Ein Digwyddiad Rhwydweithio - Dydd Mercher 16 Ionawr

Cynhaliodd Amser i Newid Cymru ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer sefydliadau sydd wedi llofnodi'r addewid i roi terfyn ar stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu yn y gweithle.

23rd January 2019, 4.28pm | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Cynhaliodd Amser i Newid Cymru ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer sefydliadau sydd wedi llofnodi'r addewid i roi terfyn ar stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu yn y gweithle. Roedd yn gyfle i sefydliadau ddod at ei gilydd i rannu arfer gorau ar sut i wella ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn y gweithle ac i dorri i lawr stigma problemau iechyd meddwl. 

Mynychodd tri deg o gynrychiolwyr o wahanol gyrff i ddysgu gan eraill ac i ddangos cynnydd eu cynlluniau gweithredu, gan ganolbwyntio ar weithredu mentrau a gweithgareddau i ddarparu amgylchedd gwaith gwell i'w staff. 

Dechreuodd Cymdeithas Tai Rhondda'r digwyddiad trwy hysbysu ei menter Hapus   - enillydd Gwobr BBaCh Nid Cerdyn Coch 2017. 

Sefydlodd y Gymdeithas Dai grŵp lles Hapus sydd wedi cyflwyno dros 20 o ddigwyddiadau gan gynnwys Brunch & Babble, Wal Graffiti Wellness a digwyddiadau Diwrnod Amser i Siarad - diwrnod ymwybyddiaeth iechyd meddwl cenedlaethol.

Ers i Dai Rhondda llofnodi'r addewid a gweithio ar eu cynllun gweithredu, mae staff yn honni eu bod yn teimlo fel y gallent bod eu hunain yn y gwaith ac yn edrych ymlaen at ddod i'r swyddfa, sy'n ganlyniad gwych i'w gwaith a’u hymrwymiad i leihau stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu yn y gweithle.

Roeddem wrth ein bodd hefyd i gael Nicky Bevan, Pennaeth Gwasanaethau Iechyd a Lles Gweithwyr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a rannodd y gwaith gwych y buont yn ei wneud ers arwyddo'r addewid yn 2012.

Yn ogystal â chael blog i rannu straeon staff yn ymwneud â lles meddyliol, mae BIP Caerdydd a'r Fro wedi gweithredu hyfforddiant lles iechyd meddwl fel rhan o'u cynllun datblygu staff, ac maent wedi creu caffi pop-i-fyny o'r enw 'CAV A COFFEE CAFÉ' sy'n annog staff i siarad â'u cydweithwyr ynghylch iechyd meddwl. Bydd y caffi pop-i-fyny ar draws campws y BIP. Mae'r cyntaf yn lansio ar Ddiwrnod Amser i Siarad.

Roedd Nicky yn falch o rannu’r ymrwymiad lefel uchel gan fwrdd gweithredol BIP Caerdydd a’r Fro ond dywedodd fod gwaith i'w wneud o hyd o ran normaleiddio'r sgwrs yn ymwneud â iechyd meddwl. Meddai, "Mae hyn yn ymwneud ag atal yn hytrach na chyrraedd y pwynt argyfwng".

Siaradodd June Jones a Russell Workman o Amser i Newid Cymru am Ddiwrnod Amser i Siarad sydd ar y gorwel ar 7 Chwefror. Mae'n ddiwrnod ymwybyddiaeth iechyd meddwl cenedlaethol proffil uchel sy'n gofyn i bawb gael sgwrs. Fe wnaeth June datgelu ein hadnoddau newydd i'w lawr-lwytho ar gyfer y diwrnod yn y digwyddiad. 

Trafododd Russell bwysigrwydd ein hymgyrch 'Mae Siarad yn Holl Bwysig' sydd wedi'u hanelu at ddynion ac yn eu hannog i fod yn agored am eu problemau iechyd meddwl, gan fod siarad amdanynt yn un o'r pethau cryfaf y gall dyn ei wneud. Mae'r ymgyrch yn lansio yn ddiweddarach ym mis Chwefror. 

Roedd hi'n wych gweld llawer o'n sefydliadau ymroddedig yn rhannu arfer da ac yn cydweithio tuag at derfynu’r stigma a gwahaniaethu ynghylch iechyd meddwl yng Nghymru. 

Mae'n bryd cael y sgwrs o amgylch iechyd meddwl. Dilynwch ni ar Facebook a Twitter i ymuno â'r sgwrs: @TTCWales a dilynwch ni ar Instagram.

Ydych chi'n sefydliad sydd am ymuno â channoedd o fusnesau eraill i roi terfyn ar iechyd meddwl a gwahaniaethu yn y gweithle? Cliciwch yma.

Efallai hoffech

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024: Mynd i’r Afael â Stigma Iechyd Meddwl yn y Gwaith

Mae Rheolwr Rhaglen AiNC, Lowri Wyn Jones, yn archwilio rôl hollbwysig mynd i’r afael â stigma yn y gweithle ac yn amlygu’r manteision parhaol y gall hyn eu cynnig i fusnesau.

9th October 2024, 5.00pm | Ysgrifenwyd gan Lowri Wyn Jones

Darganfyddwch fwy