RCS Wales yn cymryd rhan yn Niwrnod Amser i Siarad 2021

Fel rhan o ddiwrnod Amser i Siarad, ymunodd RCS â ni i drafod y ffordd y gall stigma a barn effeithio ar iechyd meddwl unigolion, yn enwedig yn y gweithle.

8th February 2021, 10.44am | Ysgrifenwyd gan Gareth

Roedd yn bleser gennym weld y ffordd yr oedd sefydliadau'n cefnogi Diwrnod Amser i Siarad eleni. Mae pandemig y coronafeirws yn golygu efallai na fyddwn ni'n gallu trefnu'r digwyddiadau a'r gweithgareddau y bydden ni'n eu trefnu fel arfer i annog pobl i siarad am iechyd meddwl. Ond mae un peth heb newid: gwyddon ni, po fwyaf o sgyrsiau y byddwn ni'n eu cael, y mwyaf o fythau a rhwystrau y gallwn ni eu chwalu, a'r agosaf y byddwn ni at ddod â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl i ben. Darllenwch am y ffordd y gwnaeth RCS ddechrau sgyrsiau iechyd meddwl yn y gweithle.

Fel rhan o ddiwrnod Amser i Siarad, ymunodd RCS â ni i drafod y ffordd y gall stigma a barn effeithio ar iechyd meddwl unigolion, yn enwedig yn y gweithle. Yn ystod sesiwn ar gyfer 30 o aelodau o staff, cymerodd y tîm ran mewn gweithgareddau a oedd yn ein hannog i feddwl am y ffordd rydyn ni'n barnu'n gyflym heb ystyried yr holl wybodaeth sydd o'n cwmpas. Nod hyn oedd tynnu sylw at y ffaith bod pobl yn barnu eraill am y ffordd y maen nhw'n rhyngweithio ac yn cyfathrebu, eu gallu neu'r camau y maen nhw'n eu cymryd, a gall barn o'r fath olygu nad ydyn ni bob amser yn ystyried beth sy'n digwydd ym mywyd rhywun arall a pha effaith y gallai hynny ei chael arno.

Ystyriodd y tîm, os gallwn ni edrych ar sefyllfaoedd a phobl eraill mewn ffordd wahanol a cheisio dechrau sgwrs, hyd yn oed os yw hynny ond yn golygu gofyn i rywun ‘sut ddiwrnod gest ti’, ‘sut wyt ti'n teimlo’, gallwn ddysgu mwy am yr hyn sy'n digwydd ym mywyd yr unigolyn hwnnw a beth y gallwn ni ei wneud i'w gefnogi. Yna, ystyriodd y sesiwn y ffyrdd y gallwn gael sgwrs am iechyd meddwl gyda ffrindiau, teulu, cydweithwyr ac eraill, a chyngor defnyddiol ar ddechrau'r sgyrsiau hyn a chymryd rhan ynddyn nhw. Yna, gwnaethon ni ddod â'r sesiwn i ben drwy wneud gweithgareddau ymlacio ac anadlu er mwyn ein helpu i fyfyrio ychydig ar ein diwrnod.

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy