Meddyliau Lloyd

Mae Lloyd William, Prif Swyddog Gweithredol EYST, yn siarad am bwysigrwydd y bartneriaeth rhwng EYST ac Amser i Newid Cymru a'r gwaddol parhaus y mae'n ei greu.

19th May 2023, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Lloyd

Mae EYST bob amser wedi ceisio partneriaethau drwy ein hanes ac roedd Amser i Newid Cymru yn bartner delfrydol i ni. Mae eu gwaith wedi bod mor bwerus dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Roeddem mor gyffrous i gael gweithio gyda nhw ar y stigma a'r stereoteipiau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Rydyn ni’n gwybod bod iechyd meddwl yn her barhaus i'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu i unigolion a'u teuluoedd, a dyna pam rydyn ni’n awyddus i helpu i chwalu rhwystrau stigma mewn cymunedau ethnig lleiafrifol lle nad yw iechyd meddwl yn cael ei drafod yn agored yn aml. Rydyn ni’n gwybod o brofiad uniongyrchol sut y gall y pŵer i adrodd straeon a chwarae rôl effeithio ar fywydau ac rydyn ni’n credu y gall dangos cynrychiolaeth a rhannu profiad uniongyrchol fod yn ffordd effeithiol o annog sgyrsiau mwy agored am iechyd meddwl. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwaith hwn yn helpu pobl i ddechrau siarad am iechyd meddwl mewn ffordd fwy agored, gonest a diogel gyda'r rheini maen nhw'n ymddiried ynddynt.

Gall addasu i newid ac wynebu ansicrwydd fod yn anodd a dweud y lleiaf. Fel sefydliad, dros y tair blynedd diwethaf, gwelwyd llif cyson o ansicrwydd a newid ar gyflymder nas gwelwyd ei debyg o'r blaen. O COVID-19, gweithio o bell, hunanynysu, addysg gartref, blinder Zoom i gynnydd yn y rhannau o'n gwaith a gaiff ei ddigideiddio. Yn dilyn hyn, gadawodd ein Prif Swyddog Gweithredol ers 17 mlynedd i wynebu her newydd, ac yna bu'n rhaid i ni wynebu argyfwng costau byw. Mae'n deg dweud ein bod wedi wynebu degawd o newid ac ansicrwydd o fewn cyfnod o dair blynedd. Mae'n amhosibl i'r newidiadau hyn beidio â chael effaith ar ein staff a'u llesiant. 

Ond nid ydym yn dweud bod bywyd yn hawdd cyn hynny. Yn aml, mae sefydliadau'r trydydd sector wedi arfer gorfod ariannu cyfnodau o ansicrwydd; heb wybod a fydd prosiectau a rolau yn parhau, a fydd unigolion yn colli eu swyddi neu a fyddwn yn dechrau eto gyda phrosiectau a syniadau newydd. Gall sefydliadau a staff hirsefydlog fod wedi arfer â hyn a chael eu dadsensiteiddio, ond gall fod yn anodd iawn i staff mwy newydd. Fel sefydliad, yn hanesyddol, rydyn ni wedi bod yn gweithio'n gyflym, gan ddefnyddio pob mymryn o'n hadnoddau, ein hamser, ein hymdrech a'n sgiliau i wneud effaith gadarnhaol ar fywydau eraill. Gall yr holl ffactorau hyn wedi'u cyfuno ei gwneud hi'n heriol iawn i'r staff. 

Gall y newid ac ansicrwydd digwyddiadau byd-eang ynghyd â'n hegni mewnol arwain at amgylchedd dwys i'n staff weithio ynddo. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi ceisio gwella'r cymorth a roddwn i'r staff – yn anffurfiol ac yn ffurfiol. Er bod sawl ffordd o gefnogi staff ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â llesiant ac iechyd meddwl, mae un peth wedi dod yn amlwg iawn i ni: er mwyn cefnogi staff, mae angen i chi roi'r cyfle iddynt siarad â chydweithiwr y maent yn ymddiried ynddo, sy'n barod i wrando mewn amgylchedd diogel. Mae llesiant ac iechyd meddwl yn bynciau hynod gymhleth, ond, yn y bôn, yr hyn sy'n bwysig yw cyfathrebu, amser a gofal. I ni, gwrando yw'r elfen bwysicaf o gyfathrebu ac mae'n cael ei diystyru'n aml. Mae angen ategu hyn drwy roi ein hamser, sydd mor werthfawr i ni. Yr elfen derfynol yw gofal; rhaid bod pryder gwirioneddol ynghylch pob aelod o staff.

Dydyn ni ddim yn cael hyn yn iawn bob amser, ond rydyn ni'n ymdrechu i roi'r cymorth gorau posibl. Mae gweithio gydag Amser i Newid Cymru wedi rhoi'r pŵer i ni annog staff i siarad, wrth i ni weithio i leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â llesiant ac iechyd meddwl. Os byddwn ni'n gofyn i eraill wneud hyn hefyd, rhaid i ni ddysgu sut i ofalu amdanon ni ein hunain, a dilyn ein cyngor ein hunain. 

My project.jpg

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy