Amser i Ddathlu

Gall y syniad o ddathlu unrhyw beth yn ystod 2020 ymddangos yn her i lawer! Fodd bynnag, efallai mai dyna sydd ei angen arnom – dathlu'r holl 'enillion bach' hynny rydym wedi'u gwneud, pan safodd y…

27th November 2020, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Rachelle Bright

Gall y syniad o ddathlu unrhyw beth yn ystod 2020 ymddangos yn her i lawer! Fodd bynnag, efallai mai dyna sydd ei angen arnom – dathlu'r holl 'enillion bach' hynny rydym wedi'u gwneud, pan safodd y byd yn llonydd, a daeth popeth yn dawel am gyfnod.

Roedd rhaid i'r tîm a gwirfoddolwyr o fewn AiNC addasu i ffyrdd newydd o weithio ym mis Ebrill, er mwyn parhau i fwrw ymlaen â'n hymgyrch gwrth-stigma a gwahaniaethu. Yn wir, yn fwy felly nag erioed, gwyddem fod angen i bobl glywed y neges 'mae'n iawn i beidio â bod yn iawn', i estyn allan a gofyn am help ac i gadw mewn cyswllt a chefnogi'r rhai o'n cwmpas – ein teulu, ein ffrindiau a'n cydweithwyr.

Felly, dathlu a wnawn, a dangoswn ein gwethfawrogiad o’n Hyrwyddwyr a oedd yn gorfod wynebu'r byd newydd dewr o Zoom, Teams a chyflwyniadau wedi'i recordio ymlaen llaw, Hyrwyddwyr a ysgrifennodd flogiau ac a siaradodd yn y cyfryngau, a gyflwynodd mewn cynadleddau ledled Cymru ac a oedd yn parhau i ddysgu a thyfu gyda'r ymgyrch. Rydym yn dathlu'r holl fusnesau hynny sydd wedi cydnabod bregusrwydd ein staff ar hyn o bryd ac sydd wedi gweithio gyda ni i ddod yn Sefydliadau Addawedig ac i darparu Hyfforddiant Hyrwyddwyr y gweithle er mwyn camu i fyny a herio stigma iechyd meddwl yn y gweithle.

Rydym yn dathlu'r hwyl, y chwerthin a'r dagrau rydym wedi'u rhannu yn ystod ein 'Sgwrs a Phaned' wythnosol i Hyrwyddwyr. Rydym yn dathlu'r e-gylchlythyrau a grëwyd ar gyfer Hyrwyddwyr a Chyflogwyr yn ogystal â'n Digwyddiadau Rhwydwaith – lle rydym wedi  rhannu straeon personol, arfer gorau a gwybodaeth â'n gilydd. Rydym yn dathlu'r 'Hoffi' a'r 'Rhannu' ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan alluogi miloedd o safbwyntiau ac wrth gwrs ein hysbyseb deledu a welwyd ledled y wlad yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Dynion – a alluogodd un gwyliwr i estyn allan atom, gan ofyn sut y gallent helpu.

Felly rydym yn dewis dathlu, gyda chalon ddiolchgar, ac edrychwn ymlaen at 2021 gydag egni o'r newydd,  i weithio mewn partneriaeth â Hyrwyddwyr a chyflogwyr i newid y ffordd rydym yn meddwl am, i newid y ffordd rydym yn siarad am ac i newid y ffordd rydym yn trin y rhai â phroblemau iechyd meddwl.

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy