Gwella bywydau wrth roi diwedd ar stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl yng Nghymru

Diweddariad Pwysig

Gyda chalon drom rydym yn cyhoeddi y bydd Amser i Newid Cymru, ein rhaglen gwrth-stigma genedlaethol yn dod i ben ar y 31 o Fawrth 2025. Mae hyn oherwydd nad ydym wedi sicrhau cyllid parhaol y tu hwnt i’r cyfnod presennol hwn. Ers ei sefydlu yn 2012, mae’r rhaglen hon wedi bod yn allweddol wrth godi ymwybyddiaeth, cefnogi unigolion, ac eiriol dros newid yn y ffordd y mae iechyd meddwl yn cael ei ganfod a’i drafod ar draws systemau a chymdeithas.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cael y fraint o weithio gyda gwirfoddolwyr, partneriaid a chyflogwyr anhygoel sydd wedi rhannu eu straeon, cyfrannu eu hamser, a hyrwyddo’r achos. Gyda’n gilydd, rydym wedi cyflawni cymaint o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a herio stigma yn rhai o’r mannau mwyaf heriol.

Er bod y rhaglen waith hon yn dod i ben, mae’r ymrwymiad i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl yn parhau ar draws y ddau o’n sefydliadau cynnal Adferiad a Mind Cymru. Rydym yn annog pawb sydd wedi bod yn rhan o’r daith hon i barhau â’r sgwrs, cefnogi ei gilydd, ac eiriol dros Gymru ddi-stigma, i bawb.

Estynnwn ein diolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi Amser i Newid Cymru dros y degawd diwethaf a mwy – ein Hyrwyddwyr, Cyflogwyr Addunedol a phartneriaid, a’r cymunedau rydym wedi’u gwasanaethu. Hefyd, diolch o galon i’n cyllidwyr yn Llywodraeth Cymru am gefnogi a hyrwyddo gwaith gwrth-stigma yng Nghymru.

Am ragor o fanylion neu gefnogaeth cysylltwch â'r tîm ar info@timetochangewales.org.uk neu ewch i dudalenau gwestiynau cyffredin Hyrwyddwyr a Chyflogwyr. 

Cadwch mewn cysylltiad â sianeli cyfrnygau cymdeithasol ein partneriaid:

Adferiad - FacebookX (formerly Twitter)InstagramLinkedIn

Mind Cymru - FacebookInstagramLinkedIn 

Ewch i'n Cwestiynau Cyffredin am Hyrwyddwyr

Ewch i'n Cwestiynau Cyffredin Cyflogwyr Addewid

Ymgyrchoedd

Ymgyrch Os Yw Hi’n Oce

Nod yr ymgyrch ‘Os yw hi’n oce…’ yw mynd i’r afael â’r effaith negyddol y mae cywilydd yn ei chael ar y rhai sy’n byw gyda salwch meddwl yng Nghymru a ledled y DU.

Darganfyddwch fwy yma
Ein heffaith

Mae'r ymdrechion diflino a welwyd mewn gweithleoedd, cymunedau a gwasanaethau wedi cyfrannu'n sylweddol at newid cadarnhaol mewn cymdeithas yng Nghymru.

Darganfyddwch fwy

Beth yw iechyd meddwl?

Mewn gwirionedd, gall problemau iechyd meddwl fod yn fwy cyffredin na'r disgwyl. Caiff un o bob pedwar ohonom ei effeithio gan salwch meddwl yn ystod unrhyw flwyddyn.

Darganfyddwch fwy

Angen cymorth?

Os ydych yn profi problemau iechyd meddwl neu os oes angen cymorth brys arnoch, mae llawer o lefydd y gallwch fynd am help.

Cael help
Cysylltu â ni

Ymgyrchu i rhoi diwedd ar stigma #iechydmeddwl yng Nghymru

Ymgyrchoedd

Mae Siarad Yn Holl Bwysig

Gall dynion ffeindio siarad am iechyd meddwl yn arbennig o annodd, ond mae siarad yn holl bwysig. Mae'n amser i ni ofyn y cwestiwn o ran iechyd meddwl dynion.

Darganfyddwch fwy