Mae'n deimlad chwerwfelys bod y bartneriaeth rhwng Amser i Newid Cymru ac EYST wedi dod i ben. Ar ôl dwy flynedd, rydyn ni'n myfyrio ar ba mor amserol yw'r prosiect hwn, yn enwedig yng nghyd-destun materion byd-eang, materion lleol ac, wrth gwrs, y pandemig ei hun a gwmpasodd y rhan fwyaf o'r ddwy flynedd. Gan fod llawer o wasanaethau cyhoeddus wedi dioddef yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd â dyfodiad yr argyfwng costau byw, roedd yn amlwg pa mor bwysig oedd y bartneriaeth hon. Yn bennaf er mwyn gwneud i ni ystyried sut y gallwn ni reoli ein hiechyd meddwl yn well, ac ystyried ffyrdd o ddechrau sgyrsiau am iechyd meddwl.
Er mwyn cyflwyno fy rôl ychydig yn well, rwy'n Swyddog Marchnata a Chyfathrebu ac felly mae gen i brofiad o greu, trefnu a chyflwyno ymgyrchoedd ynghyd â chyfathrebu â rhanddeiliaid ar sawl lefel. Drwy'r prosiect hwn, cefais i'r cyfle i gyfweld cyfranogwyr ar eu profiadau uniongyrchol ac i ysgrifennu am hyn. Nid tasg fach mohoni. Gall fod yn frawychus hyd yn oed. Wedi'r cyfan, rydych chi'n ceisio cyfleu stori rhywun yn y ffordd orau. Fodd bynnag, dysgodd y profiad hwn i mi am bwysigrwydd gwrando, am empathi, ac nad ydyn ni ar ein pen ein hunain gyda'n problemau. Wrth gwrs, mae pob achos yn wahanol ond mae gallu cyfleu eich problemau yn rhoi cymaint o ryddid – gwelais i hynny. Drwy weld yr Hyrwyddwyr yn rhannu eu straeon, gwelais wydnwch nad oeddwn i wedi'i weld o'r blaen. Roedd gwrando ar eu straeon a'r ffaith eu bod yn barod i'w rhannu mor agored yn ysbrydoledig ond gwnaeth i mi feddwl hefyd. Mae hynny'n anferth ac mae'n gofyn am lawer o ymddiriedaeth. Felly, pe byddech chi'n gofyn i mi sut i gael gwared ar y stigma a'r gwahaniaethu, rhaid i ni adeiladu ymddiriedaeth i ddechrau, a chreu lle i rannu'n gyfforddus heb farnu. Rhaid dechrau gyda hyn neu ni fydd pobl yn fodlon rhannu. Hefyd – mae'n rhaid i ni fod yn barod i wrando.
Er gwaethaf y ffaith bod y bartneriaeth hon yn dod i ben, gwn y bydd yn cael effaith barhaus ar y ffordd y byddaf yn delio â'r pwnc yn bersonol ac yn broffesiynol. Yn fy rôl yn fy ngwaith, byddaf i'n dal i fyny â rhanddeiliaid ac yn diwallu eu hanghenion. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, rwyf wedi bod yn gwneud mwy o ymdrech i ddal i fyny â'm cydweithwyr hefyd. Gellir ystyried nad y gweithle yw'r lle cywir i rannu ond mae rhoi'r cyfle hwnnw i rywun fynegi sut maen nhw'n teimlo yn agor ffenestr. Rwyf wedi dysgu, er na fydd rhywun yn rhannu ar unwaith, bod camau y gallwch eu cymryd i beidio â stigmateiddio iechyd meddwl fel cynnig clust i wrando neu hyd yn oed bethau bach fel gwneud paned o de pan fyddwch chi'n teimlo bod rhywun yn cael cyfnod anodd. Mae'r pethau hyn yn helpu. Mae bod yn garedig yn helpu.
Mae'r prosiect wedi rhoi safbwynt newydd i mi. Mae cymaint o ochrau i iechyd meddwl a stigma, rhai nad oeddwn i wedi'u hystyried o'r blaen. Er enghraifft, efallai nad yw'r gair ‘stigma’ ei hun yng ngeirfa rhywun bob dydd, ac mae'n brinach fyth mewn ieithoedd eraill. Roedden ni'n meddwl am ffyrdd eraill o ddisgrifio stigma i gynnwys cymunedau ethnig leiafrifol yn ein gwaith yn fwy effeithiol. Mewn enghraifft arall, gwn fod iechyd meddwl yn dod yn derm hysbys a ddeellir yn y Gorllewin, ond mae llawer o wledydd lle nad yw iechyd meddwl yn bwnc agored o hyd, felly rhaid i ni gofio hynny. Mae Amser i Newid Cymru bellach wedi cyfieithu eu taflenni i ieithoedd amrywiol. Mae'n dda gweld hyn er mwyn helpu i gyfleu'r neges gadarnhaol, a gobeithio y bydd Amser i Newid Cymru yn parhau i gysylltu â'r cymunedau hyn boed hynny drwy chwaraeon neu glybiau lleol.
Rydyn ni'n grŵp cynnes yn EYST. Pan fyddwch chi'n rhan ohonom ni, rydych chi'n rhan o Deulu EYST. Mae'r diwylliant wedi'i adeiladu ar fod yn gyfeillgar, ar dderbyn pobl, a bod yn barod i helpu. Nid oes unrhyw hierarchaeth, ac mae croeso i bawb. Fodd bynnag, oherwydd natur ein gwaith – yn enwedig pan fyddwn ni'n helpu eraill, mae'n anodd rhoi ein hunain yn gyntaf a hyd yn oed ystyried ein hanghenion ni. Mae hyn yn wir am y sector elusennau yn gyffredinol, felly rydyn ni bob amser yn rhoi'r cyfle i'n cydweithwyr ddadfriffio mewn cyfarfodydd, yn enwedig os ydynt yn gweithio gyda chleientiaid gan fod rhai o'r achosion y byddant yn eu hwynebu yn drwm. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu yn ystod wythnosau ymwybyddiaeth iechyd meddwl ac yn cynnwys ein cydweithwyr, ein gwirfoddolwyr a'n cleientiaid lle bo'n bosibl. Mewn achosion eraill, gwyddom fod uwch-reolwyr yn ymwybodol o'r heriau iechyd meddwl sy'n ein hwynebu – mae hyn yn wir i bawb. Bydd unrhyw sesiwn oruchwylio neu sgwrs i ddal i fyny ag arweinwyr tîm bob amser yn cynnwys ein llesiant ac yn gofyn sut mae pethau'n mynd - yn gyffredinol, nid dim ond yn broffesiynol. Mae'n galonogol gweld hyn yn datblygu a byddwn i'n dadlau ein bod ni, yn sgil hyn, yn fwy cyfforddus i siarad am y ffordd rydyn ni'n teimlo yn gyffredinol.
Yn y dyfodol, rydyn ni am barhau â'n gwaith. Rydyn ni'n ymwybodol, ar adegau, mai ni yw gobaith olaf rhywun yn llythrennol, ac rydyn ni'n cymryd hynny o ddifrif. Fel arfer, oherwydd stigma y mae pobl wedi penderfynu ceisio help gennym ni. Nawr, gyda'r argyfwng costau byw yn dal i effeithio ar gymaint ohonom a'r effaith ar hawliau mudwyr, gwyddom pa mor bwysig yw gofalu amdanom ni ein hunain fel y gallwn wneud ein gorau i ofalu am eraill a hyrwyddo eu hawl i gael bywyd iach.