Cymuned

Lansiad llwynddiannus i'r MaDCaff!

Mae MaDCaff yn ddigwyddiad cyffrous newydd sydd yn arddangos talentau cerddorion a dawnswyr sydd a phroblemau iechyd meddwl. Cynhalwyd y digwyddiad cyntaf yn Undeb Myfyrwyr Amberystwyth.

28th March 2014, 11.42am | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Mae MaDCaff yn ddigwyddiad cyffrous newydd sydd yn arddangos talentau cerddorion a dawnswyr sydd a phroblemau iechyd meddwl.

Cynhalwyd y digwyddiad cyntaf yn Undeb Myfyrwyr Amberystwyth.

Daeth dros bumdeg o bobl i’r café i fwynhau cerddoriaeth, dawnsio, cymdeithasu ac, wrth gwrs, bwyta teisienau!

Bwriad y digwyddiadau hyn yw chwalu’r rhwystrau a’i wynebir gan bobl a phroblemau iechyd meddwl. Trwy rhoi llwyfan i dalentau pobl sy’n byw a salwch meddwl, mae’r trefnwyr yn bwriadu newid y ffordd y mae pobl yn ystyried iechyd meddwl.

Dywedodd Miranda Betts, un o drefnwyr MaDCaff: ‘Rydym am gael pobl i siarad am iechyd meddwl ac mae’r digwyddiadau hamddenol yma, sydd a naws café, yn ffordd berffaith o ddod a phobl ynghyd i wneud hynny.’

Mae’r talent lleol ar lwyfan yn cynnwys y Elsa Davis sy’n canu’r fiolin, Ceri Jones sy’n canu’r delyn, Cor Gobaith, Mike Farah, Joy Harris, Dai Sharkey ac y Crazy Beaches. Roedd hefyd symudiad a chelf gan Ruth Hogg.

Cafwyd MaDCaff ei ariannu drwy Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol cyntaf i rhoi diwedd ar y stigma a gwahaniaethu a’i wynebir gan bobl a phroblemau iechyd meddwl. Dywedodd Rheolwr Amser i Newid Cymru Ant Metcalfe:
 
“Mae’r MaDCaff cyntaf wedi bod yn llwyddiant arbennig! Mae’n wych gweld pobl yn defnyddio cerddoriaeth, dawns a chreadigrwydd i ddechrau sgyrsiau am iechyd meddwl. Wedi’r cwbwl, does dim rhaid bod yn arbennigwr i fod yn ffrind – gall rhywbeth mor syml a gofyn ‘sut wyt ti?’ wneud gwahaniaeth mawr. Mae MaDCaff yn ffordd gwych o ddechrau’r sgyrsiau hynny a dod a phobl ynghyd, a gobeithio rhoi hyder i bobl i siarad am iechyd meddwl yn eu bywydau pob dydd. Os golloch chi’r un cyntaf, byddwch yn shwr o ddod i’r digwyddiad nesaf!”

Mi fydd y MaDCaff nesaf yn Small World Theatre, Aberteifi ar Ddydd Sadwrn Ebrill 12 o 4.30-7yh. Mi fydd MaDcaff yn dychwelyd i Aberystwyth ar Ddydd Gwener Mai 16 o 4.30-7, yng nghanolfan Morlan. Am wybodaeth pellach, cysylltwch trwy ebost a westmadcaff@gmail.com neu ewch i madcaff.wordpress.com/.

Efallai hoffech

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024: Mynd i’r Afael â Stigma Iechyd Meddwl yn y Gwaith

Mae Rheolwr Rhaglen AiNC, Lowri Wyn Jones, yn archwilio rôl hollbwysig mynd i’r afael â stigma yn y gweithle ac yn amlygu’r manteision parhaol y gall hyn eu cynnig i fusnesau.

9th October 2024, 5.00pm | Ysgrifenwyd gan Lowri Wyn Jones

Darganfyddwch fwy