Gall hyn gynnwys cytuno ar gynllun 'dychwelyd i'r gwaith' sy'n raddol gynyddu'r oriau y bydd aelod o dîm yn eu gweithio ar ôl bod i ffwrdd yn sâl. Efallai y bydd angen ychydig mwy o hyblygrwydd o ran yr oriau gwaith neu'r gefnogaeth a gynigir gan reolwyr llinell.
Siarad â rhywun am broblem iechyd meddwl
Gall yr ofn a'r mythau sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl ei gwneud yn anodd siarad â chyflogwyr am iechyd meddwl. Darllenwch ein hawgrymiadau siarad i'ch helpu i ddechrau'r sgwrs.
Salwch byrdymor
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi llunio rhestr wirio wych o'r hyn y dylid ei wneud yn ystod absenoldeb oherwydd salwch a'r hyn na ddylid ei wneud er mwyn helpu cyflogwyr a staff Adnoddau Dynol.
O nodyn salwch i nodyn ffitrwydd
Ym mis Ebrill 2010, newidiodd y nodyn salwch yn nodyn ffitrwydd. Mae'r wefan hon gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn esbonio sut mae'n gweithio.
Cynlluniau Gweithredu Ar Gyfer Gwella Lles
Adnodd 'hunanreoli' yw Cynlluniau Gweithredu Ar Gyfer Gwella Lles (WRAP) a ddefnyddir i helpu unigolion i gael mwy o reolaeth dros eu lles a'u gwellhad eu hunain. Mae'r wefan hon yn cynnig gwybodaeth ac adnoddau pellach am y dull gweithredu.
Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl a Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Gall cynnig hyfforddiant i reolwyr a chyflogeion fod yn ddefnyddiol iawn i ddatgyfeirio problemau iechyd meddwl a rhoi'r sgiliau iddynt gefnogi pobl sy'n dangos symptomau fel straen, pryder, paranoia neu iselder. Mae'r dolenni hyn yn rhoi mwy o wybodaeth am hyfforddiant a allai helpu eich sefydliad: