Arweiniwch
Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi bod yn sâl, peidiwch ag ofni gofyn sut maen nhw.
Peidiwch ag osgoi'r broblem
Os daw rhywun atoch chi i siarad, peidiwch â'i anwybyddu - mae'n bosib bod hwn yn gam anodd iawn iddyn nhw.
Siaradwch, ond gwrandewch hefyd.
Bydd bod gerllaw yn werth llawer.
Osgowch ystrydebau
Bydd ymadroddion fel “Gwena”, “Bydd popeth yn iawn”, “Sorta dy hunan mas” yn sicr o waethygu'r drafodaeth. Ond bydd bod yn benagored, peidio â beirniadu a gwrando yn helpu.
Gwnewch fwy na dim ond siarad am iechyd meddwl
Dim ond un rhan o'r person yw iechyd meddwl a dydy pobl ddim am gael eu diffinio ganddo. Sicrhewch eich bod chi'n parhau i siarad am y pethau rydych chi'n siarad amdano drwy'r amser.
Atgoffwch nhw eich bod chi'n meddwl amdanynt
Gall pethau bach wneud gwahaniaeth mawr
Byddwch yn amyneddgar
Mae bywyd yn gymysgedd o lawenydd a gofid.
Mae gweithredoedd yn bwysig hefyd, felly ystyriwch gadw mewn cysylltiad gyda neges destun, e-bost neu nodyn i roi gwybod i rywun eich bod chi'n meddwl amdanyn nhw.
Os ydych yn profi problemau iechyd meddwl neu os oes angen cymorth brys arnoch, mae llawer o lefydd y gallwch fynd am help ar ein tudarlen cymorth.