o Hyrwyddwyr Llesiant; aelodau o staff o bob rhan o'r sefydliad sydd â diddordeb brwd mewn llesiant yn y gweithle ac sydd wir yn poeni am eu cydweithwyr. Yn ychwanegol at eu swyddi bob dydd, mae'r criw yma o bobl, sy'n llawn cymhelliant, yn trefnu mentrau arbennig ac yn rhannu positifrwydd a llawenydd ymhlith eu cydweithwyr. Maen nhw'n brawf mai'r mentrau rheoli pobl a llesiant mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n cael eu perchenogi a'u llywio o'r gwaelod i fyny.

Mae COVID-19 a'r cyfyngiadau symud wedi galluogi ein tîm o Hyrwyddwyr Llesiant i fynd gam ymhellach i ymateb i'r her.

Heb fod unrhyw un wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny, mae ein hyrwyddwyr wedi bod yn rhannu syniadau penigamp o'u rhwydweithiau er mwyn helpu i gefnogi'r broses o addasu i weithio gartref yn llawn amser. Mae'n amlwg o gyrhaeddiad ac ansawdd yr erthyglau maen nhw wedi'u rhannu fod gan bob un ohonyn nhw ddiddordeb personol brwd mewn iechyd a llesiant.

Mae'r Hyrwyddwyr wedi penderfynu cyfarfod yn fwy rheolaidd yn ystod y cyfyngiadau symud er mwyn rhannu syniadau a monitro iechyd y Tîm ehangach mewn ffordd ysgafn.

Maen nhw wedi sefydlu system gyfeillio sy'n golygu bod gan bawb yn y Tîm rywun o faes gwaith gwahanol sy'n cysylltu â nhw'n rheolaidd am sgwrs, fel eu bod yn gallu rhannu straeon a phroblemau a dod i adnabod ei gilydd. 

Maen nhw wedi cynllunio cyfres o heriau llesiant sy'n cael eu rhannu â'r Tîm ehangach bob dydd Llun. Mae'r heriau hyn yn newid bob wythnos ond yn eu plith mae annog pobl i rannu lluniau ohonyn nhw'n rhedeg/mynd am dro bob dydd, annog pobl i ddweud wrth eraill am sgil newydd maen nhw wedi'i ddysgu yn ystod y cyfyngiadau symud, gofyn i gydweithwyr wneud nodyn o'r hyn maen nhw'n ei golli fwyaf yn ystod y cyfyngiadau, a llawer mwy.

Ac maen nhw wedi newid yr Hysbysfwrdd Staff, a oedd wedi'i osod yn y swyddfa, i fod yn un rhithwir.  Erbyn hyn, mae'r fewnrwyd staff yn cynnwys dogfen lle mae cydweithwyr yn gallu 'cysylltu' ag aelodau eraill o'r staff i ddiolch iddyn nhw am eu help neu ddangos eu gwerthfawrogiad. 

Rydyn ni hefyd wedi addasu ein sesiwn FIKA (traddodiad Swedaidd o gael coffi a chacen gyda ffrindiau), a gynhelir bob bore dydd Llun. Cyfarfod rhithwir ydyw erbyn hyn.  Mae crynodeb o heriau'r wythnos flaenorol a chyfraniadau pobl, sy'n cael ei rannu gan ddau Hyrwyddwr creadigol iawn, yn aml yn denu llawer o ddiddordeb a chanmoliaeth.

Rhwng popeth, yn ogystal â strwythur Rheoli Llinell ffurfiol sefydledig, mae'r mentrau penodol yma sydd wedi'u cynllunio'n dda, wedi helpu i sicrhau bod y newid i weithio o bell yn llawn amser wedi bod yn stori lwyddiant i fy Nhîm. Os hoffech chi weld rhestr o'n heriau neu ein System gyfeillio, mae croeso i chi gysylltu â ni. Bydden ni'n fwy na hapus i'w rhannu.

 

Amanda Evans

Efallai hoffech

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024: Mynd i’r Afael â Stigma Iechyd Meddwl yn y Gwaith

Mae Rheolwr Rhaglen AiNC, Lowri Wyn Jones, yn archwilio rôl hollbwysig mynd i’r afael â stigma yn y gweithle ac yn amlygu’r manteision parhaol y gall hyn eu cynnig i fusnesau.

9th October 2024, 5.00pm | Ysgrifenwyd gan Lowri Wyn Jones

Darganfyddwch fwy