Cadarnhawyd y bydd Diwrnod Amser i Siarad 2025 ar ddydd Iau 6 Chwefror 2025.
Bydd mwy o fanylion am Ddiwrnod Amser i Siarad 2025 yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Cynhelir Diwrnod Amser i Siarad 2024 ddydd Iau 1 Chwefror.
Thema eleni yw annog pobl i siarad am sut maen nhw wir yn teimlo. Weithiau mae'n haws dweud wrth bobl ein bod ni'n 'iawn' na dweud sut rydyn ni'n teimlo mewn gwirionedd. Drwy siarad am iechyd meddwl gallwn chwalu mythau a chwalu rhwystrau.
Ar Ddiwrnod Amser i Siarad gofynnwn i bawb yng Nghymru gael sgwrs am iechyd meddwl. Mae’r diwrnod yn gyfle i bob un ohonom fod yn fwy agored am ein hiechyd meddwl a siarad am sut rydym yn teimlo mewn gwirionedd. Mae hefyd yn ymwneud â chreu cymunedau cefnogol trwy gael sgyrsiau gyda theulu, ffrindiau, neu gydweithwyr am iechyd meddwl. Mae gennym ni i gyd iechyd meddwl, trwy siarad amdano gallwn gefnogi ein hunain ac eraill.
Mae Diwrnod Amser i Siarad yn ymgyrch pedair gwlad sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn y DU. Mae Diwrnod i Siarad yn cael ei redeg gan See Me, gyda SAMH (Scottish Association for Mental Health) yn yr Alban, gan Mind a Rethink Mental Illness yn Lloegr, Inspire and Change Your Mind yng Ngogledd Iwerddon ac Amser i Newid Cymru.
Yng Nghymru, mae Amser i Siarad yn cael ei redeg gan Amser i Newid Cymru, Adferiad a Mind Cymru, ac mewn partneriaeth â’r Co-op. Ariennir ymgyrch Amser i Newid Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Pam mae siarad yn bwysig
Mae problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli - gan effeithio ar un o bob pedwar ohonom. Ac eto mae pobl yn dal i fod ofn siarad am iechyd meddwl, gan wneud i rai pobl deimlo'n gywilydd neu'n ynysig.
Rydyn ni eisiau i bawb deimlo'n gyfforddus yn siarad am iechyd meddwl - pryd bynnag maen nhw'n hoffi.
Mae siarad am iechyd meddwl yn lleihau stigma, gan helpu i greu cymunedau cefnogol lle gallwn siarad yn agored am iechyd meddwl a theimlo wedi’n grymuso i geisio cymorth pan fydd ei angen arnom.
Dyna pam mae agor y sgwrs am broblemau iechyd meddwl mor bwysig - trwy siarad amdano gallwn gefnogi ein hunain ac eraill.
Mae Diwrnod Amser i Siarad yn gyfle perffaith i ddechrau sgwrs am iechyd meddwl.
Tecstiwch ffrind, sgwrsiwch gyda chydweithiwr, codwch ymwybyddiaeth yn eich cymuned neu rhannwch rywbeth ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #AmserISiarad.
Gadewch i ni siarad am iechyd meddwl.