Mae heddiw yn nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd (10fed Medi), digwyddiad blynyddol i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad a ffyrdd o'i atal.
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw drwy hunanladdiad – Mae hyn bron deirgwaith yn fwy na'r nifer a laddwyd mewn damweiniau ffyrdd. Hunanladdiad hefyd yw'r achos marwolaeth mwyaf i ddynion o dan 50 yn y DU ac yn fyd-eang, mae'n gyfrifol am 800,000 o farwolaethau sy'n cyfateb i un hunanladdiad bob 40 eiliad.
Gall atal hunanladdiad olygu siarad am eich iechyd meddwl a gofyn am help os oes gennych feddyliau hunanladdol a rôl Amser i Newid Cymru yw rhoi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig â phwnc iechyd meddwl.
Isod mae gennym rai straeon dewr iawn gan rai o'n Pencampwyr, sy'n pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl a gofyn am help. Dylech fod yn ymwybodol y gall y cynnwys rydym yn ei rannu fod yn fan cychwyn negyddol (trigger) felly rydym yn cynghori cymryd pwyll wrth ymgysylltu â'n cynnwys.
• Mae Steve yn siarad am sut mae'n rheoli ei feddyliau hunanladdol yn ddyddiol.
• Mae Louise yn disgrifio sut y gwnaeth hi gyrraedd am gymorth i linell gymorth y DU pan oedd mewn argyfwng.
• Mae Sue yn sôn am sut y cafodd help yn y gwaith pan oedd hi'n ystyried hunanladdiad.
• Mae Jess yn siarad am sut y cyrhaeddodd argyfwng wrth ddioddef gydag anhwylderau ynysu a bwyta yn ystod ei harholiadau TGAU.
Gall y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl olygu bod pobl yn teimlo cywilydd i siarad yn onest am eu teimladau ac felly'n eu hatal rhag ceisio'r help sydd ei angen arnynt. Peidiwch â dioddef yn dawel – Mae'n iawn i siarad am y peth. Darllenwch faint o'n Pencampwyr eraill a gafodd help yma.
Nid yw hunanladdiad yn broblem iechyd meddwl ynddo'i hun, ond mae'n gysylltiedig â thrallod meddwl. Mae uno gyda'n gilydd yn hanfodol i atal hunanladdiad – Mae'n cymryd aelodau o gymdeithas fel teulu, ffrindiau, cydweithwyr, aelodau o'r gymuned i ddod at ei gilydd a chefnogi ei gilydd drwy bwyntiau o argyfwng.
Mae'n bryd newid ein hagwedd a'n hymddygiad tuag at iechyd meddwl mewn cymdeithas ac chefnogi mwy o bobl rhag marw drwy hunanladdiad. Darganfyddwch sut y gallwch chi gefnogi ein hymgyrch drwy glicio yma.
Angen help? Os ydych chi'n dioddef problemau iechyd meddwl neu angen cymorth brys, cliciwch yma.