Ym mis Tachwedd, roedden ni'n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno sesiwn hyfforddiant Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru, a drefnwyd gyda help ein partner EYST ac at groesawu rhai Hyrwyddwyr arbennig newydd i'n hymgyrch.
Gwnaethom dreulio boreau gwych gyda'n gilydd, yn dysgu am yr ymgyrch, ein negeseuon allweddol a rôl Hyrwyddwr, cymryd rhan mewn cwisiau rhyngweithiol, cael sgyrsiau agored a gonest am y ffyrdd gwahanol y gall rhywun brofi stigma a gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a rhannu rhai o'n profiadau personol ein hunain hefyd.
Mae hyrwyddwyr a phobl sydd â phrofiad uniongyrchol wrth wraidd ymgyrch Amser i Newid Cymru ac fel rhan o'r hyfforddiant, gwnaethom edrych ar sut y gall Hyrwyddwyr helpu i fynd i'r afael â stigma drwy amrywiaeth o ddulliau i annog trafodaethau mwy agored am iechyd meddwl a'r gwahaniaeth cadarnhaol enfawr y gall hyn ei wneud i bobl. Gwnaethom drafod sut i ysgrifennu blog ar gyfer ein gwefan, gan ddefnyddio ein deunyddiau ymgyrchu, dechrau sgyrsiau am iechyd meddwl, a mwy! Mae rhywbeth i bawb, ac mae gan bob gweithgaredd, o rannu gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i ysgrifennu blog, i roi cyflwyniad neu sgwrsio â ffrind am iechyd meddwl, y pŵer i wneud gwahaniaeth enfawr.
Yn Amser i Newid Cymru, rydyn ni am wella gwybodaeth am iechyd meddwl a dealltwriaeth ohono, ac, yn bwysicaf oll, annog pobl i siarad am iechyd meddwl. Gwyddom y gall rhannu straeon bywyd y rhai sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl arwain at newid trawsffurfiol mewn agweddau a lleihad o ran stigma a gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, e-bostiwch info@timetochangewales.org.uk