Astudiaeth achos: Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Ar #WMHD2020 dyma Anthony o Legal & General sy'n siarad am sut mae'r sefydliad yn cael gwared ar stigma iechyd meddwl yn y gweithle

9th October 2020, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Anthony

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref) eleni ar adeg lle y mae ein bywydau o ddydd i ddydd wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i bandemig COVID-19. Yng Nghymru a ledled y byd, mae'r pandemig wedi arwain at gynnydd mewn problemau iechyd meddwl ac mae trafod iechyd meddwl yn agored yn parhau i fod yn fater pwysig. Ar #WMHD2020 dyma Anthony o Legal & General sy'n siarad am sut mae'r sefydliad yn cael gwared ar stigma iechyd meddwl yn y gweithle, gan ysgrifennu bod hyn yn golygu “ymrwymiad, dygnwch, cydweithredu, buddsoddi ac, efallai yn bwysicaf oll, mae'n golygu newid.”

Mae iechyd meddwl yn rhan annatod o'n bodolaeth unigryw – pob un ohonon ni. Ond, yn rhy aml, dyma'r maes sy'n cael y sylw a'r gydnabyddiaeth leiaf. Dyw hi ddim yn gyfrinach y bydd her iechyd meddwl sylweddol yn effeithio ar un o bob pedwar ohonon ni, ar unrhyw adeg benodol. Ond, yn hytrach, dylid cofio hefyd mai sbectrwm yw iechyd meddwl a bydd pob un ohonon ni, bob dydd, wedi ein lleoli rhywle ar y sbectrwm hwnnw. 

Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni, fel cyflogwyr, ei ystyried a chanolbwyntio arno wrth i ni ystyried Llesiant a gwerth cynhenid pob unigolyn cyflogedig yn ein gweithlu. Ond, er y gall iechyd meddwl gwael gynrychioli her y mae angen rhoi mwy o sylw iddi, dyw hi ddim o reidrwydd yn cyflwyno rhagolwg negyddol.

Bydd hyd yn oed y cryfaf ohonon ni, ar adegau, yn wynebu her brwydr iechyd meddwl ac, yn L&G, rydyn ni hefyd yn cydnabod bod gennym fel cyflogwr ddyletswydd gofal tuag at ein pobl. Mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n ei gymryd o ddifrif ac felly, rydyn ni wedi rhoi mesurau amrywiol ar waith er mwyn cynnal a gwella ein hadnoddau help ymhellach, lle y bo'n bosibl.

Rydyn ni'n cydnabod gwerth gweithlu amrywiol ac yn gwerthfawrogi potensial pob cyflogai i ychwanegu gwerth drwy ei sgiliau, profiadau blaenorol ac, efallai yr un mor bwysig, drwy ei bersonoliaeth unigryw – ac mae hynny'n cynnwys y rhai ag iechyd meddwl gwael.

Ond rydyn ni hefyd yn cydnabod bod y stigma sy'n gysylltiedig â'r pwnc ‘Iechyd Meddwl’ ac, yn wir, y rhai ag iechyd meddwl gwael, yn parhau i raddau. Rydyn ni wedi dod yn bell o fewn ein sefydliad ni i gael gwared ar hyn, ond rydyn ni bob amser yn ymwybodol na allwn ni fforddio llaesu dwylo ac felly rydyn ni'n parhau i symud ymlaen tuag at ein nod o gael gwared ar y stigma hwnnw.

Mae hynny'n golygu ymrwymiad, dygnwch, cydweithredu, buddsoddi ac, efallai yn bwysicaf oll, mae'n golygu newid. Weithiau mae newid yn gallu bod yn anghyfforddus a, thrwy hynny, mae'n gallu cyflwyno ei heriau ei hun. Ond mae atyniad y nod terfynol yn fwy na digon i oresgyn popeth. Byddai'n wych cael cymdeithas heb y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael.

