Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi estyniad blwyddyn i Amser i Newid Cymru i fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl yng Nghymru

Mae'r Gweinidog dros Iechyd Meddwl, Lles a'r Iaith Gymraeg wedi cytuno i ariannu estyniad o 12 mis i Gam 3 o raglen Amser i Newid Cymru.

24th March 2021, 1.59pm | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Mae'r Gweinidog dros Iechyd Meddwl, Lles a'r Iaith Gymraeg wedi cytuno i ariannu estyniad o 12 mis i Gam 3 o raglen Amser i Newid Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyfanswm o £445,996 i Amser i Newid Cymru am barhad gweithgarwch craidd gan ganolbwyntio ar gyrraedd cymunedau difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol yn well a nodi anghenion cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru gyda ymchwil manwl i'r gynulleidfa, datblygu partneriaethau a phrofi gweithgarwch peilot.

Amser i Newid Cymru yw'r ymgyrch genedlaethol gyntaf i ddod â stigma a gwahaniaethu iechyd meddwl i ben a gwella agweddau at iechyd meddwl yng Nghymru. Mae'r ymgyrch yn cael ei darparu gan bartneriaeth o ddwy elusen flaenllaw yng Nghymru; Hafal a Mind Cymru ac ar hyn o bryd mae'n cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Comic Relief tan 31 Mawrth, ac ar ôl hynny bydd y rhaglen yn cael ei hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2022. Mae Amser i Newid Cymru hefyd yn cael ei yrru gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau iechyd meddwl ac unigolion ag arbenigedd sy'n berthnasol i'r ymgyrch.

Mae Amser i Newid Cymru wedi cyflwyno dau faes blaenoriaeth newydd:

  • Cryfhau'r cynnig lles yn y gweithle gan ganolbwyntio o'r newydd ar gymunedau economaidd-gymdeithasol ddifreintiedig drwy weithio gyda chyflogwyr ac yn agosach gyda chyrff a mentrau'r llywodraeth megis Cymru Iach ar Waith, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau.

  • Ymchwilio i stigma iechyd meddwl mewn cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Drwy'r ymarfer gwrando hwn, mae Amser i Newid Cymru yn gobeithio cynrychioli anghenion a safbwyntiau unigolion o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn well.

Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwraig rhaglen Amser i Newid Cymru: "Rydym yn falch iawn o dderbyn y cyllid hwn a fydd yn ein galluogi i barhau â'n gwaith pwysig o fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl yng Nghymru. Byddwn yn manteisio ar ein profiad helaeth o gyflwyno mudiad cenedlaethol ar gyfer newid ac yn mireinio ein ffocws ar gynulleidfaoedd lle rydym wedi gweld llai o ymgysylltu â'r ymgyrch hyd yma.

Bydd hyn yn golygu gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar lawr gwlad ledled Cymru i gyflawni ein huchelgais. Credwn fod mynd i'r afael â stigma yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol os ydym am weld cymdeithas fwy tosturiol a mwy goddefgar wrth i ni ddod allan o'r pandemig byd-eang."

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles: "Rwy'n falch y bydd yr arian hwn yn caniatáu Amser i Newid Cymru i ymchwilio i stigma iechyd meddwl mewn cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru, fel y gallwn ddeall eu barn a'u hanghenion yn well, wrth i ni ymdrechu i sicrhau bod gan bawb yr hyder i geisio cymorth iechyd meddwl pryd bynnag y bydd ei angen arnynt."

Mae gwefan Amser i Newid Cymru yn llawn gwybodaeth, tystlythyrau a chyngor am fynd i'r afael â stigma. Ewch i amserinewidcymru.org.uk a dilynwch yr ymgyrch ar Twitter, Facebook ac Instagram.

Efallai hoffech

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024: Mynd i’r Afael â Stigma Iechyd Meddwl yn y Gwaith

Mae Rheolwr Rhaglen AiNC, Lowri Wyn Jones, yn archwilio rôl hollbwysig mynd i’r afael â stigma yn y gweithle ac yn amlygu’r manteision parhaol y gall hyn eu cynnig i fusnesau.

9th October 2024, 5.00pm | Ysgrifenwyd gan Lowri Wyn Jones

Darganfyddwch fwy