Mae canfyddiadau newydd o arolwg stigma Amser i Newid Cymru yn datgelu cynnydd mewn hunan-stigma ymhlith y rhai sy’n dioddef gyda’uiechyd meddwl ers i gyfyngiadau’r llywodraeth gael eu cyflwyno ar gyfer y pandemig coronafirws.
Rydym yn gwybod y bydd pandemig coronafirws wedi effeithio ar iechyd meddwl pobl ac roedd Amser i Newid Cymru yn awyddus i ddeall beth oedd yn digwydd mewn perthynas â phrofiadau o stigma yn ystod y cyfnod clôhwn.
Ym mis Mai, cynhaliodd Amser i Newid Cymru arolwg o dros 100 o unigolion â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl o bob rhan o Gymru. Canfu’r arolwg fod hunan-stigma yn cyflwyno her sylweddol i bobl sy’n profi problem iechyd meddwl gyda 54% o ymatebwyr yn dweud ei fod wedi gwaethygu ers dechrau’r cyfnod clô. Dywedodd un o’r ymatebwyr: “Rwy’n teimlo na ddylwn deimlo fel hyn pan fyddaf yn gorfforol iach, ond rwy’n teimlo fy mod yn faich ar wasanaethau trwy ofyn am help.”
Datgelodd yr arolwg hefyd fod 17% (1 o bob 5) o bobl wedi profi stigma iechyd meddwl gan naill ai aelod o'r teulu, partner neu aelod o'r cartref yn ystod y cyfnod clô.
Mae bywyd dan glô wedi golygu bod aelodau'r teulu'n gorfod jyglo eu lles meddyliol eu hunain a lles eu hanwyliaid; dywedodd un ymatebydd: “Mae'n ymddangos bod pobl eraill yn gwneud job well o ymdopi. Mae fy mhlant hefyd yn cael problemau iechyd meddwl wrth ddelio â’r cyfnod clô, ac rwy'n teimlo fel methiant oherwydd ni allaf ddelio â'm materion fy hun a nhw ar yr un pryd.”
Mynegodd ymatebydd arall bod y cyfnod clô wedi effeithio ar ei hapwyntiadau cynenedigol, ar adeg pan mae hi'n profi beichiogrwydd anodd: “Rydw i 4 mis mewn i feichiogrwydd anodd ac mae hyn wedi gwaethygu problem iechyd meddwl bresennol. Mae’r cyfnod clôwedi newid fy nghynllun gofal gan na allaf alw ar ffrindiau a theulu am gefnogaeth, ac roedd oddeutu mis o fwlch nes bod gwasanaethau proffesiynol ar gael i allu darparu'r gefnogaeth a oedd ar goll. Treuliais lawer o’r amser hwnnw yn bwlio fy hun am beidio ag ymdopi, am beidio â bod yn hapus ynglŷn â disgwyl babi yr oeddwn am hir wedi ei eisiau.”
Adroddir yn gyson am y gweithle fel un o'r meysydd allweddol lle mae stigma yn cael ei brofi amlaf a lle mae'n fwyaf niweidiol. Dywedodd un ymatebydd: “Mae'r llwyth gwaith wedi cynyddu gyda llai o gyfle i gwrdd ag eraill.” Mae hyn yn tynnu sylw at y galw cynyddol am waith mewn amser ynysig a all waethygu problemau iechyd meddwl.
Canfu’r arolwg fod 22% o ymatebwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwarthnodi am eu hiechyd meddwl gwael mewn cyflogaeth yn ystod y cyfyngiadau COVID-19. Wrth osod hyn ochr yn ochr â'r hinsawdd economaidd anodd a ragwelir o ganlyniad i COVID-19, mae angen gwneud mwy i wella amgylcheddau'r gweithle a chefnogi lles meddyliol staff wrth i fusnesau a sefydliadau wynebu un o heriau mwyaf y cyfnod adfer ar ôl COVID.
Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwraig Rhaglen Amser i Newid Cymru: “Nid yw stigma a gwahaniaethu iechyd meddwl yn debygol o ddiflannu wrth i Gymru adfero’r pandemig. Mewn gwirionedd, gall y pandemig waethygu profiad o stigma a hunan-stigma ymhellach felly mae'n bwysicach nag erioed i Amser i Newid Cymru barhau i gefnogi Hyrwyddwyr, cymunedau a chyflogwyr i herio stigma ac i greu diwylliant o newid fel y gall pobl gael mynediad at ygefnogaeth sydd ei hangen arnynt pan fydd ei angen arnynt.”