Oherwydd bod Amser i Newid Cymru yn canolbwyntio ar herio gwahaniaethu mewn cymdeithas, nid oes modd i ni roi cymorth unigol neu ar frys i bobl mewn argyfwng. Ond mae llawer o bobl yn gallu cynnig cymorth. Maent wedi eu rhestru isod:
CALL (Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol)
Ffôn 0800 132 737
Gwefan www.callhelpline.org.uk
Mae'n cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth/taflenni am Iechyd Meddwl a materion cysylltiedig i bobl yng Nghymru. Gall unrhyw un sy'n pryderu am ei iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind ddefnyddio'r gwasanaeth. Mae Llinell Gymorth C.A.L.L. yn cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol.
Galw Iechyd Cymru
Ffôn 0845 4647
Gwefan www.nhsdirect.wales.nhs.uk
Cyngor iechyd 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Llinell wybodaeth Mind
Ffôn 0300 123 3393 (9am-5pm Monday to Friday)
E-bost: info@mind.org.uk
Gwefan: www.mind.org.uk
Mae Mind yn darparu gwasanaethau gwybodaeth cyfrinachol ar iechyd meddwl. Gyda chymorth a dealltwriaeth, mae Mind yn galluogi pobl i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Mae'r Llinell Wybodaeth yn rhoi gwybodaeth ar bob math o drallod meddwl, lle i gael cymorth, triniaethau â chyffuriau, therapïau amgen ac eiriolaeth. Mae gan Mind hefyd rwydwaith o bron i 200 o gymdeithasau Mind lleol sy'n darparu gwasanaethau lleol.
Llinell Gyngor Rethink Mental Illness
Ffôn 0845 456 0455 (10am - 1pm dydd Llun i ddydd Gwener)
E-bost: info@rethink.org
Gwefan: www.rethink.org
Yn rhoi cymorth a gwybodaeth arbenigol i bobl â phroblemau iechyd meddwl a'r sawl sy'n gofalu amdanynt, yn ogystal â rhoi cymorth i weithwyr iechyd proffesiynol, cyflogwyr a staff. Mae Rethink hefyd yn cynnal gwasanaethau a grwpiau Rethink ar draws Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Papyrus
Ffôn: 0800 068 41 41
Gwefan: www.papyrus-uk.org
Papyrus Atal Hunanladdiad Ifanc yw’r elusen yn y DU sy’n ymroddedig i atal hunanladdiad a hybu iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol pobl ifanc.
Rehab 4 Addiction
Ffôn: 0800 140690
Gwefan: www.rehab4addiction.co.uk
A yw camddefnyddio sylweddau wedi cael effaith arnoch chi neu un o'ch anwyliaid? Mae Rehab 4 Addiction yn cynnig amrywiaeth o gymorth cyfeirio a gwybodaeth am y triniaethau mwyaf effeithiol sydd ar gael i'ch helpu.
Saneline
Ffôn: 0845 767 8000 (6pm-11pm)
Gwefan: www.sane.org.uk
Mae Saneline yn llinell gymorth iechyd meddwl genedlaethol sy'n rhoi gwybodaeth a chymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl a'r rhai sy'n eu cefnogi. Os ydych yn ofalwr sydd angen cymorth, gallwch gysylltu â'r holl sefydliadau uchod, yn ogystal â Carers Direct ac Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr, a fydd oll yn gallu rhoi cymorth a chyngor i chi ar unrhyw faterion sy'n effeithio arnoch.
Y Samariaid
Ffôn: 08457 90 90 90 (24 awr y dydd)
E-bost jo@samaritans.org
Gwefan www.samaritans.org
Rhoi cymorth emosiynol cyfrinachol heb farnu i unrhyw un sy'n teimlo gofid neu anobaith, gan gynnwys y rheini a allai arwain at hunanladdiad. Gallwch ffonio, e-bostio, ysgrifennu llythyr neu siarad â rhywun wyneb yn wyneb yn y rhan fwyaf o achosion.