Aeth dros 120 o bobl o gymunedau amrywiol Casnewydd i ddigwyddiad ddoe yn Sefydliad Lysaght gyda'r nod o geisio cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl.
Roedd y gweithgareddau yn y digwyddiad unigryw hwn yn cynnwys canu, dawnsio a chlywed gan bobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl, yn ogystal â siaradwyr gwadd, gweithdai a stondinau gwybodaeth.
Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o brosiect Shana Bashana- sef Urdu ar gyfer 'ysgwydd wrth ysgwydd', a ariennir gan Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol gyntaf sy'n ceisio cael gwared ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau salwch meddwl. Cafodd ei gyflwyno gan grŵp menywod Ashiana yng Nghasnewydd. Rheolir grŵp Ashiana gan Rahila Hamid a'i nod yw cynyddu'r drafodaeth a'r ymwybyddiaeth am broblemau salwch meddwl, yn enwedig ymhlith cymunedau du ac ethnig lleiafrifol Casnewydd.
Roedd baner fawr yn croesawu'r bobl i'r digwyddiad, a gafodd ei chreu gan y grŵp er mwyn cyflwyno pobl i'r prosiect.
Wrth siarad ar ôl yr ŵyl, dywedodd Cydgysylltydd De Cymru o Amser i Newid Cymru, Humie Webbe:
Aeth nifer o bobl i ddigwyddiad Shana Bashana, a chafwyd cydbwysedd iawn rhwng sgwrsio, trafod a gweithdai rhyngweithiol a oedd yn y gynulleidfa gyfan. Roedd Ashiana a Mind Casnewydd yn falch o groesawu pobl i'r digwyddiad yn eu crysau-T Amser i Newid Cymru a llwyddwyd i ddenu pobl o ddiwylliannau amrywiol a ymatebodd i straeon personol hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru am eu profiadau nhw o stigma a gwahaniaethu, a chymeron nhw ran yn y gweithdai lles gyda brwdfrydedd.
Mae baner Amser i Newid Cymru yn bwnc siarad gwych ac mae wedi dangos yn barod ei bod yn ffordd ddelfrydol o ysgogi sgyrsiau am iechyd meddwl a lles.