Mae COVID-19 yn enghraifft berffaith o ba mor anodd ydyw i ragweld bywyd. Mae wedi dangos sut y gall ein bywydau, heb rybudd, wynebu heriau annisgwyl ac eithafol, ac mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer digwyddiadau o'r fath. Fel sefydliadau, mae angen i ni gael y strwythurau cymorth ar waith ar gyfer ein pobl ond, yr un mor bwysig, mae hefyd angen y diwylliant a'r foeseg gwaith i'w cefnogi mewn sefyllfaoedd o'r fath.

Er bod COVID-19 wedi bod yn agoriad llygad yn sicr i bob un ohonon ni, fel rydyn ni wedi ei ddysgu o'r heriau iechyd meddwl dilynol i gymaint o unigolion, dyw'r digwyddiadau hyn mewn bywyd ddim bob amser mor eithafol na thrychinebus. Fodd bynnag, maen nhw'n haeddu yr un sylw, cyfranogiad a buddsoddiad.

Felly beth rydyn ni wedi'i wneud yn Legal & General?

Yn gyntaf, rydyn ni'n cydnabod bod angen newid parhaus er mwyn cyflawni'r nod i gael gwared ar stigma. Mae ein rhaglen o newid wedi cael ei chymeradwyo gan ein harweinwyr gweithredol a mentrau dilynol yn y cyfeiriad hwn a gefnogir ganddynt.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi hyfforddi tua 160 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ym mhob rhan o'r sefydliad. Mae'r cydweithwyr hyn ar gael i siarad â chyflogeion eraill yn y sefydliad sydd wedi gofyn am gael siarad â rhywun am fod ganddynt heriau neu bryderon iechyd meddwl. Dyw'r Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ddim yno i gynghori na rhoi diagnosis, ond yn hytrach i wrando, i annog, ac yna i gyfeirio'r unigolyn at help proffesiynol pellach – os bydd angen. Rydyn ni'n darparu cymorth i'n Swyddogion er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn ddiogel wrth helpu cydweithwyr.

Rydyn ni hefyd wedi casglu swm sylweddol o wybodaeth ddefnyddiol sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, ynghyd ag adnoddau sy'n ymwneud â llesiant corfforol ac ariannol, ar ein hwb Llesiant. Yn ogystal â rhestru enwau a manylion cyswllt ein Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, rydyn ni hefyd yn cyhoeddi erthyglau am ddigwyddiadau cyfredol ac amserol sy'n effeithio ar iechyd meddwl. Mae'r hwb Llesiant ar gael i bawb ar draws y sefydliad ac mae'n adnodd arall rydyn ni wedi ei roi ar waith er mwyn gwneud y sgwrs am iechyd meddwl mor ‘normal’ â sgwrs am ein hiechyd corfforol neu ariannol. 

Hefyd, rydyn ni o'r farn bod cyfle i ledaenu neges am ‘iechyd meddwl heb stigma’ y tu hwnt i ffiniau ein sefydliad ein hunain. Ni ddylai unrhyw un gael ei gosbi am godi llaw a dweud: ‘Dydw i ddim yn iawn’. Ac felly, bob blwyddyn, rydyn ni'n cynnal ein hymgyrch ‘Not A Red Card’, lle rydyn ni'n gwahodd sefydliadau eraill i gymryd rhan yn ein gwobrau ‘Not A Red Card’ drwy ddweud beth maen nhw'n ei wneud, naill ai fel unigolion neu sefydliadau, i fynd i'r afael ag iechyd meddwl a chael gwared ar y stigma cysylltiedig. Yn ein fforwm ‘Not A Red Card’, mae enwogion o'r byd chwaraeon, sydd wedi wynebu heriau iechyd meddwl gwael yn y gorffennol eu hunain, yn rhannu eu straeon am y problemau ac anawsterau, yn ogystal ag effaith stigma – ynghyd â gwydnwch a'r llwybr at wella.

Wrth i'r daith tuag at ein nod ‘dim stigma’ barhau, mae ein neges yn Legal & General yn glir: ‘Mae'n iawn peidio â bod yn iawn.’

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy