Byddwch yn Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru
Diolch yn fawr iawn i chi am eich amynedd gyda ni dros y flwyddyn ddiwethaf heriol wrth i ni atal ein hyfforddiant i fod yn Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru. Er na allwn ni gwrdd wyneb yn wyneb o hyd, rydym ni wedi addasu ein hyfforddiant fel y gallwn ni ddechrau ei gyflwyno yn rhithwir, drwy Zoom.
Mae Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru yn wirfoddolwyr sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl. Maen nhw wrth galon ymgyrch Amser i Newid Cymru, gan herio stigma yn eu cymunedau eu hunain, ymgyrchu yn y cyfryngau a rhannu eu straeon.
Mae ein hyrwyddwyr yn:
- Rhannu eu straeon â chyflogwyr a grwpiau cymunedol
- Helpu mewn digwyddiadau a chymryd rhan mewn prosiectau cymunedol
- Ysgrifennu blogiau ar gyfer ein gwefan
Mae rhai hyrwyddwyr hefyd yn gwirfoddoli yn ein swyddfeydd, yn cyfrannu at straeon yn y wasg a'r cyfryngau neu'n helpu i ymgyrchu ar-lein.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n angerddol ynglŷn â lleihau'r stigma a'r camwahaniaethu sy'n perthyn i iechyd meddwl er mwyn ein helpu â'r Rhaglen Pobl Ifanc. Efallai bod gennych chi brofiadau eich hun neu eich bod yn agos at rywun sydd wedi cael profiadau o'r fath. Yn ddelfrydol byddwch rhwng 18 a 30 oed, ond rydym yn hapus i glywed gan bobl o unrhyw oedran sydd â chysylltiad agos â phobl ifanc, er enghraifft y rheiny sy'n gweithio gyda nhw neu sydd â phlant yn eu harddegau. Fel Hyrwyddwr Pobl Ifanc bydd gennych y cyfle i wneud y canlynol:
- Derbyn hyfforddiant a chymorth i rannu eich stori mewn ysgolion, prifysgolion a grwpiau ieuenctid.
- Cynrychioli AiNC mewn digwyddiadau pobl ifanc
- Chwarae rhan yn yr ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol sydd gennym ni ar y gweill a helpu i gynllunio'r hyn fyddwn ni'n ei wneud nesaf
- Ysgrifennu blogiau / creu fideos ar gyfer ein gwefan
Os oes gennych chi syniadau eraill ar gyfer sut i helpu gyda'n hymgyrch pobl ifanc, byddem wrth ein bodd clywed amdanynt.
Os hoffech chi ddod i'n hyfforddiant rhithwir, rhowch wybod i ni drwy e-bostio info@timetochangewales.org.uk. Bydd lle i 12 o bobl ar gyfer pob cyfres o ddyddiadau – bydd angen i chi ymrwymo i ddod i'r ddwy sesiwn – felly cofiwch drefnu lle yn gynnar. Mae ein dyddiadau hyfforddiant fel a ganlyn.