Bydd 1 o bob 10 o bobl ifanc yn cael problemau iechyd meddwl, a gall y stigma a'r camwahaniaethu sy'n dod yn ei sgil yn aml wneud bywyd yn anoddach fyth.
Mae stigma'n atal pobl ifanc rhag ceisio help; mae'n eu rhwystro rhag byw bywydau normal, ac weithiau mae'n peri iddynt roi'r gorau i'w gobeithion a'u breuddwydion.
Rydyn ni am newid hyn er gwell. Drwy ein Rhaglen Pobl Ifanc, rydyn ni'n bwriadu cynyddu ymwybyddiaeth ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl, lleihau effeithiau negyddol stigma a chamwahaniaethu, a gwella hyder pobl ifanc fel y gallant siarad yn fwy agored ynglŷn ag iechyd meddwl.
Sut rydyn ni'n gwneud hyn
Rydyn ni'n cynnal cynllun peilot ar gyfer ymagwedd ysgol-gyfan mewn naw o ysgolion ar draws Cymru, gan weithio gyda disgyblion, athrawon a rheini i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth ynglŷn ag iechyd meddwl. Gyda'u help nhw, rydyn ni'n creu adnoddau sy'n llawn gwybodaeth ddefnyddiol, fydd ar gael i helpu ysgolion ledled Cymru i ddechrau eu sgyrsiau eu hunain am iechyd meddwl.
Bydd ein Hyrwyddwyr Ifanc - pobl ifanc rhwng 18 a 30 oed, sydd wedi byw drwy broblemau iechyd meddwl - yn mynd i mewn i ysgolion, colegau a mudiadau ieuenctid i rannu eu straeon a helpu i ddileu stigma. Os ydych chi am gyfranogi yn yr ymgyrch, gallwch ymuno â ni fel Hyrwyddwr Ifanc.
“Mae profiadau negyddol yn mynnu eich holl sylw; caiff profiadau cadarnhaol eu hanghofio neu eu diystyru. Mae fel bod â Dementor yn eich dilyn chi o amgylch y lle ac yn eich rhwystro rhag gwneud pethau."
Byddwn yn cyhoeddi straeon personol a vlogs wedi'u creu gan bobl ifanc, yn ogystal â chynnal ymgyrchoedd uchel-eu-proffil yn y cyfryngau i godi ymwybyddiaeth. (Beth am gadw llygad ar ein cyfryngau cymdeithasol yn nes ymlaen eleni?)
Ble ydw i'n gallu cael gafael ar fwy o wybodaeth am iechyd meddwl?
Gallwch ganfod mwy am beth yw iechyd meddwl a sut i siarad amdano. Os ydych chi'ch cael problemau iechyd meddwl neu os ydych chi angen cymorth ar frys, mae yna amryw o lefydd y gallwch chi gael help, gan gynnwys opsiynau sy'n benodol ar gyfer pobl ifanc.