Sefydliadau yn addo mynd i'r afael â stigma o ran iechyd meddwl pobl ifanc

Daeth 16 o sefydliadau sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc, gan gynnwys colegau, darparwyr hyfforddiant ac elusennau, at eu gilydd mewn digwyddiad arbennig Amser i Newid Cymru ar ddydd Llun 8 Hydref i…

9th October 2018, 12.49pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Daeth 16 o sefydliadau sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc, gan gynnwys colegau, darparwyr hyfforddiant ac elusennau, at eu gilydd mewn digwyddiad arbennig Amser i Newid Cymru ar ddydd Llun 8 Hydref i addo eu hymrwymiad i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc.

Cynhaliwyd y digwyddiad ychydig ddyddiau cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni (10 Hydref). Daeth y sefydliadau at eu gilydd yn Stadiwm Liberty Abertawe i arwyddo Addewid Sefydliadol Pobl Ifanc Amser i Newid Cymru - datganiad cyhoeddus eu bod am gefnogi pobl ifanc trwy gamu i fyny i fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu iechyd meddwl.

Sefydliadau yn llofnodi'r addewidAgorwyd y digwyddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland - ac mae ei swyddfa ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi'r addewid.

Amser i Newid Cymru yw'r ymgyrch genedlaethol gyntaf i fynd ati i geisio dileu'r stigma a gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. Nod ei Rhaglen Pobl Ifanc, cynllun peilot tair blynedd a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, yw helpu pobl ifanc i deimlo'n fwy cyfforddus wrth siarad am eu hiechyd meddwl trwy wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth.

Yn ychwanegol at arwyddo'r addewid, clywodd gwesteion y digwyddiad gan ddau Hyrwyddwr Ifanc Amser i Newid Cymru, Jess Matthews a Izzy Stevenson, a rannodd eu straeon ysbrydoledig o siarad yn agored am eu hiechyd meddwl, ac fe soniodd Osian Griffith, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gyfun Cwm Rhondda am yr effaith mae gweithio gydag Amser i Newid Cymru wedi cael ar yr ysgol.

Meddai Karen Roberts, Rheolwraig Rhaglen Amser i Newid Cymru: "Cyn llofnodi'r addewid, bu'r holl sefydliadau gweithio gydag Amser i Newid Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu, gan ddangos y camau y byddant yn eu cymryd i fynd i'r afael â stigma a chefnogi iechyd a lles meddyliol pobl ifanc. Rydym yn edrych ymlaen at helpu'r sefydliadau hyn i wireddu'r camau hynny ac i ymgorffori diwylliant sy'n annog pobl i siarad am eu hiechyd meddwl - gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr - ac yn y gymuned a'r gweithle."

Osian Griffith, Ysgol Gyfun Cwm RhonddaMeddai Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland: “Iechyd Meddwl yw'r pwnc y mae pobl ifanc yn siarad am fwyaf pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion a sefydliadau ieuenctid. Mae pobl ifanc eisiau lleihau stigma, dysgu am iechyd meddwl a chael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt. Roedd hi'n galonogol heddiw gweld cymaint o sefydliadau yn barod i roi'r gefnogaeth a'r wybodaeth honno fydd yn galluogi i blant a phobl ifanc gallu ffynnu a chyrraedd eu potensial.”

Meddai Izzy Stevenson, Hyrwyddwr Ifanc Amser i Newid Cymru: "Cefais fy niagnosis gyntaf o iselder yn 14 oed, ond roedd y stigma a'r gwahaniaethu yn ymwneud ag iechyd meddwl wedi golygu fy mod yn dioddef yn bennaf ar fy mhen fy hun am ddegawd. Mae siarad ac ymestyn allan wedi f’achub. Mae gweld yr ymateb syfrdanol a gawn gan y bobl ifanc yr ydym yn siarad â hwy, yn golygu nad oes gennym unrhyw amheuaeth ein bod yn darparu’r sgiliau a'r gallu i wynebu iechyd meddwl gwael gydag empathi a dealltwriaeth.”

Y rhestr lawn o sefydliadau a lofnododd yr addewid yn y digwyddiad oedd:

  • Comisiynydd Plant Cymru
  • Gweithredu dros Blant
  • Coleg Sir Gâr
  • Coleg Ceredigion
  • Coleg Gŵyr, Abertawe
  • People Plus
  • Opera Cenedlaethol Cymru
  • Academi y Cyfryngau Caerdydd
  • Mind Abertawe
  • Ieuenctid Cymru
  • Rathbone
  • Gwirfoddolwyr Ieuenctid Heddlu De Cymru
  • Hyfforddiant ACT
  • Coleg Merthyr Tudful
  • Sgiliau ITEC
  • Coleg Pen-y-bont ar Ogwr

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy