Casnewydd

Sefyll ysgwydd wrth ysgwydd yng Ngŵyl Maindee

Datgelwyd baner yng ngŵyl Maindee eleni gan aelodau o brosiect Shana Bashana er mwyn annog trafodaeth ynglŷn ag iechyd meddwl o fewn cymunedau amrywiol yn ardal Casnewydd.

13th June 2014, 10.29am | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Datgelwyd baner yng ngŵyl Maindee eleni gan aelodau o brosiect Shana Bashana er mwyn annog trafodaeth ynglŷn ag iechyd meddwl o fewn cymunedau amrywiol yn ardal Casnewydd.

Mae Shana Bashana yn golygu 'ysgwydd wrth ysgwydd' yn Wrdw, sy'n adlewyrchu amcanion ac ethos y grŵp. Caiff ei redeg gan grŵp merched Ashiana a leolir yn Mind Casnewydd a'i ariannu gan Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Wrth siarad yn yr ŵyl, dywedodd Cydgysylltydd De Cymru o Amser i Newid Cymru, Humie Webbe:

"Cawsom ddiwrnod gwych yng ngŵyl Maindee a bu gymaint o ddiddordeb a chefnogaeth i'r ymgyrch oherwydd brwdfrydedd ein Heiriolwyr yn ystod y dydd. Mae Rahila a merched Ashiana yn gwneud gwaith ardderchog yng Nghasnewydd yn rhoi cyfleoedd i bobl o bob cefndir ddechrau siarad am iechyd meddwl a helpu i gael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl."

Ar ôl dechrau gwlyb i'r diwrnod, daeth yr haul i dywynnu ar y digwyddiad poblogaidd. Roedd gan Rachel, Hollie, Rahila a Lynette sef Eiriolwyr Amser i Newid Cymru stondin, ac roeddent wrthi yn croesawu'r cyhoedd, aelodau o Gyngor Casnewydd, ac Arglwydd Faer ac Arglwyddes Faeres Casnewydd gan ddarparu gwybodaeth am iechyd meddwl a'r ymgyrch.

Bydd Shana Bashana yn cynnal digwyddiad a fydd yn para diwrnod yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd ar 19 Mehefin a fydd yn cynnwys gweithdai, lluniaeth, stondinau gwybodaeth a gweithgareddau eraill. I gael rhagor o wybodaeth, neu i drefnu eich lle cysylltwch â Rahila Hamid yn Newport Mind

Defnyddir lluniau drwy ganiatâd deiliad yr hawlfraint, y ffotograffydd John Briggs. Cysylltwch â ni i weld rhagor o luniau.  

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy