Cyflogwr o Gasnewydd yn ymuno â menter Amser i Newid Cymru i gefnogi staff yn ystod cyfyngiadau symud y coronafeirws

Mae Niche, cwmni cynghori ar arian annibynnol yn Ne Cymru, wedi ymuno â rhwydwaith o gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i Amser i Newid Cymru er mwyn cefnogi lles meddyliol ei staff.

5th May 2020, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Mae Amser i Newid Cymru, sef yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi diwedd ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl yng Nghymru, wedi lansio cyfrif ar-lein penodol i gyflogwyr lle maen nhw’n gallu cael gafael ar becyn cymorth i’w galluogi i lofnodi addewid Amser i Newid Cymru. 

Dywedodd Tom Roberts, Cyfarwyddwr Cydymffurfiaeth ac Adnoddau Dynol Niche: “Byddwn ni’n llofnodi'r addewid fel ymrwymiad i'n cydweithwyr o ran y camau rydyn ni’n eu cymryd i sicrhau ein bod ni’n rhoi blaenoriaeth i les meddyliol cyflogeion. Mae hyn wedi dod yn fwyfwy perthnasol yn ddiweddar yn sgil pandemig COVID-19, sy'n golygu bod dros 50 o'n cydweithwyr yn gweithio gartref, gan addasu i ffordd newydd o weithio a'i chydbwyso â'u cyfrifoldebau gofal plant.

Mae ein hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn dechrau ar lefel uchaf un ein busnes. Roedd pob aelod o’n tîm uwch-reolwyr ymhlith y rhai cyntaf i gael hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn gynharach eleni, ac rydyn ni’n bwriadu trefnu i’n Hyrwyddwyr fynd drwy’r un weithdrefn. Mae ein Bwrdd yn cyfarfod bob wythnos i drafod ein cyfrifoldebau i’n cydweithwyr a sut allwn ni gyflawni ein targedau yn ein cynllun gweithredu Amser i Newid Cymru.”

Mae cynllun gweithredu Amser i Newid Cymru yn seiliedig ar y safonau craidd a gafodd eu hargymell gan adroddiad Thriving at Work, a gafodd ei ryddhau yn 2017, sy’n seiliedig ar arferion gorau a’r sail dystiolaeth sydd ar gael. 

O ran trefnu digwyddiadau cymdeithasol a hybu iechyd meddwl a lles, aeth Tom ymlaen i ddweud, “Mae gennym ni gynllun mewnol o’r enw Your Niche, sy’n cynnig cyfoeth o adnoddau i’n cydweithwyr ar-lein fel awgrymiadau ar gyfer rheoli straen a gorbryder a Chynllun Gweithredu ar Les. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am ein polisi gweithio gartref, a gafodd ei roi ar waith yn ddiweddar yn sgil cyfyngiadau COVID-19. 

Rydyn ni’n gwneud llawer fel cwmni i ofalu am les meddyliol pawb, ac mae ein digwyddiadau cymdeithasol yn rhan enfawr o hyn. Yn gynharach eleni, gwnaethon ni gynnal gweithgareddau bowlio a thagio laser gyda 30+ o'n cydweithwyr, ac ers cyfyngiadau symud COVID-19, rydyn ni wedi bod yn trefnu cwisiau rhithwir ac oriau hapus yn ein "tafarn rithwir", ac mae gennym ni lawer mwy o weithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer yr wythnosau nesaf. 

Mae ein tîm o Hyrwyddwyr i Gyflogeion bob amser ar gael i'n cydweithwyr drafod unrhyw bryderon iechyd meddwl a all fod ganddyn nhw, ac rydyn ni’n bwriadu cynnal sesiynau "Cinio a Dysgu" rheolaidd ar bynciau amrywiol, yn cynnwys iechyd meddwl a lles.”

Mae addewid Amser i Newid Cymru yn ddatganiad cyhoeddus bod sefydliad yn awyddus i gymryd camau i fynd i'r afael â'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y gweithle. Nid yw hwn yn farc ansawdd, yn achrediad nac yn gymeradwyaeth. Nid oes unrhyw brawf na ffurflen gais. Mae’n rhaid i gyflogwyr ymrwymo i gymryd camau sy’n realistig ac yn addas i’w staff a fydd yn helpu i leihau’r stigma a’r gwahaniaethu yn y sefydliad. 

Mae bron 200 o sefydliadau yng Nghymru sy’n rhan o ymgyrch Amser i Newid Cymru wedi addo rhoi diwedd ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y gweithle, sy’n cynrychioli tua 300,000 o gyflogeion yng Nghymru. 

Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru: “Mae Niche yn enghraifft wych o sefydliad sy’n ymrwymedig i roi diwedd ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y gweithle. Rydyn ni wedi gweithio gyda Niche i ddatblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr i fod wrth wraidd eu haddewid er mwyn sicrhau bod camau ymarferol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael a’r stigma ar bob lefel o’r sefydliad.

Problemau iechyd meddwl yw prif achos absenoldeb oherwydd salwch yn y gweithle, gydag 1 o bob 6 gweithiwr yn profi symptomau iselder, straen neu orbryder. Amcangyfrifir bod problemau iechyd meddwl yn costio £7.2 biliwn y flwyddyn mewn diffyg allbwn, biliau gofal iechyd a budd-daliadau cymdeithasol yng Nghymru; a dyna’r rheswm pam mae yna achos moesol a busnes cryf dros gamu i’r adwy a chreu mwy o weithleoedd sy’n feddyliol iach.”

Mae cannoedd o sefydliadau eisoes yn camu i’r adwy i herio’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae dod ag ymgyrch Amser i Newid Cymru i’ch gweithle yn ffordd wych o ddechrau arni. Cofrestrwch ar gyfer ein Cyfrif Cyflogwr newydd heddiw ac ewch ati i ddatblygu eich strategaeth lles er mwyn cefnogi eich cydweithwyr a rhoi diwedd ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y gweithle. 

Efallai hoffech

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024: Mynd i’r Afael â Stigma Iechyd Meddwl yn y Gwaith

Mae Rheolwr Rhaglen AiNC, Lowri Wyn Jones, yn archwilio rôl hollbwysig mynd i’r afael â stigma yn y gweithle ac yn amlygu’r manteision parhaol y gall hyn eu cynnig i fusnesau.

9th October 2024, 5.00pm | Ysgrifenwyd gan Lowri Wyn Jones

Darganfyddwch fwy