Astudiaeth Achos: Firstsource Caerdydd

Hayley Thomas, Swyddog Arweiniol Ymgysylltu ar gyfer Firstsource Caerdydd yn egluro sut mae'r addewid wedi bod yn adnodd hanfodol i Firstsource, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn.

11th May 2020, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Hayley

Hayley Thomas, Swyddog Arweiniol Ymgysylltu ar gyfer Firstsource Caerdydd yn egluro sut mae'r addewid wedi bod yn adnodd hanfodol i Firstsource, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn.

Pan wnaethon ni ddechrau ein cynllun gweithredu ar gyfer ein haddewid Amser i Newid Cymru, roeddwn i wedi bod yn gweithio i Firstsource am 6 blynedd mewn sawl swydd wahanol.  Roeddwn i wedi bod yn gynghorydd, yr oedd angen cymorth arnaf, yn Arweinydd Tîm a oedd yn cefnogi eraill, yn Swyddog Arweiniol Rheoli'r Gweithlu a oedd yn gyfrifol am lefelau absenoldeb ac roedd gennyf fy mhrofiad personol fy hun o salwch meddwl. Felly pan ddechreuais i weithio fel Swyddog Arweiniol Ymgysylltu, roeddwn i'n gwybod bod hwn yn faes y gallen ni weithio arno ac yn un roedd angen i ni weithio arno. Dywedodd Ceri, llysgennad ar gyfer Amser i Newid Cymru, wrthyf am y rhaglen a gwnaethon ni ddechrau ar y gwaith.

Yr hyn sy'n allweddol i'n cynllun gweithredu ac i wneud newidiadau yw sicrhau ymrwymiad pob maes – Adnoddau Dynol, Arweinwyr, Meysydd Cymorth, Dysgu a Datblygu, Cyfleusterau – pawb. Ar ryw adeg, mae'r holl feysydd hyn yn gyfrifol am helpu unigolyn neu efallai y bydd angen cymorth arnyn nhw eu hunain. Mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn rhan o lywio profiadau a datblygiad unigol a bydd ganddyn nhw syniadau am sut allwch chi wella. Roedden ni'n ddigon ffodus bod yr holl adrannau yn ystyried eu mentrau eu hunain neu roedd angen cymorth arnyn nhw eisoes.

Gan gydweithio drwy gyfarfodydd a negeseuon e-bost, gwnaethom lunio ein cynllun gweithredu ac mae rhai camau gweithredu yn parhau hyd heddiw. Mae rhai enghreifftiau o fentrau gwnaethon ni eu dechrau o ganlyniad i'r cynllun yn cynnwys Hyrwyddwyr y Bobl a'n tîm o Swyddogion Cymorth Cyntaf. Grŵp o gynghorwyr a staff cymorth yw Hyrwyddwyr y Bobl sy'n cwrdd bob mis i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn rydyn ni wedi'i wneud yn ystod y mis hwnnw. Mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i drafod syniadau a chael adborth gonest y gallwn ei ddefnyddio i wella'r gweithle. Roedd gennym swyddogion cymorth cyntaf corfforol eisoes, ond nawr mae gennym dîm o swyddogion cymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl hefyd gyda phosteri wedi'u harddangos wrth ymyl y tîm corfforol – felly sdim ots pa broblem sydd gan rywun, bydd yn gallu gweld at bwy y gall droi am gymorth. Eto, daw'r bobl hyn o bob rhan o'n busnes felly mae rhywun ar gael ar bob sifft bob amser. Mae'r ddwy fenter wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi ein helpu i lywio'r ffordd ymlaen i ni.

Gwnaethom lofnodi ein haddewid ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd – 10 Hydref 2019. Roedden ni wedi dechrau cynnal ein hadolygiad 6 mis i weld beth oedd yn gweithio, beth nad oedd yn gweithio a sut allen ni gynllunio ar gyfer y 12 mis nesaf. Yn anffodus, gyda Covid-19 a'r newidiadau i rolau, rydyn ni wedi gorfod rhoi'r gorau i hyn am y tro, ond rydyn ni wedi gwneud pethau eraill i gefnogi ein staff yn ystod y cyfnod hwn.

Rydyn ni wedi gofyn i'n harweinwyr ffonio eu cynghorwyr yn rheolaidd er mwyn cadw llygad ar eu llesiant, rydyn ni'n dosbarthu pecyn ymgysylltu bob dydd sy'n cynnwys gwybodaeth gan y GIG, gwybodaeth am ble i gael cymorth, ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar neu bos, ac yna weithgareddau y gall oedolion eu gwneud a gweithgareddau i rieni a phlant. Rydyn ni'n defnyddio ein tudalen Facebook breifat fwy bob dydd sy'n rhoi cyfleoedd i bawb ryngweithio. Rydyn ni'n ei defnyddio i rannu negeseuon difyr ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf bob dydd. Rydyn ni hefyd yn rhannu negeseuon “Dod i Adnabod” ar hyn o bryd – ymunodd llawer o weithwyr newydd â'r sefydliad ar ddechrau'r flwyddyn ac mae'n bosibl na fyddan nhw wedi cwrdd â'n tîm rheoli eto, felly rydyn ni wedi gofyn cwestiynau iddyn nhw am eu hoff bethau a'u cas bethau a rhannu eu hatebion fel bod pawb yn gwybod at bwy gallan nhw droi am gymorth. Gwnaethom ddechrau anfon cardiau pen-blwydd wedi'u hysgrifennu â llaw at bobl sydd â phen-blwydd ym mis Ebrill a mis Mai – ynghyd â sticeri, baneri, secwinau a baneri bach – felly mae fel cael parti bach ac rydyn ni wedi cael ymateb anhygoel i hyn.

Rydyn ni bob amser yn chwilio am fwy y gallwn ei wneud a phrosesau y gallwn eu datblygu a byddwn yn parhau i wneud hynny gyda chymorth Amser i Newid Cymru. Mae'r ffordd rydyn ni'n gweithio gyda salwch meddwl yn debyg i salwch meddwl ei hun – rydyn ni i gyd yn dysgu, bydd llawer ohonon ni'n dioddef a bydd angen cymorth arnon ni ar ryw adeg yn ystod ein bywydau a'n gyrfaoedd a byddwn yn parhau i weithio tuag at ffyrdd gwell o wella llesiant meddyliol er mwyn atal salwch meddwl a chefnogi pobl drwy eu salwch meddwl.

Nawr yn fwy nag erioed, os nad ydych chi wedi ystyried ymrwymo i'r addewid o'r blaen, dyma'r amser i wneud hynny. Mae'r unigrwydd y mae llawer o bobl yn ei deimlo'n cyfrannu at salwch meddwl, neu'n gallu gwneud hynny, ac mae angen cymorth ychwanegol ar bobl yn fwy nag erioed i ddelio â hynny a gorbryder am yr heriau sydd i ddod. Nid dyna yw ei diwedd hi chwaith, hyd yn oed pan fyddwn yn dechrau dychwelyd i'n normalrwydd blaenorol, bydd pobl sy'n cael trafferth dygymod â'n bywyd normal newydd, sy'n bryderus am integreiddio eto a bydd eich angen chi arnyn nhw.

Ewch ar Teams neu Slack, trefnwch gyfarfod ac edrychwch ar ganllawiau'r cynllun gweithredu. Byddwn ni'n iawn. Byddwch chi'n iawn.

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy