Gwobrau i Eiriolwyr Amser i Newid Cymru

Mae Eiriolwyr Amser i Newid Cymru wedi ennill gwobr am eu cyflawniadau arbennig yn Wobrau Gwirfoddolwyr y Flwyddyn Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

13th June 2014, 12.04pm | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Mae Eiriolwyr Amser i Newid Cymru – gwirfoddolwyr sydd a profiad uniongyrchol o broblemau iechyd meddwl sydd yn ymgyrchu o fewn eu cymunedau, sefydliadau ac arlein i rhoi diwedd ar y stigma a’r gwahaniaethu a’i wynebir gan bobl a phroblemau iechyd meddwl – wedi ennill gwobr am eu cyflawniadau arbennig yn Wobrau Gwirfoddolwyr y Flwyddyn Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

 

Roedd Manon Lewis, Eiriolwr o Gaerfyrddin, yn ennillydd ddwywaith, wedi iddi dderbyn gwobr hefyd am fod yn Wirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn. 

 

Cynheliwyd y digwyddiad hwn gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd.  Bu 17 o enillwyr i gyd mewn chwe chategori enwebu sef oedolion, gwirfoddolwr ifanc (o dan 25 oed), grwpiau, gwirfoddolwyr 'gwyrdd', gwirfoddolwyr rhyngwladol ac ymddiriedolwyr. Cafwyd y gwobrau'n eu cyflwyno gan Jeff Cuthbert AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Llywodraeth Cymru.

'Mae'n destun balchder i ni fod gennym gyfoeth o wirfoddolwyr ymroddedig yng Nghymru sy'n rhoi o'u hamser mewn modd mor anhunanol er mwyn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r cymunedau lle maen nhw'n byw,' meddai Phil Jarrold, Prif Weithredwr Dros Dro WCVA.  

'Mae Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru yn gyfle i ni roi rhywbeth yn ôl iddynt am eu hymdrech, drwy ddiolch iddynt ar lwyfan cenedlaethol.'

Dywedodd y Gweinidog, Jeff Cuthbert: 'Rwyf wrth fy modd i helpu coffau a diolch i'r unigolion a'r grwpiau niferus sy'n gwneud gwaith gwych ar draws Cymru, o'u gwirfodd.  Mae WCVA yn dweud wrthyf fod miliwn o wirfoddolwyr yng Nghymru, ac mewn gwlad o dair miliwn, mae yn dweud llawer wrthym.'

Cesglir wobr grwp Eiriolwyr Amser i Newid Cymru gan nifer o Eiriolwyr, ar rhan mwy na 300 sydd yn weithgar o amgylch Cymru. Siaradodd un Eiriolwr, Mark Smith, wrth gasglu’r webr, gan apelio at wirfoddolwyr o bob sefydliad i siarad am iechyd meddwl. Dywedodd ‘dychmygwch y gwahaniaeth y gwneiff os fyse pob gwirfoddolwr yng Nghymru yn dechre sgwrs am iechyd meddwl’.

Dywedodd Rheolwr Amser i Newid Cymru, Ant Metcalfe:

‘Mae’r wobrau yma yn destament i’r cyfraniadau a wneir gan y pobl hynny a profiad o fyw a problemau iechyd meddwl sydd wrth galon Amser i Newid Cymru. Rydym yn falch iawn i weld y cydnabyddiaeth cenedlaethol hyn i’r holl Eiriolwyr sydd yn rhan o’r ymgyrch ac yn gwneud gwahaniaeth o amgylch Cymru pob dydd.’

 

Os hoffech chi fod yn Eiriolwr Amser i Newid Cymru, cliciwch yma.

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy