Astudiaeth Achos: JP Solicitors

Fel Rheolwr Adnoddau Dynol, fy rôl i yw goruchwylio llesiant y staff ac mae digwyddiad trychinebus fel y Coronafeirws wedi tynnu sylw go iawn at hynnyo

5th May 2020, 5.04pm | Ysgrifenwyd gan Jacqui

Mae bron blwyddyn ers i JCP Solicitors ddechrau meddwl am sut allen ni ddangos ein hymrwymiad i gefnogi iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle yn ffurfiol, a arweiniodd at lofnodi ein haddewid Amser i Newid Cymru ym mis Medi 2019.

Ers hynny, rydyn ni wedi gwneud cynnydd cyson o ran ein cynllun o fis i fis ac wedi rhoi mentrau gwych ar waith. Mae'r rhain wedi cynnwys Cyfarwyddwyr yn rhannu eu profiadau iechyd meddwl nhw'n agored mewn cylchlythyr chwarterol, recriwtio a hyfforddi hyrwyddwyr iechyd meddwl, adolygu ein polisïau yn unol â'n haddewid, a llawer mwy. Roedd cynlluniau mis Ebrill a mis Mai yn mynd rhagddyn nhw'n dda nes i ni, fel pob cyflogwr arall, wynebu problem fusnes fwyaf cymhleth ein cenhedlaeth.

Fel Rheolwr Adnoddau Dynol, fy rôl i yw goruchwylio llesiant y staff ac mae digwyddiad trychinebus fel y Coronafeirws wedi tynnu sylw go iawn at hynny. Mae pobl yn ymdopi â math newydd o orbryder ac ofn, does dim systemau cymorth bob dydd ganddyn nhw oherwydd y rheolau pellter cymdeithasol a hunanynysu, ac mae ein ffyrdd arferol o gyfathrebu wedi cael eu herio. Dydyn ni ddim yn gallu ymgysylltu â’n gilydd wyneb yn wyneb na chynllunio digwyddiadau ar gyfer y dyfodol, ac rydyn ni’n gweld bod hyn yn gallu cael effaith fawr ar lesiant meddyliol.”

Wrth gwrs, mae llawer o bethau y tu hwnt i'n rheolaeth ni'n llwyr, ond yn JCP, gwnaethon ni benderfynu'n gynnar iawn fod ein cyfrifoldeb fel cyflogwr yn fwy o lawer na chadw olwynion y busnes i droi, ac y dylen ni helpu ein cyflogeion mewn unrhyw ffordd bosibl. Ein prif ffocws yw cynnal cyswllt â'r staff ac rydyn ni wedi gwneud hynny drwy ailgynllunio rôl ein tîm Adnoddau Dynol fel mai eu prif nod nhw nawr yw cadw mewn cysylltiad â'r aelodau o'r staff. Dydyn ni ddim yn siarad â'r staff am waith, rydyn ni'n siarad â nhw am fywyd a'u teuluoedd ac rydyn ni'n gofyn iddyn nhw'n uniongyrchol am eu hiechyd meddwl. Rydyn ni'n gofyn sut maen nhw, nid faint o waith maen nhw wedi ei wneud. Mae bod yn agored fel hyn yn galluogi'r staff i siarad â ni a'i gilydd am sut maen nhw'n teimlo, ac mae'n ein galluogi ni i weld a oes angen i ni gyfeirio unigolion at wasanaethau eraill neu gymryd camau eraill.

“Fel Rheolwr Adnoddau Dynol, fy rôl i yw goruchwylio llesiant y staff ac mae digwyddiad trychinebus fel y Coronafeirws wedi tynnu sylw go iawn at hynny0. Mae pobl yn ymdopi â math newydd o orbryder ac ofn, does dim systemau cymorth bob dydd ganddyn nhw oherwydd y rheolau pellter cymdeithasol a hunanynysu, ac mae ein ffyrdd arferol o gyfathrebu wedi cael eu herio.  Dydyn ni ddim yn gallu ymgysylltu â’n gilydd wyneb yn wyneb na chynllunio digwyddiadau ar gyfer y dyfodol. Ac rydyn ni’n gweld bod hyn yn gallu cael effaith fawr ar lesiant meddyliol.”


Rydyn ni'n annog rheolwyr llinell i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r staff drwy gyfarfodydd Zoom neu grwpiau WhatsApp, ac rydyn ni'n eu hannog nhw i fod yn agored am eu pryderon a'u hemosiynau nhw eu hunain fel bod aelodau'r tîm yn gwybod ei bod yn normal iddyn nhw deimlo ychydig yn ansicr a bod pawb yno i'w cefnogi os oes angen.  

Mae ein tîm marchnata wedi creu grŵp #TeamJCP caeedig ar Facebook lle rydyn ni'n rhannu straeon doniol, lluniau o'n cathod yn eistedd ar ein gweithfannau a fideos o'n plant yn creu anhrefn, ac rydyn ni'n cynnal cwis bob nos Sul ar Facebook Live. Mae'n ychydig o hwyl ysgafn ond gyda diben gwirioneddol i wella llesiant meddyliol, cadw mewn cysylltiad, codi calon ein staff a chadw rhywfaint o undod o fewn y tîm mewn byd newydd lle mae ein desgiau ymhellach i ffwrdd oddi wrth ein gilydd nag erioed.

Rydyn ni'n cyfathrebu'n agored am ein hiechyd meddwl drwy e-bost i bob aelod o'n staff, ac yn rhannu gwasanaethau cymorth fel Every Mind Matters y GIG, sy'n adnodd gwych. Rydyn ni hefyd yn rhannu awgrymiadau gan ein Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl, fel defnyddio'r cyfryngau yn llai ac awgrymiadau ar hunanofal.  Mae ein hyrwyddwyr ar gael i staff nad ydyn nhw o bosibl am drafod eu teimladau â'r tîm Adnoddau Dynol na gyda Rheolwr ac maen nhw wrthi'n gweithio ar ddathliadau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ar gyfer mis Mai a ffyrdd arloesol o gymryd rhan yn y dathliadau hynny gartref.

Mae gennyn ni hefyd grŵp cymunedol i'r staff sy'n rhannu argymhellion wythnosol ar bethau i'w gwneud i'ch cadw chi'n brysur yn ystod y cyfyngiadau symud, o lyfrau i bodlediadau.

Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio sicrhau bod ein staff yn ddiogel ac yn iach gartref, a'r adborth rydyn ni'n ei gael yw bod ein staff yn teimlo ein bod ni'n poeni amdanyn nhw, sy'n bwysig iawn i ni.  Ein neges gyson yw ei bod hi'n iawn i beidio â bod yn iawn, ac mae hynny'n fwy perthnasol nawr nag erioed.

Jacqui Gower yw Rheolwr Adnoddau Dynol JCP Solicitors. Ei phrif rôl yw goruchwylio arferion dyddiol dros 200 o gyflogeion ar draws y swyddfeydd yn ne, dwyrain a gorllewin Cymru. Fel rhan o'r tîm rheoli, mae Jacqui yn mwynhau natur amrywiol ei rôl yn fawr. Mae hi'n frwd dros ddenu'r bobl gywir i'r busnes, ac yna eu helpu i lwyddo yn eu gyrfaoedd drwy greu diwylliant o ddatblygiad a thwf parhaus. Mae Jacqui yn credu'n gryf mewn cydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd, gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd, gan gynnal gwerthoedd cwmni da ar yr un pryd.

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy