Mae anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) yn anhwylder gorbryder lle mae meddyliau annymunol, cymelliadau a gweithgareddau ailadroddus yn eich rhwystro rhag byw bywyd fel y mynnwch. Mae pobl ag OCD yn aml yn ceisio ymdopi tan na allant guddio'r symptomau mwyach. Gall hyn wneud iddynt deimlo'n unig iawn a'i gwneud yn anoddach trechu'r cyflwr.
Beth yw OCD?
Mae gan anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) ddwy ran fel arfer: obsesiynau a chymelliadau. Meddyliau, syniadau neu ysfeydd annymunol yw obsesiynau, sy'n ymddangos yn y meddwl dro ar ôl tro ac yn amharu ar fywyd bob dydd.
Gweithgareddau ailadroddus rydych yn teimlo y mae'n rhaid i chi eu gwneud yw cymelliadau, fel arfer i leddfu'r gorbryder a'r trallod a achosir gan y meddyliau obsesiynol.
Credir bod gan rhwng 1 a 2 y cant o'r boblogaeth OCD sy'n ddigon difrifol i amharu ar eu bywyd arferol. Gall effeithio ar bobl o bob oedran ac o bob cefndir.
Dysgwch fwy am symptomau, triniaethau ac awgrymiadau ar gyfer ei reoli ar wefannau'r NHS a Mind.
Y stigma sy'n gysylltiedig ag OCD
Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin, ond mae bron i naw o bob deg o bobl sy'n wynebu problemau o'r fath yn dweud eu bod yn wynebu stigma a gwahaniaethu o ganlyniad i hynny.
Gall y stigma a'r gwahaniaethu hwn fod yn un o'r rhannau anoddaf o'r profiad, oherwydd gall olygu colli cyfeillgarwch, cael eich ynysu, cael eich allgáu o weithgareddau, anawsterau o ran cael swydd a'i chadw, methu dod o hyd i help a phroses wella arafach. Yn yr un modd, gall stigma achosi i ni fod ofn siarad â'r bobl o'n cwmpas a all fod angen ein cymorth.
Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Mae siarad am iechyd meddwl yn dangos i rywun eich bod yn poeni amdanynt. Mae'n cynorthwyo'r broses wella ac yn aml caiff cyfeillgarwch ei gryfhau.
"Caiff OCD ei stereoteipio'n aml, ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn deall yn union beth ydyw, felly ceir pryderon ynghylch y farn y bydd pobl yn ei llunio oherwydd anwybodaeth."