Cerdded a Siarad ar Ddiwrnod Amser i Siarad 2021

Rydyn ni'n gweithio gyda Cherddwyr Cymru ar Ddiwrnod Amser i Siarad 2021

18th January 2021, 7.00am | Ysgrifenwyd gan Tirion

Ar gyfer Diwrnod Amser i Siarad 2021, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn gweithio gyda Ramblers Cymru i annog pobl ledled Cymru i Gerdded a Siarad. Mae Ramblers Cymru yn elusen gerdded sy'n gweithio i hyrwyddo cerdded er iechyd a phleser. Weithiau mae'n haws cael sgwrs am iechyd meddwl wrth wneud rhywbeth egnïol fel cerdded.

P'un a yw'n mynd am dro mewn parc lleol neu'n cerdded i fyny bryn, mae cerdded yn ffordd wych o ddechrau sgwrs fach am iechyd meddwl, i wneud gwahaniaeth mawr. Beth am drefnu Taith Gerdded a Siarad drwy ymbellhau'n gymdeithasol gyda ffrind neu aelod o'r teulu? Rydym hefyd yn annog Cyflogwyr i drefnu taith gerdded amser cinio gyda chydweithwyr. Manteisio ar y cyfle i gadw'n iach a chysylltu drwy gydol y gaeaf. Rhannwch luniau o'ch teithiau cerdded gan ddefnyddio' #AmserISiarad hashnod a byddwn yn ail bostio ar draws TwitterFacebook ac Instagram

Mae Cerddwyr Cymru wedi dewis y teithiau cerdded canlynol ac maen nhw ar gael tan Ddiwrnod Amser i Siarad ddydd Iau 4 Chwefror 2021. Mae amrywiaeth o deithiau cerdded ledled Cymru sy'n gymedrol ac yn hawdd eu cyrraedd lle y bo'n bosibl. O ystyried canllawiau presennol y llywodraeth, dylai ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref ac rydyn ni'n erfyn arnoch i aros yn lleol a chadw'n ddiogel.

Gall pobl sy'n byw ger yr arfordir fynd i Lwybr Arfordir Cymru yn agos at ble maen nhw'n byw: https://www.walescoastpath.gov.uk/places-to-go/?lang=en

I bobl yn ardal Cymoedd De Cymru: https://valleysregionalpark.wales/discovery-gateways/

Efallai hoffech

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024: Mynd i’r Afael â Stigma Iechyd Meddwl yn y Gwaith

Mae Rheolwr Rhaglen AiNC, Lowri Wyn Jones, yn archwilio rôl hollbwysig mynd i’r afael â stigma yn y gweithle ac yn amlygu’r manteision parhaol y gall hyn eu cynnig i fusnesau.

9th October 2024, 5.00pm | Ysgrifenwyd gan Lowri Wyn Jones

Darganfyddwch fwy