Datganiad Amser i Newid Cymru yn dilyn cyhoeddiad cyllid yn Lloegr

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan raglen Time to Change Lloegr, rydym am egluro ein safbwynt yn gysylltiedig â'r rhaglen yng Nghymru.

28th October 2020, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan raglen Time to Change Lloegr, rydym am egluro ein safbwynt yn gysylltiedig â'r rhaglen yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol y bydd aelodau gweithredol o’r mudiad Amser i Newid Cymru yn awyddus i wybod am oblygiadau cyhoeddiad Lloegr i Gymru. Hoffem fynegi ein cydsafiad gyda'n cydweithwyr yn Lloegr ar ôl dysgu bod y rhaglen yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021. Rydym yn awyddus i nodi nad yw'r penderfyniad hwn yn cael unrhyw effaith ar unwaith ar ddarpariaeth y rhaglen Amser i Newid yng Nghymru. Mae'r ffrydiau cyllido yn wahanol i Gymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu ein bod yn dilyn ein trywydd cyllido ein hunain y tu hwnt i Fawrth 2021. Byddwn yn rhannu diweddariad pellach ar y canlyniad cyn gynted ag y bydd yn bosibl inni wneud hynny.

Yn y cyfamser, bydd Amser i Newid Cymru yn parhau i gynnal ymgyrchoedd ac yn cyflwyno gweithgaredd i roi diwedd ar stigma a gwahaniaethu ar iechyd meddwl yng Nghymru. Ym mis Tachwedd, byddwn yn cynnal ein hymgyrch iechyd meddwl dynion, Mae Siarad yn Hollbwysig, a byddwn yn nodi Diwrnod Amser i Siarad ar 4 Chwefror 2021 fel rhan o ymgyrch 4 gwlad ledled y DU.

Mae hyrwyddwyr, cyflogwyr ac unigolion yn chwarae rhan hynod bwysig wrth gefnogi cenhadaeth Amser i Newid Cymru i ddod â stigma iechyd meddwl i ben ac felly am y foment, mae'n fusnes fel arfer. Byddwn yn diweddaru y safle yma pan bydd mwy o wybodaeth gennym.

Efallai hoffech

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy

Amser i Newid Cymru 2024 Arolwg Gwerthusiad: Adroddiad Hyrwyddwyr a Chyflogwyr Addunedol Newidiadau Cadarnhaol wrth Leihau Stigma Iechyd Meddwl

14th November 2024, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Darganfyddwch fwy