Mae Siarad yn Hollbwysig: Ymgyrch lwyddiannus sydd wedi'i hanelu at gefnogi iechyd meddwl dynion yng Nghymru

Mae mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion, ac mae Amser i Newid Cymru, ymgyrch genedlaethol sy'n canolbwyntio ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a gwahaniaethu, yn…

2nd November 2020, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Mae mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion, ac mae Amser i Newid Cymru, ymgyrch genedlaethol sy'n canolbwyntio ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a gwahaniaethu, yn cynnal ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig – ymgyrch lwyddiannus sy'n annog dynion i siarad am eu trafferthion iechyd meddwl, heb ofni cael eu barnu. Mae ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig yn pwysleisio'r ffaith mai trafod iechyd meddwl yw un o'r pethau mwyaf dewr y gall dyn ei wneud. 

Dangosodd gwaith ymchwil a wnaed gan Amser i Newid Cymru yn 2018 fod hunan stigma a diffyg dealltwriaeth o iechyd meddwl yn atal dynion rhag trafod eu problemau iechyd meddwl â'u teuluoedd a'u ffrindiau gan eu bod yn ofni ac yn poeni am y canlyniadau negyddol. Mae llawer o ddynion wedi dweud wrth Amser i Newid Cymru fod y pwysau i beidio â mynegi eu teimladau ac i fod yn gryf yn golygu eu bod wedi dioddef yn dawel.

Mae'r ymgyrch yn cynnwys cyfres o fideos byr yn dangos pwysigrwydd trafod eich teimladau â'r bobl o'ch cwmpas pan fyddwch yn teimlo'n anhwylus. Caiff straeon personol Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru sy'n ddynion, sydd wedi bod yn ddigon ddewr i rannu eu trafferthion iechyd meddwl, eu rhannu mewn amrywiaeth o fformatau ar-lein megis drwy flogiau, fideos a phodlediadau.

Daeth ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig yn ail mewn dwy wobr yn y categorïau canlynol: Gwobr Ymgyrch Integredig CIPR Cymru 2019 a Gwobr Defnydd Gorau o Farchnata Digidol yng Ngwobrau Digidol WalesOnline 2019.

Dywedodd Julie Jones, Arweinydd Ymgyrch a Strategaeth “Rydyn ni'n yn falch iawn ein bod wedi ennill dwy wobr glodwiw ar gyfer achos mor bwysig. Mae ymchwil yn dangos bod dynion yng Nghymru yn llai tebygol o gyfaddef eu bod yn adnabod rhywun â phroblem iechyd meddwl, a bod ganddyn nhw farn negyddol am iechyd meddwl, felly rydyn ni'n gobeithio y gall yr ymgyrch hon godi ymwybyddiaeth o fynd i'r afael â'r stigma hwn sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl dynion.

Dim ond 55% o'r dynion a ddywedodd eu bod yn teimlo'n isel wnaeth drafod hynny â rhywun, ond bydd 1 o bob 4 ohonon ni yn cael problem iechyd meddwl ar ryw adeg. Does dim angen i chi fod yn arbenigwr i helpu person sydd â phroblem iechyd meddwl. 

Mae'r staff a'r Hyrwyddwyr sy'n rhan o ymgyrch Amser i Newid Cymru yn deall yn llwyr bod yr hinsawdd bresennol o ganlyniad i bandemig COVID-19 yn cael effaith ar iechyd meddwl pobl. Mae'n bwysicach nawr nag erioed o'r blaen i ddechrau'r sgwrs ynghylch iechyd meddwl.”

Os ydych yn poeni am ffrind neu anwylyn sy'n ddyn, dechreuwch sgwrs ag ef a gofynnwch, 'wyt ti'n iawn?' a byddwch yn barod i wrando. Nid oes angen i chi arbenigo ar iechyd meddwl i fod yn ffrind. Mae'n bwysig iawn bod dynion sy'n poeni am eu hiechyd meddwl yn trafod hyn â rhywun maen nhw'n ei garu ac yn ymddiried ynddo, neu eu meddyg teulu.

Mae gwefan Amser i Newid Cymru yn llawn gwybodaeth a chyngor ar iechyd meddwl. Ewch i timetochangewales.org.uk/cy i gael rhagor o wybodaeth a chliciwch yma i wylio fideos Mae Siarad yn Hollbwysig a lawrlwytho ein hadnoddau. Ymunwch â'r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #MaeSiaradYnHelpu a thrwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol: Twitter,Facebook ac Instagram.

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy