Modiwl peilot sy'n anelu at fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal iechyd

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Amser i Newid Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddatblygu a chyflwyno modiwl peilot…

2nd December 2021, 9.30am | Ysgrifenwyd gan Ceri

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Amser i Newid Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddatblygu a chyflwyno modiwl peilot sy'n anelu at fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal iechyd.

Gwyddom fod stigma a gwahaniaethu yn bodoli mewn cymdeithas yng Nghymru, ar sawl lefel wahanol, ac yn enwedig mewn lleoliadau gofal iechyd. Gall stigma mewn lleoliadau gofal iechyd gael effaith negyddol ar allu person i gael gwasanaethau a'i brofiad ohonyn nhw, ond gall hefyd rwystro ei adferiad a'i atal rhag gofyn am help yn y dyfodol. Rydyn ni'n credu bod mynd i'r afael â stigma yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel a'u diogelu at y dyfodol, ac i sicrhau'r canlyniadau iechyd gorau posibl i bawb, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am weithio gyda ni i gyflawni'r nod hwn.

Wrth baratoi ar gyfer y modiwl hwn, gwnaethon ni estyn allan i'n rhwydwaith o Hyrwyddwyr a gofyn iddyn nhw rannu eu profiadau ymarferol o gael gofal iechyd am resymau yn ymwneud â'u hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol nhw. Cawson ni ddwsinau o ymatebion a oedd yn tynnu sylw at y gofal gwych a gawson nhw, ond cawson ni hefyd sawl stori am ymarfer gwael lle roedden nhw'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu stigmateiddio am eu hiechyd meddwl nhw. Mae sawl un o'n Hyrwyddwyr a'r rhai sydd â phrofiad ymarferol o broblemau iechyd meddwl yn dweud wrthym fod y stigma maen nhw'n ei wynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau yn waeth na chael y diagnosis o broblem iechyd meddwl. Gwnaethon ni hefyd estyn allan at weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd i rannu eu profiadau o ymarfer da a gwael, a gwnaethon ni ddod â nhw a rhai o'n Hyrwyddwyr ynghyd i ffilmio eu trafodaethau ar y pwnc hwn.

Mae'r modiwl peilot rhyngweithiol hwn yn gyfle i ystyried y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a'r ffyrdd gwahanol mae'n effeithio ar bobl. Yn ganolog i'r hyfforddiant mae tri fideo sy'n cynnwys ein Hyrwyddwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn sgwrsio am y pethau cadarnhaol a'r pethau negyddol maen nhw wedi eu gweld neu wedi cael profiad ohonyn nhw eu hunain, o ran y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a'r effaith mae hyn yn ei chael ar gleifion, ond hefyd ar staff. Ar ôl pob fideo mae cyfle i fyfyrio ar y sgyrsiau drwy drafodaeth grŵp agored a gonest ac i ystyried beth allwn ni ei wneud i sicrhau'r gofal gorau posibl i gleifion a staff. Rydyn ni'n ystyried sut allwn ni gydweithio i atal stigma drwy fodelu ymarfer da a rheoli sgyrsiau anodd. Rydyn ni hefyd yn cydnabod bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn aml dan bwysau eithriadol, ac yn ystyried sut allwn ni reoli ein hiechyd meddwl personol ni ein hunain hefyd.

Er bod rhai o'r enghreifftiau a'r astudiaethau achos sy'n cael eu rhannu yn yr hyfforddiant yn anodd eu clywed, rydyn ni'n cydnabod nad hyn yw'r norm, a bod pobl fel arfer yn cael profiadau cadarnhaol. Yn hytrach na cheisio bwrw'r bai, rydyn ni'n tynnu sylw at enghreifftiau o ymarfer gwael er mwyn cael sgyrsiau agored a dysgu o'r profiadau, er mwyn myfyrio ar ein hymarfer ein hunain a gweld sut allwn ni wella gofal cleifion. Yn ôl un cyfranogwr, Gall llawer o weithwyr proffesiynol ei chael hi'n anodd siarad am stigma a'i herio, neu maen nhw'n teimlo bod y rhaglen yn ceisio bwrw'r bai, ond nid felly y mae. Cawson ni fore hyfryd gyda'r hyfforddwyr – roedd yn gyfle i mi fyfyrio ar yr ymarfer fy hun a chael mwy o wybodaeth a dealltwriaeth."

Rydyn ni eisoes wedi cynnal ein sesiynau hyfforddi cyntaf, yn bennaf drwy Microsoft Teams ond ambell sesiwn wyneb yn wyneb hefyd, a oedd yn wych! Mae cymysgedd o bobl o'r bwrdd iechyd wedi cymryd rhan, ac rydyn ni wedi cael sgyrsiau pwerus am iechyd meddwl a stigma, ac mae sawl un wedi cydnabod ei fod wedi gweld neu wedi cael profiad personol o rai o'r enghreifftiau o stigma sydd wedi cael eu rhannu. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ymuno â ni hyd yma, ac mae'n braf gwybod y byddan nhw'n helpu i herio'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn eu lleoliad gofal iechyd nhw.

Mae digon o amser i drefnu lle yn un o'r sesiynau hyfforddi, a bydd sesiynau'n cael eu cynnal yn rhithwir bob wythnos yn y flwyddyn newydd hyd at fis Mawrth. Cysylltwch â'r adran dysgu a datblygu i gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu lle.

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy