Drwy roi mesurau fel hyn ar waith, gallwch helpu eich holl gyflogeion i gynnal iechyd meddwl da, a lleihau'r risgiau o waeledd, straen, pryder neu salwch meddwl mwy difrifol.
- sicrhau bod gan gyflogeion gydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd
- bod yn glir am gyfrifoldebau a disgwyliadau
- rhoi hyblygrwydd i gyflogeion o ran oriau gwaith
- annog digwyddiadau cymdeithasol a digwyddiadau chwaraeon ymysg staff
Lle i ddechrau?
Mae siarad am iechyd meddwl yn helpu i fynd i'r afael â gwahaniaethu - helpwch eich cydweithwyr i siarad yn fwy agored a gonest drwy hyrwyddo ein hawgrymiadau siarad.
Mae llawer o adnoddau ar gael i helpu i wneud eich gweithle yn iachach a hapusach. Byddant yn dangos i chi:
- sut i gynorthwyo cyflogai sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl
- sut i siarad â chyflogai sydd mewn trallod
- sut i gadw mewn cysylltiad yn ystod absenoldeb oherwydd salwch
- pa fath o addasiadau i'w hystyried pan fydd cyflogai yn dychwelyd i'r gwaith
Cysylltiadau defnyddiol
- Hyrwyddo lles meddwl drwy greu amodau gwaith cynhyrchiol ac iach: canllaw i gyflogwyr Canllaw Nice 2009
- Pam bod cyflogeion yn dod i'r gwaith pan maent yn sâl? Archwiliad gan Y Sefydliad Gwaith 2010
- Iechyd Meddwl yn y Gweithle - canllaw i gyflogwyr Adnodd manwl gan Mind
- Gall yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch eich helpu i atal straen sy'n gysylltiedig â gwaith a chydymffurfio â'r gyfraith.
- Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi llunio 'canllaw ar gyfer datblygu polisi iechyd meddwl yn y gweithle'.
Pa mor iach yw diwylliant eich cwmni?
- Mae Gweithle Mind yn darparu ymgynghoriaeth a hyfforddiant i gyflogwyr er mwyn eu helpu i reoli iechyd meddwl a manteisio i'r eithaf ar wir botensial eu cwmni.