Dosbarth Meistr y Cyflogwr

Archebwch le ar un o’n sesiynau hyfforddi dosbarth meistr awr newydd ar y pynciau canlynol isod.

Yn Amser i Newid Cymru rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o helpu a chefnogi ein Sefydliadau Addunedol a Chyflogwyr Cymru yn eu cyfanrwydd i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu yn y gweithle.  Yn ddiweddar rydym wedi creu sesiynau hyfforddi byr dim ond un awr newydd ar y pynciau canlynol:

  1. Beth yw stigma iechyd meddwl?
  2. Sut i gael sgyrsiau iechyd meddwl da?
  3. Pam mae angen Hyrwyddwyr iechyd meddwl arnom yn y gweithle?

Mae’r sesiynau hyn yn addas ar gyfer Hyrwyddwyr o fewn y sefydliad neu’r rhai sydd â diddordeb mewn cefnogi ymgyrch Amser i Newid Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am bob sesiwn ac i archebu lle, gweler isod.

Beth yw stigma iechyd meddwl?

Amcanion y sesiwn hon yw:

  • Dysgu fwy am Amser i Newid Cymru
  • Dysgu am bwysigrwydd deall stigma iechyd meddwl
  • O ble mae'n dod?
  • Beth mae'n edrych fel?
  • Sut i herio stigma a gwahaniaethu
  • Sut i greu amgylcheddau sy'n rhydd o stigma a gwahaniaethu

Dyddiadau sydd ar gael:

Sut i gael sgyrsiau iechyd meddwl da?

Amcanion y sesiwn hon yw:

  • Dysgu fwy am Amser i Newid Cymru
  • Archwilio’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer sgwrs dda am iechyd meddwl

                   - Sut i fod yn wrandäwr gweithredol da
                   - Meithrin empathi a hunanfyfyrdod

  • Dysgu am stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu
  • Pwysigrwydd cyfeirio

Dyddiadau sydd ar gael:

Pam mae angen Hyrwyddwr iechyd meddwl arnom yn y gweithle?

  • Amcanion y sesiwn hon yw:
  • Dysgu fwy am Amser i Newid Cymru
  • Deall effaith iechyd meddwl yn y gweithle
  • Archwilio bwysigrwydd Hyrwyddwyr Gweithle
  • Sut i gael y gorau o Hyrwyddwyr Gweithle

Dyddiadau sydd ar gael:

Gall y sesiynau hyn hefyd gael eu darparu ar gyfer eich sefydliad yn dibynnu ar niferoedd ac argaeledd.

Cysylltwch ag, Arweinydd Ymgysylltu Cymunedol a Chyflogwyr, Amser i Newid Cymru, Rachelle Bright yma i drefnu sesiwn, fel arall gallwch gysylltu â ni yma i drafod eich opsiynau hyfforddi.