Ydych chi'n cael eich effeithio gan, neu'n gweithio ym maes iechyd meddwl?

Enillwch £40 wrth helpu ni i brofi gwefan sy'n ymgyrchu i ddiweddu stigma a gwahaniaethu yng Nghymru.

17th July 2018, 12.29pm | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Ydych chi'n cael eich effeithio gan, neu'n gweithio ym maes iechyd meddwl?

Enillwch £40 wrth helpu ni i brofi gwefan sy'n ymgyrchu i ddiweddu stigma a gwahaniaethu yng Nghymru.

 Os oes gennych brofiad o iechyd meddwl (eich hun neu rywun rydych yn ei adnabod), neu os ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol, yn athro, newyddiadurwr neu'n staff adnoddau dynol sydd am roi sylw i stigma iechyd meddwl, mae angen eich help arnom!

Mae'r ymchwil yn ddigon syml: bydd angen i chi ddod i leoliad yng Nghaerdydd ddiwedd Gorffennaf/dechrau mis Awst a threulio awr yn edrych ar y safle a dweud wrthym ni beth rydych chi'n feddwl amdano. Byddwn yn eich talu £40 am eich amser ynghyd â chostau teithio. Byddwn yn cytuno gyda chi ar ddyddiad ac amser penodol i fynychu. Nid oes angen gwaith paratoi nac ymrwymiad pellach. 

Os gallwch chi helpu, e-bostiwch Avril Swift Avril@webusability.co.uk am ragor o wybodaeth. Asiantaeth Ymchwil i'r farchnad yw Web Usability.

Gellir dod o hyd i fanylion amdanom yn www.webusability.co.uk.

 

Efallai hoffech

Mae’n well gan bron i draean o oedolion Cymru gadw’n dawel am iechyd meddwl yn hytrach na mentro sgwrs lletchwith

Datganiad i'r Wasg Diwrnod Amser i Siarad 2025

6th February 2025, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae data newydd yn rhoi ‘cipolwg syfrdanol’ o gyflwr stigma iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil newydd wedi datgelu newid sylweddol yn agweddau’r cyhoedd yng Nghymru.

11th December 2024, 12.00am | Ysgrifenwyd gan AiNC

Darganfyddwch fwy