Gwnaethon ni gynnal digwyddiad cymdeithasol gwych yn Abertawe i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad ein Hyrwyddwyr, a dod â sefydliadau llawr gwlad o gymunedau ethnig lleiafrifol ynghyd i nodi Mis Treftadaeth De Asia.
Cynhaliwyd ein Swper Dathlu a Diolch i Hyrwyddwyr ym mwyty India India yn Abertawe nos Fawrth 26 Gorffennaf. Roedd yn gyfle i ailgysylltu â'n Hyrwyddwyr a diolch iddyn nhw am eu gwaith caled i fynd i'r afael â'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yng Nghymru.
Gwnaethon ni hefyd groesawu cynrychiolwyr o sefydliadau llawr gwlad, gan gynnwys sefydliadau De Asiaidd sy'n awyddus i gydweithio'n agos â ni i herio'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl mewn cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.
Roedd yn ffordd wych o nodi Mis Treftadaeth De Asia gan ein bod am estyn allan i gymunedau amrywiol lle nad yw problemau iechyd meddwl yn cael eu cydnabod na'u trafod ddigon.
Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Amser i Newid Cymru: “Roedd yn ddigwyddiad gwych i gydnabod gwaith ardderchog ein Hyrwyddwyr a rhwydweithio â sefydliadau sy'n frwd dros sicrhau lles meddyliol da a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn eu cymunedau.
Diolch yn fawr i Rahila a Jess am siarad mor agored am eu profiadau ac annog lle diogel i drafod iechyd meddwl.
Rydyn ni'n deall bod cymunedau gwahanol yn siarad am iechyd meddwl mewn ffyrdd gwahanol, felly rydyn ni am annog mwy o sgyrsiau agored a chefnogol am iechyd meddwl heb stigma na gwahaniaethu.”
Isod ceir rhestr o'r sefydliadau a fu'n rhan o'r digwyddiad a dolenni i'w gwefannau a'u llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch ddilyn hynt eu gwaith i gefnogi eu cymunedau eu hunain.
Diolch yn fawr i'r rheini a ddaeth i'n Swper Dathlu a Diolch i Hyrwyddwyr. Rydyn ni'n gobeithio eich bod wedi mwynhau ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i barhau â'ch cenhadaeth i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yng Nghymru.