Y 10fed o fis Medi eleni oedd Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. Yn ogystal â chlywed gan ein staff a'n Hyrwyddwyr, gwnaethon ni hefyd ofyn i chi, fel cyflogwyr, sut rydych chi'n mynd i'r afael ag atal hunanladdiad yn y gweithle. Yma byddwn ni'n clywed gan Tim, Rheolwr Adnoddau Dynol CMB Engineering, sy'n rhannu ei brofiad personol o helpu gweithiwr ar un o safleoedd y cwmni ar adeg o argyfwng. Mae CMB Engineering wedi cael llawer o adborth cadarnhaol gan ei gyflogeion, ac mae ar flaen y gad wrth ddarparu gwasanaethau ar y safle. Dyma brofiad Tim. Rhybudd: yn cynnwys cyfeiriad at unigolyn yn ceisio lladd ei hun.
Cefais alwad ffôn gan un o'n goruchwylwyr safle ryw fore dydd Gwener. Roedd yn poeni'n arw am un o'r ffitwyr a oedd wedi bod yn gweithio ar y safle. Roedd y ffitiwr wedi ei ffonio i ddweud ei fod wedi cael digon ar bopeth ac na fyddai'n ei weld eto ar ôl y penwythnos.
Ar ôl i mi geisio cysylltu ag ef sawl gwaith, atebodd y ffôn. Fe gawson ni sgwrs hir am ei orffennol a'r holl broblemau a oedd yn ei wthio i’r pwynt o ystyried lladd ei hun a chynllunio sut roedd yn bwriadu gwneud hynny. Rwyf o'r farn mai'r trobwynt oedd yr agwedd ddigywilydd ac amharchus iawn a gafodd gan dderbynnydd ei feddyg teulu pan y soniodd am ei iechyd meddwl. Ar ôl cael sgwrs dda, llwyddais i'w dawelu rywfaint a dywedais wrtho y byddwn i'n cysylltu â'r feddygfa i wneud yn siwr y byddai'n cael gweld ei feddyg y prynhawn hwnnw. Yn dilyn ychydig o eiriau llym (ar fy rhan i ????) â derbynnydd y feddygfa, cafodd apwyntiad ei drefnu â’i feddyg teulu y prynhawn hwnnw.
Cawsom sgwrs ar ôl yr apwyntiad ac roedd yn teimlo’n fwy positif o lawer. Cafodd feddyginiaeth ei rhagnodi iddo a chafodd gyfnod o dair wythnos o absenoldeb salwch. Gwnaethom drefniadau iddo ymweld ag aelodau o'i deulu yn Lloegr yn y cyfnod hwnnw am ein bod ill dau yn cytuno bod angen iddo ddianc o'i sefyllfa fyw bresennol.
Roedd hyn ryw 18 mis yn ôl nawr, ac rwy’n cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag ef ac mae’n dda gen i ddweud ei fod yn ymdopi'n dda. Mae'n cael rhai diwrnodau anodd o hyd, ond nid mor anodd fel ei fod yn meddwl am ladd ei hun.
Dywedodd fod y ffaith ei fod yn gwybod bod y cwmni'n ei gefnogi, a ddim yn ei feirniadu, yn help mawr iddo, ac hefyd y ffaith fy mod i yma bob amser os bydd am gael sgwrs.
O safbwynt personol a phroffesiynol, roedd hyn yn heriol iawn, am mai hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o ddelio ag unigolyn a oedd wedi cynllunio lladd ei hun mewn gwirionedd. Roeddwn i wedi siarad â chyflogeion a oedd yn teimlo'n bryderus, o dan straen ac yn isel yn y gorffennol, ond nid i'r graddau hyn. Mae'r profiad hwn wedi fy helpu i ddeall ac wedi dangos i mi pa mor bwysig yw cael sgwrs syml. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli bod pawb yn wahanol, a bod y ffactorau sy'n effeithio ar unigolion mor amrywiol – ni fydd yr hyn sy'n effeithio ar un unigolyn yn cael yr un effaith ar un arall. Yn sicr, dyw iechyd meddwl ddim yr un fath i bawb, ond weithiau dim ond sgwrs sydd ei hangen i ddechrau helpu rhywun.