Astudiaeth Achos: JCP Solicitors

Yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon, darllenwch sut mae JCP Solicitors wedi cael budd o recriwtio Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl a'r ffordd y mae'r gwirfoddolwyr hyn wedi cefnogi llesiant eu cydweithwyr

1st June 2020, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Cherrie

Yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon, darllenwch sut mae JCP Solicitors wedi cael budd o recriwtio Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl a'r ffordd y mae'r gwirfoddolwyr hyn wedi cefnogi llesiant eu cydweithwyr.

“Mae ein Hyrwyddwyr yn mynd ati i hybu llesiant drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau mewnol ac maen nhw'n hybu siarad yn agored am iechyd meddwl. Mae pob un ohonon ni'n awyddus iawn i sicrhau nad oes unrhyw le yn y gweithle, nac mewn cymdeithas, am unrhyw stigma o ran iechyd meddwl.”

Mae'n hen bryd newid y ffordd mae pobl yn ystyried iechyd meddwl, felly pan wnaeth fy nghyflogwr, JCP Solicitors, ddod yn rhan o gynllun Amser i Newid Cymru, achubais ar y cyfle i fod yn rhan o hyn ar unwaith.  Gwnaeth JCP addo ei ymrwymiad i'r cynllun ac aeth ati i recriwtio Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl ym mhob rhan o'r cwmni.  Mae ein staff yn ymwybodol bod eu Hyrwyddwyr yno i gynnig cymorth a chlust cyfrinachol os bydd ei angen.  Mae'r parodrwydd i gymryd rhan a'r adborth a gawsom wedi bod yn wych – mae hyn yn dyst i lwyddiant y cynllun. 

Mae ein Hyrwyddwyr yn mynd ati i hybu llesiant drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau mewnol ac maen nhw'n hybu siarad yn agored am iechyd meddwl.  Mae pob un ohonon ni'n awyddus iawn i sicrhau nad oes unrhyw le yn y gweithle, nac mewn cymdeithas, am unrhyw stigma o ran iechyd meddwl. 

Er mwyn atgyfnerthu ein hymrwymiad i wrth-stigma, dewisodd JCP Hafal, elusen flaenllaw Cymru ar gyfer pobl sydd â salwch meddwl difrifol a'u gofalwyr, fel elusen y flwyddyn.  Gwnaethon ni gynnal boreau coffi mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru gan wahodd unrhyw un a oedd yn teimlo'n unig neu'n ynysig i ymuno â ni a mwynhau paned o de a sgwrs gyfeillgar.  

Mae pob un ohonon ni wedi wynebu cyfnod anodd iawn yn ein bywydau, ac yn dal i wynebu'r cyfnod anodd hwnnw, ac mae JCP wedi bod yn gymorth gwych i bob aelod o staff, gan gynnig galwadau ffôn wythnosol, e-byst, arweiniad a grŵp Facebook tîm JCP o'r enw #TeamJCP Community lle gellir rhannu straeon personol a'r newyddion diweddaraf bob dydd.  'Gyda'n gilydd ar wahân' yw'r thema, ac mae ein perthynas ddigidol newydd yn cadw pob un ohonon ni mewn cysylltiad.

Mae rhestr o argymhellion gorau wrth i ni ynysu yn cael ei llunio bob wythnos ac e-bost yn cael ei anfon at y staff.  Mae hyn yn cynnwys heriau hwyliog y gall teuluoedd eu cwblhau gyda'i gilydd neu weithgareddau y gallwch eu mwynhau ar eich pen eich hun.  Nod pob un o'r rhain yw hybu llesiant cadarnhaol a gallwch eu cyflawni yn y cartref neu wrth fynd am dro bob dydd. 

Mae ein Hyrwyddwyr wedi parhau i gefnogi staff ac, yn ddiweddar, cynhaliwyd ymgyrch wych ganddyn nhw ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 18 a 23 Mai.  Thema eleni oedd caredigrwydd a chafodd amrywiaeth o ddigwyddiadau eu trefnu i annog staff i ddiolch i'r rheini sydd wedi eu helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Daeth yr wythnos i ben gyda fideo ar y thema caredigrwydd a wnaeth godi calon, ac a gafodd ei rannu ar draws y cwmni ac ar ein cyfryngau cymdeithasol.  Roedd yr ymgyrch yn wirioneddol wych. 

Rydyn ni'n credu ei bod yn bwysicach nag erioed o'r blaen i annog pobl i fod yn agored ac yn onest am iechyd meddwl ac i gael gwared ar unrhyw gywilydd sy'n gysylltiedig ag ef.  Mae'n debygol y bydd y pandemig diweddar yn effeithio ar nifer ohonon ni mewn ffyrdd hollol wahanol ac rwy'n falch iawn o fod yn rhan o gynllun Amser i Newid Cymru.

 

Cherrie Powell

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy