1. Mae fy sefydliad/cwmni wedi ysgrifennu astudiaeth achos ar gyfer AiNC ac mae wedi’i rhestru yn adran Cyflogwyr y wefan. Beth fydd yn digwydd iddo pan fydd y rhaglen yn cau?
Bydd astudiaethau achos cyflogwyr yn cael eu cadw ar wefan AiNC am 12 mis ar ôl i'r rhaglen ddod i ben. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o etifeddiaeth ein gwaith gyda chyflogwyr ac yn darparu ysbrydoliaeth a syniadau i gyflogwyr eraill sydd am fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl yn y gweithle. Byddwn yn cysylltu â'r holl gyflogwyr sydd wedi darparu astudiaeth achos i ni am eu caniatâd cyn 31 Mawrth.
2. A allaf barhau i gyflwyno gwaith a digwyddiadau Amser i Newid Cymru yn fy ngweithle?
Gallwch. Rydym yn annog ein holl gyflogwyr yn gryf i barhau â’r gwaith gwych hwn y tu hwnt i hyd y rhaglen. Roedd hyn yn rhan gynllun etifeddiaeth y rhaglen i'ch arfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth i barhau â’r genhadaeth bwysig hon yn eich sefydliadau eich hun. Rydym yn eich annog i ddal i arddangos bwrdd addewid Amser i Newid os oes gennych chi un. Gallwch hefyd barhau i gefnogi diwrnodau ymwybyddiaeth iechyd meddwl fel Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a Diwrnod Amser i Siarad.
3. A fydd fy sefydliad neu gwmni yn dal i allu cael mynediad at adnoddau cyflogwr Amser i Newid Cymru ar y wefan ar ôl i’r rhaglen gau?
Byddwch, byddwn yn cadw y wefan yn fyw am 12 mis ar ôl i'r rhaglen ddod i ben a byddwn yn parhau fersiwn llai o’r wefan gan sicrhau bod yr holl adnoddau ar gael i gyflogwyr.
4. A fydd digwyddiadau rhwydweithio pellach yn cael eu cynnal?
Nid ydym yn cynllunio unrhyw ddigwyddiadau rhwydweithio pellach ar ôl 31 Mawrth. Mae hyn am resymau ymarferol o beidio â chael tîm rhaglen yn ei le y tu hwnt iddynt i'w trefnu. Mae digwyddiad nesaf a olaf Rhwydwaith Cyflogwyr Amser i Newid Cymru yn cael ei gynnal arlein ar 19 Chwefror. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol os hoffech fynychu.
5. Ydy diwedd Amser i Newid Cymru yn golygu diwedd Diwrnod Amser i Siarad?
Na, nid yw diwedd Amser i Newid Cymru yn golygu diwedd Diwrnod Amser i Siarad yn awtomatig. Mae Diwrnod Amser i Siarad yn cael ei redeg ar wahân gan bartneriaid cenedlaethol eraill, nid Amser i Newid Cymru yn unig. Gallwch barhau i'w gefnogi, ynghyd â diwrnodau ymwybyddiaeth iechyd meddwl eraill fel Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.
6. Beth fydd yn digwydd i Podlediad Lle i Siarad unwaith y daw’r rhaglen i ben?
Byddwn yn parhau i gynnal y penodau podlediadau am 12 mis ar ôl i'r rhaglen ddod i ben. Os ydych wedi recordio episod gyda ni byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i ofyn am eich caniatâd i barhau i gynnal eich episod am 12 mis arall, yna byddant yn cael eu dileu'n barhaol.
7. Beth fydd yn digwydd i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Amser i Newid Cymru?
Byddwn yn cau ein holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar 31 Mawrth 2025. Mae hyn oherwydd nad yw'r sianeli bellach yn cyflawni eu dibenion gwreiddiol. Bydd ein sefydliadau cynnal yn parhau â'r ddeialog am waith gwrth-stigma ar eu sianeli nhw.
8. Pa gyfleoedd eraill sydd ar gael i’m sefydliad ynghylch iechyd meddwl yn y gwaith?
Byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi rannu eich profiad byw ar draws Adferiad a Mind Cymru. Oherwydd rhesymau diogelu data a throsglwyddo data, ni allwn drosglwyddo eich manylion i'n sefydliadau cynnal ar eich rhan.
9. Beth fydd yn digwydd i’r manylion am fy musnes neu sefydliad sy’n cael eu harbed gan dîm Amser i Newid Cymru?
Bydd yr holl ddata personol sy'n ymwneud â Chyflogwyr a phersonau cyswllt yn cael ei ddinistrio a'i ddileu ar 31 Mawrth. Mae hyn oherwydd cyfraith Diogelu Data nad yw’n caniatáu i ni gadw na throsglwyddo eich data i’n sefydliadau cynnal. Byddwn yn darparu rhestr o gyfleoedd y gallwch optio i mewn iddynt a rhannu eich manylion gydag Adferiad a/neu Mind os dymunwch.
10. A fydd unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol i gyflogwyr gyda'ch sefydliadau?
Tra bod rhaglen bresennol Amser i Newid Cymru yn dod i ben, byddwn yn anfon gwybodaeth at bob Cyflogwr am sut i gymryd rhan yng nghyfleoedd Adferiad a Mind Cymru yn y gwaith. Dilynwch hefyd gyfrifon Adferiad a Mind/Mind Cymru ar eu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gwefannau.
Adferiad - Facebook, X (formerly Twitter), Instagram, LinkedIn
Mind Cymru - Facebook, Instagram, LinkedIn
Mind - Facebook, Instagram, LinkedIn, BlueSky
11. A fydd unrhyw arolygon dilynol neu gyfle i gasglu adborth Cyflogwyr ar y rhaglen?
Bydd, rydym yn gwerthfawrogi eich mewnbwn ac rydym yn bwriadu creu cyfleoedd i Gyflogwyr adrodd yn ôl ar eu profiadau gydag ymgyrch Amser i Newid Cymru cyn diwedd mis Mawrth. Byddwn yn cysylltu trwy abost am hyn. Bydd y data dienw hwn yn cael ei ddefnyddio fel gwersi a ddysgwyd gan ein sefydliadau cynnal i’w hystyried ar gyfer unrhyw waith gwrth-stigma yn y dyfodol. Byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth gyda hyn yn fawr.
Am ragor o gefnogaeth neu unrhyw gwestiynau eraill nad ydynt wedi'u rhestru yma, cysylltwch â:
Lowri Wyn Jones, Rheolwarig Rhaglen Amser i Newid Cymru - l.wynjones@timetochangewales.org.uk
Rachelle Bright, Arweinydd Ymgysylltiad Cyflogwyr a’r Gymuned - r.bright@timetochangewales.org.uk
Amanda Pearce, Swyddog Ymgysylltiad Cyflogwyr a’r Gymuned - a.pearce@timetochangewales.org.uk