Profiadau uniongyrchol o stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl

Profiad uniongyrchol o stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl mewn cymunedau BAME

1st November 2021, 2.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Yn Amser i Newid Cymru, rydyn ni'n codi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaethu a'r anghydraddoldeb y mae pobl ddu ac ethnig leiafrifol yn eu hwynebu, sy'n arwain at wahaniaethau ar sail hil o ran mynediad i wasanaethau iechyd meddwl, cymorth a chyfleoedd i wella. Yn Amser i Newid Cymru, ein nod yw rhoi diwedd ar stigma iechyd meddwl mewn cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac i'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd o dlodi ac amddifadedd yng Nghymru. 

Mae cymunedau du ac ethnig leiafrifol yn llai tebygol o gael gafael ar gymorth iechyd meddwl mewn gofal sylfaenol (h.y., drwy eu meddyg teulu) ac maen nhw'n fwy tebygol o orfod cael gofal mewn argyfwng. (Racial disparities in mental health: Literature and evidence review, Sefydliad Anghydraddoldeb Hiliol, 2020). Hefyd, profwyd bod pobl ddu ac ethnig leiafrifol yn llai tebygol o gael eu cyfeirio at therapïau siarad, a'u bod yn fwy tebygol o gael meddyginiaeth ar gyfer salwch meddwl (Sefydliad Cydraddoldeb Hiliol 2020).

Yn y fideo hwn, mae detholiad o ddyfynodau gan grwpiau ffocws a gynhaliwyd yn 2021 gydag unigolion o gefndiroedd Du ac Ethnig Leiafrifol.

Efallai hoffech

Mae’n well gan bron i draean o oedolion Cymru gadw’n dawel am iechyd meddwl yn hytrach na mentro sgwrs lletchwith

Datganiad i'r Wasg Diwrnod Amser i Siarad 2025

6th February 2025, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy