Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2020

Nawr, yn fwy nag erioed mae'n bwysig ein bod yn dangos caredigrwydd at ein gilydd. Gall rhoi a derbyn gweithredoedd caredig helpu i wella lles meddyliol drwy greu teimladau cadarnhaol.

11th May 2020, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Byddwn ni’n dathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 18 a 24 Mai, a’r thema ar gyfer yr wythnos hon fydd Caredigrwydd.

Rydyn ni am i chi wybod ein bod yn dal i fod yma i chi yn ystod y cyfnod anodd a digynsail hwn. Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n bwysig ein bod yn dangos caredigrwydd tuag at ein gilydd. Gall rhoi a derbyn caredigrwydd helpu i wella llesiant meddyliol drwy greu teimladau cadarnhaol.

Byddwn yn cyfri'r dyddiau tan yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gyda saith diwrnod a saith gweithred garedig.

  1. Y dydd Llun hwn, estynnwch allan at rywun a allai fod yn cael trafferth gyda'i iechyd meddwl ers y cyfyngiadau cloi i lawr COVID-19, rhoi neges iddyn nhw neu roi galwad iddyn nhw i roi gwybod iddyn nhw eich bod chi'n meddwl amdanyn nhw.

  2. Y dydd Mawrth hwn, cymerwch 5 munud i gael diod poeth. Efallai y gallwch chi sgwrsio gyda rhywun rydych chi'n byw gyda neu sgwrs rith dros ddiod boeth! Gallai ddod yn fan cychwyn i siarad am eich iechyd meddwl. Rydym yn gwybod nad yw'n hawdd siarad, ond cofiwch fod yn garedig i chi eich hun.

  3. Dydd Mercher yma, beth am gymryd peth o amser i ddarllen? Dechreuwch glwb llyfrau gyda'ch teulu a/neu'ch ffrindiau, ac ewch drwy'r llyfrau hynny sydd wedi bod yn eistedd ar eich silff am ychydig! Os nad ydych yn ffansi darllen, beth am ysgrifennu eich straeon eich hun! Gallai hefyd fod yn amser da i ysgrifennu am sut rydych chi'n teimlo.

  4. Mae'n ddydd Iau a dim ond pedwar diwrnod sydd tan Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, cymerwch amser i fod yn garedig i chi heddiw gyda rhywfaint o hunan-ofal, gan gydnabod anawsterau'r sefyllfa’r cyfnod cloi.

  5. Mae'n Ddydd Gwener, amser i ymlacio. Cymerwch amser heddiw i fynd allan am ychydig o  awyr iach ac i ymestyn eich coesau. Sylwch sut rydych chi'n teimlo ac anfonwch feddyliau caredig atoch chi eich hun.

  6. Dydd Sadwrn - amser i fod yn greadigol! Efallai y gallwch chi greu cardiau poced fach a'i hanfon at ffrind neu aelod o'ch teulu yn dymuno'n dda iddyn nhw neu i'w atgoffa eich bod chi'n meddwl amdanyn nhw! Gallech hyd yn oed greu eich cardiau caredigrwydd i chi eich hun os ydych chi'n mynd drwy amser caled.

  7. Dydd Sul, arafu heddiw. Cymerwch amser i ddiffodd ac ymlacio cyn yr wythnos i ddod. Yfory yw wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ac yn awr, yn fwy nag erioed mae'n bwysig ein bod yn dangos caredigrwydd tuag at ein hunain, ac at ein gilydd.

 

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy