Mae Amser i Newid Cymru yn falch o lansio ei adroddiad effaith (2018-2021)

Nod yr adroddiad hwn yw tynnu sylw at y cynnydd sylweddol a wnaed tuag at wireddu gweledigaeth o sicrhau bod Cymru yn wlad gynhwysol.

1st July 2021, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Mae Amser i Newid Cymru yn falch o lansio ei adroddiad effaith, sy'n nodi ac yn dathlu ei waith gwrthstigma rhwng 2018 a 2021. Nod yr adroddiad hwn yw tynnu sylw at y cynnydd sylweddol a wnaed tuag at wireddu gweledigaeth o sicrhau bod Cymru yn wlad gynhwysol lle nad yw stigma na gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn cyfyngu ar fywydau pobl.

Isod ceir rhai o'r pwyntiau allweddol o'r adroddiad:

  • 106 – Nifer y sgyrsiau gwrthstigma a roddwyd gan hyrwyddwyr unigol
  • 187 – Nifer y sefydliadau sydd wedi ymrwymo hyd yma (72 yng Ngham 3) sy'n cynrychioli tua 320,000 o gyflogeion yng Nghymru – tua chwarter y gweithlu yng Nghymru
  • 666 – Nifer yr hyrwyddwyr i gyflogeion a gafodd hyfforddiant gyda ni
  • 92% – Canran y cyflogwyr sydd wedi gweld newid cadarnhaol o ganlyniad i lofnodi'r addewid
  • Lansiwyd pecyn cymorth newydd i gyflogwyr yn 2019 ac, yn sgil hynny, mae mwy na 300 o gyfrifon cyflogwyr wedi cael eu hagor i gefnogi lles yn y gweithle
  • 75% – Canran yr hyrwyddwyr a nododd eu bod yn fwy hyderus o ganlyniad i gymryd rhan yn Amser i Newid Cymru
  • 12,258 o ddilynwyr ar Twitter (cynnydd o 19%)
  • 15,692 o gefnogwyr ar Facebook (cynnydd o 12%)
  • Mae Siarad yn Hollbwysig, ymgyrch lwyddiannus sy'n codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion
  • Yn yr Arolwg o Agweddau'r Cyhoedd at Salwch Meddwl, mae gan 5% o'r boblogaeth oedolion yng Nghymru agweddau gwell tuag at salwch meddwl, gan ddangos mwy o ddealltwriaeth a goddefiant, sy'n cynrychioli tua 129,000 o oedolion yng Nghymru.

Ynghyd â'n hyrwyddwyr, ein cyflogwyr a'n partneriaid, mae Amser i Newid Cymru wedi cymryd camau sylweddol dros y tair blynedd diwethaf ac mae'r adroddiad hwn yn ceisio tynnu sylw at lawer mwy o brofiadau hyrwyddwyr a chyflawniadau allweddol.

Mae Adroddiad Effaith Amser i Newid Cymru 2018/2021 bellach ar gael i'w lawrlwytho drwy glicio yma.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus.

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy